Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

7.10.14

Ffarwel haf

Mi fuodd mis Medi'n ffeind iawn yma; yn ymestyn ein tymor tyfu byr, ac yn aeddfedu'r india-corn ac yn cochi'r tomatos. Diolch amdano.


Popcorn fiesta, gan James Wong ydi'r corn, efo amrywiaeth o liwiau ar y cobiau, o biws i felyn, llwydlas a du. Lluniau'r corn wedi popio i ddilyn rywbryd eto!


Y bwmpen gynta'n dipyn mwy na rhai y llynedd, ond fel awgrymais ganol Awst, mwngral ydi hi. Mi ddefnyddiais i hadau oedd wedi eu croes-beillio. Crown Prince ydi un o'r rhieni, ond dyn a wyr be ydi'r llall. Yn y blasu fydd y prawf wrth gwrs. Dwy bwmpen arall i ddod. Maen nhw'n cael aros ar y planhigyn nes daw'r barrug.

Am bod Medi wedi bod mor sych, mi gawsom ni gnwd ychwanegol o fefus trwy'r mis. Fel arfer, pan mae'n wlyb, mae'r malwod yn difetha pob un. Daeth y glaw yn nyddiau ola'r mis, a daeth y slygs rheibus i'n hatgoffa ni pwy ydi'r bos!

Y ffa dringo olaf yn dal i dyfu hefyd. Ond y ffa borlotti tu mewn ydi'r nod bellach yn hytrach na'r podiau gwyrdd. Rhai ar gyfer y sosban, a rhai i'w cadw nes daw'r gwanwyn eto.

Doedd yr ymdrech i gael cnwd ychwanegol o bys hwyr ddim yn werth y drafferth a deud y gwir. Mi gafodd y planhigion i gyd hen lwydni llychlyd afiach drostynt.  Gan fod pys yn cadw'n dda, gwell o lawer o hyn ymlaen fydd tyfu mwy yn gynnar i'w rhewi.

Dwi'n dal i godi moron, maip a bresych deiliog. Tydi'r oca heb eu cyffwrdd hyd yma, ac mae twmpathau o afalau yn y gegin yn aros am sylw.

Blodau cloch yr eos, neu ffarwel haf



2 comments:

  1. Anonymous9/10/14 20:06

    Synnu bod corn yn tyfu cystal yn uchel ac yn ogleddol!

    ReplyDelete
    Replies
    1. Mi gawson nhw gysgod da rhag y gwynt eleni, ac haf da wrth gwrs. Ond cobiau bach oedden nhw, a dim ond cyfanswm o chwech oddi ar naw planhigyn yn wreiddiol!

      Delete

Diolch am eich sylwadau