Ond mynd a dod fydd y rhan fwyaf y noson honno: mi fydd yn hyfryd eu gweld yn ol yn y fro, fel gwennoliaid yn y gwanwyn. Ond mynd maen nhw drachefn.
Adar o'r unlliw: y Peiriannydd, y Warden, a'r Dyn X-ray, ar Faen Esgob |
Rhai felly ydi ffrindiau bore oes; rhai sydd wedi cadw cysylltiad, ac yn parhau i gadw oed mewn tafarn ac ar fynydd, er mwyn hel atgofion a rhoi'r byd yn ei le, bob hyn-a-hyn. Efo criw felly fues i ddydd Sadwrn yn crwydro ardal ddiarth.
Merlod y Carneddau, grug, a Phen-y-gogarth yn gwthio i'r mo^r |
Er bod ambell i ditw a bran ar goll o'r haid arferol, roedd yn ddiwrnod hwyliog, yn cerdded dan haul braf, trwy ffriddoedd o rug ac eithin, piws a melyn, o Fwlch Sychnant, uwchben tref Conwy. Heibio Llyn Gwern Engan, a godrau Craigyfedwen; trwy Penffriddnewydd, Maen Esgob, a chylch cerrig Cefn Llechen; heibio murddun Tyddyn Grasod a'i gorlan arbennig; Cefn Maen Amor wedyn, a maen hir Maen Penddu, a hen chwarel lechi Tal-y-fan. Oedi i edmygu waliau cerrig sych y Ffriddlys, ardal o fynydd garw gafodd ei amgau rywbryd gan breswylwyr optimistig Tan-y-graig... murddun ydi hwnnw hefyd heddiw.
Yna cyrraedd copa Tal-y-fan. Blewyn yn uwch na dwy fil o droedfeddi; 610 metr uwchben y mor glas islaw i'r gogledd, ac felly'n mynnu'r hawl i gael ei alw'n fynydd!
Roedd ein llwybr yn dilyn rhan o Daith Pererin y gogledd sy'n anelu am Enlli. Ond pererindod gwahanol iawn oedd gennym ni dan sylw, gan fynd ar ein pennau am weddill y dydd i dafarn Yr Albion yng Nghonwy. Mi fuon ni'n chwilio am esgus i ymweld a'r dafarn yma ers ei agor ddwy flynedd yn ol, gan bedwar bragdy lleol. Ac roedd yn werth aros amdano.
Syniad oedd yn plesio yn yr Albion: gwerthu tri traean peint am deirpunt, er mwyn cael blasu'r amrywiaeth o gwrw lleol oedd ar gael. Cwrw Clogwyn gan fragdy Conwy oedd fferfryn pawb.
Maen Penddu |
Un o gorlannau didoli nodweddiadol y Carneddau, ger Tyddyn Grasod. Pawb yn hel y defaid o'r mynydd, a'u rhannu wedyn i ddwsin o wahanol gelloedd, yn ol eu perchennog. Afon Conwy yn y cefndir. |
Ond fel arall, diwrnod i'r brenin go iawn. Diolch 'ogia.
Fel mae o'n wneud ar gychwyn pob taith i ni rannu ers yr wythdegau, atgoffodd y Peiriannydd ni trwy ddyfynu'r Tebot Piws nad oedden ni'n mynd i Birmingham, a phawb yn rowlio llygaid a chwerthin, gan ddiolch ein bod yn mynd i le brafiach o lawer.
Erbyn saith roedd yn amser i bawb wasgaru i bedwar cyfeiriad, ac wrth gerdded dros Afon Conwy er mwyn dal y tren ola' adra o Gyffordd Llandudno, trodd fy sylw i at y daith nesa'...
Cyn belled bod y cwmni'n dda, a'r cwrw'n flasus, dim ots lle fyddwn ni.
* diolch i'r peiriannydd am gywiro'r mathemateg a'r cof gwael!
Llyniau hyfryd. Dwi ddim wedi gwneud y taith yna, ond dwi wedi gwneud taith llai o gwmpas Conwy, sydd yn dechrau gyda dringo Mynydd y Dre - a hefyd wedi teithio ymlaen o fanna ar hyd yr arfordir - y llwybr ARALL arfordirol Cymru. A dach chi'n iawn am Gonwy. Mi ges i siom y tro gyntaf es i yn ol - does dim llawer o Gymraeg i glywed ar y stryd - ond mae Llandudno yn debyg hefyd. Mae taith cerdded yn ffordd hyfryd i ddal i fynny gyda ffrindiau.
ReplyDeleteGobeithio wnewch chi fwynhau'r aduniad. I fi, aduniad ysgol, un-ar-ddeg mlynedd yn ol rwan, oedd y hwb i ailddechrau'r Cymraeg.
Diolch Ann, mae'n ardal sydd ddiarth i mi, ond yn un dwi'n edrych ymlaen i ddychwelydd iddi.
Delete