Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

24.6.15

Dilyn y Llwybr Llechog

Mae'r gwaith ar lwybrau'r ardd gefn bron a gorffen, diolch i'r drefn, ac mae gwell trefn yma o'r diwedd.


Mae'r gwely bach onglog tua top y llun yn wely newydd. Glaswellt oedd yn fanno tan wsos dwytha. Ardal flodau gwyllt i fod; ond weithiodd o ddim ar ôl y flwyddyn gynta.

Gwely i dyfu blodau i'w torri ar gyfer y tŷ fydd hwn, ond mae'n rhy hwyr i wneud hynny'n iawn eleni, felly 'dan ni wedi plannu cymysgedd o bethau oedd yma ac acw mewn potiau: blodau haul, blodau ŵy, lobelia, marigold, pys pêr.

Mae'r gwely uchaf yn y llun -gwely'r tŷ helyg- wedi cael coed newydd hefyd. Mae llawer i'w wneud eto, ond dwi'n hapus iawn efo be wnaed hyd yma. 'Dwn 'im be 'swn i'n neud heb gymorth y Pobydd a'r Fechan.

Elfen fawr o'r gwaith, cyn creu y llwybrau newydd, oedd llnau'r chwyn o'r ardal gorau fedrwn ni. Gwaith di-ddiwedd myn coblyn i.






Tri chwynnyn poenus: dail arian; blodyn menyn; pumnalen ymlusgol. Bob un yn lledu trwy bob peth arall, ac achosi gwaith diflas trwy'r gwanwyn a'r haf.


Dau fath arall o chwyn diflas ydi glaswellt a marchrawn. Mae'r llun yma'n dangos gwreiddiau gwydn y ddau yn ymledu rhwng brethyn gwrth-chwyn a llechen fawr dwi newydd ei chodi o lwybr, yn chwilio am le newydd i sefydlu, ac i ngwylltio i!

Ond OMB! Dwi ddim isio meddwl am y chwyn sydd ar y rhandir....

2 comments:

  1. Anonymous28/6/15 14:08

    Dwlu ar y llwybrau. Porfa yw'n rhai ni ond byddai cerrig mân lot yn well. Amser!

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Cath; ti'n iawn am yr amser. Mae'r rhandir wedi gorfod mynd heb fawr ddim sylw tra dwi wrthi adra..

      Delete

Diolch am eich sylwadau