Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

10.9.14

Hud a lledr

Mi ges i gyfle i hel ychydig o eirin gwyllt wythnos yn ol, a hynny am y tro cyntaf ers tua 4 blynedd, oherwydd hafau hesb yn y safleoedd arferol. Damsons ydyn nhw; rhai melys, hyfryd, ar goeden wedi tyfu trwy wal gardd allan i'r gwyllt.


Wrth gwrs mi wnes i  rywfaint o jam, fel arfer, ond o'n i isio rhoi cynnig ar be mae rhai yn alw'n 'fruit leather' hefyd. 

A dyma fo:



Dilyn rysait Pam Corbin -guru jam criw River Cottage- wnes i. Berwi pwys o eirin, pwys o afalau Enlli, a'i wasgu trwy ridyll. Ychwanegu me^l, a'i roi yn y popdy ar wres isel iawn am ORIAU!


Ia. Mae o'n ddigon blasus, ond dim ond un o'r plant sy'n ei fwynhau, a'r ddwy arall yn troi eu trwynau. Wna'i o eto? Efallai. Mae'n werth trio pob peth un waith o leiaf tydi.

Cais rwan: diolch i'r rhai ohonoch sy'n gyrru sylwadau. Maen nhw'n werthfawr iawn. Ond mae'r gweddill ohonoch yn swil ofnadwy!

Be' am yrru gair i gynnig enw Cymraeg addas ar gyfer 'fruit leather'? Dwi ddim yn hoff o'r term 'lledr i ddisgrifio rhywbeth blasus i'w fwyta! Be' fysa'n ddisgrifiad gwell?

Dwi'n edrych ymlaen i glywed gennych! Diolch.




1 comment:

  1. Diolch Cath, ia, taffi eirin: gwell o lawer na lledr! Dwi wedi ffansi cael sychwr ers talwm. mi wnaeth Gorwel (Tonnau'r haul i bethau lliwgar a blasus) blogio ar y pwnc hefyd tua'r un pryd a chdi, ddwy flynedd yn ol, Rwyt ti wedi codi awydd eto.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau