Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

30.8.14

Fel huddug i botas

Mae llwyth o bethau wedi digwydd yn yr ardd a'r rhandir, ond rhwng pob peth, ches i ddim cyfle i'w cofnodi. Yn bennaf oherwydd hyn:





Nid y fi, ond Y Pobydd druan: wedi torri ei choes ar ymweliad a cherrig llithrig Pistyll Rhaeadr.




Oherwydd gwario (cyndyn, ond angenrheidiol) ar ddwy ffenast fawr a tho newydd ar y cwt, gwyliau adra oedd y cynllun eleni. Diwrnod ar Ynys Llanddwyn, un arall yn Sw Gaer ac yn rinc sglefrio (!) Glannau Dyfrdwy, ymweliad a'r sinema, gerddi Bodnant, ac yn y blaen.


Ar y diwrnod y clywodd y Pobydd grac swnllyd yn ei fibula chwith, roedden ni wedi llwyddo i ymweld ag eglwys Pennant Melangell, ac ar ein ffordd i ddrysfa ger y Trallwng -maze y bu'r Fechan yn ysu i'w weld ers wythnosau.

Ond, ar ol yr ymweliad tyngedfennol a rhaeadr uchaf Cymru, dim ond ystaflelloedd aros a phelydr X yng Nghroesoswallt a Bangor welson ni wedyn. Que sera sera.

Mae o'n wyliau na fyddwn yn anghofio fyth!
Bodnant

Llanddwyn o'r gogledd, a'r tir mawr yn y cefndir

Yn ol ar y rhandir, roedd y gwely lasagne yn fethiant yn ei flwyddyn cynta'. Roedd y slygs yn amlwg wrth eu boddau efo'r gwellt yn y gwely, ac mi gawson nhw wledd o datws. Mwy mewn ffaith na'r tatws oedd yn werth eu cadw! Ta waeth, mi fydd y gwellt wedi pydru erbyn y flwyddyn nesa' gyda lwc.

Bwyd slygs


Dros yr ychydig ddyddiau na fedrwn i ymweld a'r rhandir, mi ffrwydrodd y tyfiant ar y ffa dringo, nes bod rhai ohonyn nhw wedi tyfu'n fwy na fyddwn fel arfer yn ganiatau.

Cael yr had wnes i gan gyfaill oedd wedi symud i dy newydd, efo polytunnel yn yr ardd, a ffa 2013 yn dal yno wedi sychu ar y planhigion. Dwi ddim yn gwybod be ydi'r variety felly, ond dwi'n siwr eu bod yn fath o ffa yr oedd y cyn-berchennog yn tyfu i'w dangos mewn sioeau. Beth bynnag am hynny, maen nhw'n ffa blasus iawn wedi eu hel yn ddigon bach.



2 comments:

  1. Anonymous7/9/14 14:31

    Gobeithio bod y goes yn dechrau gwella! Mynd a dod oedd ein hanes ni'r haf yma felly llawer i beth wedi mynd drosodd erbyn inni eu casglu nhw. Yn enwedig y ffa.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Dwi wedi bod yn hel y ffa melyn/llydan olaf heddiw, ond mae digon o ffa dringo eto i ddod..

      Delete

Diolch am eich sylwadau