Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

13.9.15

Seren yr wythnos

Jasmin yr haf.


Jasminum officinale affinum


Yn llenwi'r ardd gefn ar hyn o bryd efo'i arogl sbeislyd arbennig, er mor fach ydi'r blodau.
Mmmmm..

Mae'n tyfu ar wifrau yn erbyn ffens, yn wynebu'r gogledd. Gyda lwc, efo 'chydig o docio priodol yn Chwefror, mi fydd yn llenwi'r lle sydd ar gael iddi efo blodau yn hytrach na changhennau a dail.


2 comments:

  1. Anonymous21/9/15 18:45

    Mae'r jasmin yma'n blodeuo ym mis Mai ac yn cwpla ym Mehefin! Ond mae'r arogl yn ddigon i hala rhywun i l;ewyg.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Mae'n dal i flodeuo'i hochor hi yn fan hyn! Popeth yn hwyr IAWN eleni..

      Delete

Diolch am eich sylwadau