Dwi 'di bod yn rhedeg efo'r ferch hynaf i weld prifysgolion, cyn iddi hi adael y nyth. A dwi wedi manteisio ar gyfleon prin hefyd i ymweld ag ambell le oeddwn i eisiau gweld, tra o'n i wrthi.
Mae'r hydref yn gyfle i gwrdd â chriw coleg bob blwyddyn, ac mi fuon ni'n cerdded darn o lwybr yr arfordir eto eleni. Darn byrrach nag arfer, er mwyn gwylio tîm rygbi Cymru'n colli eto. Cafwyd diwrnod a noson i'r brenin, er gwaethaf y siom yn stadiwm y mileniwm. Eto.
Ta waeth, roedd y tywydd yn sych ar y cyfan; y golygfeydd yn odidog; a'r cwmni'n dda. Amhrisiadwy.
Rhaeadr Cwm Buwch, efo Cei Newydd yn y cefndir. |
Mynydd Tir Cwmwd, Llŷn |
Ychydig o arddio sydd wedi bod acw trwy Dachwedd, er inni gael nifer o ddyddiau braf.
Dwi wedi codi'r tatws a'r moron olaf heddiw a'u cael i ginio, efo brocoli cynta'r gaeaf a maip a chenin o'r ardd hefyd. Mi fues i'n chwynnu chydig a rhoi'r gwelyau i gysgu dan gardbord tan y gwanwyn.
Cilmeri. Man sy'n dal i'm tynnu yno am y canfed tro. Dwi ddim yn licio gyrru ar yr A470 heb alw yno am ychydig funudau o hel meddyliau a breuddwydio. |
Mae staff y Parc Cenedlaethol wedi bod yn cadw blog am y gerddi yn fan hyn.
Hen bryd inni wneud mwy o lwybr yr arfordir. Bwrw glaw yn Asturias ers dyddiau felly dal i feddwl am Batagonia
ReplyDeleteGallai feddwl (a gweld ar dy flog) bod y daith i dde America wedi bod yn gofiadwy iawn Cath.
Delete