Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

10.1.16

Crwydro- lawr yn y ddinas

Trip arall i Gaerdydd ddoe. Danfon yr hynaf 'nôl i'r brifysgol ar ôl mis o gael ei bwydo adra!


Torri'r siwrna trwy biciad i Abaty Cwm Hir, a dod o'na yn fwd a cachu defaid i gyd. 'Does dim uffar o beryg bysa safle sy'n bwysig i'r Saeson mewn cyflwr mor druenus. Ma' isio 'mynadd efo Cadw.
Dod o'na hefyd yn pendroni pryd fues i ddwytha...


Mis Mawrth 1989! Efo Jôs Mawr, Dei Mur, Prysor, a Ffredo, ar y ffordd adra o benwythnos rygbi yn y brifddinas.

Cyfnod cyffrous o fynd mewn criw yn achlysurol i wylio rygbi; dro arall i rali Cilmeri, ac i gigs ac yn y blaen.

Mynd tro cynta i'r ddinas tua 1986 dwi'n meddwl efo addewid o fynd i gig yn rhywle egsotig o'r enw Clwb Ifor Bach, a chyri ganol nos.

Gwylio'r rygbi mewn tafarn. Wedyn mynd ar goll. Dim syniad pam. Na sut. Tydi'r cof ddim wedi cadw manylion felly. Colli pawb, wedyn crwydro am oes heb nabod neb na nunlla. Esu: lle di-gysur ydi dinas ddiarth os ti ar ben dy hun, ac uffar o neb yn siarad dy iaith! Petha handi ydi ffôns symudol rwan 'de.

Ffeindis i'r 'ogia tua dau y bore mewn lle burgers os dwi'n cofio'n iawn. Diolch byth, achos doedd gen i ddim clem sut i ffeindio'n ffordd 'nôl at y tŷ lle oedden ni'n crashio ar hen three-piece-suite.

O'n i ddim ar frys i fynd 'nôl i'r brifddinas wedyn.

Ond da ydi'r ymenydd am faddau pethau annifyr, oherwydd yn ôl mae pawb yn mynd yn'de. Flynyddoedd wedyn, dod i werthfawrogi llefydd fel y Square Club ar Westgate Street. Twll o glwb nos tywyll, ond yn chwarae'r gerddoriaeth indy oedd yn llenwi fy myd i ar y pryd, yn gwerthu cwrw tan 2 y bore, a ddim yn cau am oriau wedyn! Es i adra i'r gogledd ar ôl un penwythnos tua 1990, a ffeindio'r tŷ yn chwilboeth am fy mod i wedi gadael y gril ymlaen ers 48 awr...

Treulio blynyddoedd digalon hefyd yn gwylio bob gêm gartref tîm pedroed Cymru, pan oedden nhw'n boddi wrth ymyl y lan ac yn chwarae'n ddiawledig o sâl bob-yn-ail.

Gweithio bore dydd Mercher, gyrru am dair awr a hanner i gael bwyd a pheint cyn yr anthem; rhuthro i Barc yr Arfau a thynnu gwallt ein pennau am awr a hanner o beldroed difrifol; gyrru 'nôl ar ôl peint arall a chyrraedd adra tua 2 y bore, a chodi i weithio eto dydd Iau.

Brwdfrydedd ifanc. Breuddwyd Gwrach, a gwastraff amser, pres a phetrol. Ond, fyswn i ddim wedi newid hynny am bris y byd 'radag hynny.


Mae lwc y tîm peldroed cenedlaethol wedi newid erbyn hyn; ac mae Caerdydd wedi newid hefyd. Er gwell. Y Gymraeg yn fwy amlwg ym mhob man ac ar bob dim.

Sticeri stryd Caerdydd, Hydref 2015

Rhaid i mi ddeud 'mod i wrth fy modd efo'n prifddinas ni rwan. Dwi ddim yn un o'r gogs 'na sy'n swnian bod pob peth yn mynd i Gaerdydd (o fewn rheswm...). Mae'n bwysig i'n cenedl ni gael prifddinas fodern a chyffrous.

Mi fuon ni yno sawl gwaith ers i'r hynaf o gywion y nyth hedfan i'r brifysgol. Gwyn ei byd. Aethon ni gyd ati am dro hanner tymor, a phiciad allan o'r ddinas i weld Gardd Berlysiau'r Bont-faen ar ddiwrnod olaf Hydref a'r haul yn gynnes.


Lle difyr, yn sicr yn werth ymweliad arall yn yr haf. O, am gael byw yn nes at y cyhydedd!




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau