Wedi llwyddo o'r diwedd i greu llwybr caled yn ardal brysura'r lluarth, efo cymorth aelodau hynaf a 'fenga'r teulu: fy nhad a'r Fechan (sydd wrthi'n gosod brethyn gwrth-chwyn yn y llun cynta').
Diolch hefyd i Morfudd ac Arthur, a Gareth a Kevin, am eu haelioni yn rhoi tua 40 o slabiau concrid i mi wrth iddynt adnewyddu gardd newydd yn Stiniog. Hen naddion ffordd -graean a tarmac- sydd bob ochr i'r llwybr, a'r cyfan yn golygu y bydd gen' i le sych i weithio o'r diwedd.
Mi ges i gyfle i dwtio 'chydig hefyd a ffidlan efo ambell i arbrawf arall! Mae'r bels gwellt ar y chwith yn ffurfio gwely dros dro ar gyfer planhigyn pwmpen eleni. Mae'r planhigyn yn tyfu'n gry' mewn pot yn y ty gwydr adra ar hyn o bryd, ond byddaf yn creu twll ynghanol y belsan ganol, i'w lenwi efo deilbridd i blannu ynddo.
Erbyn y flwyddyn nesa' bydd y gwellt wedi suddo rhywfaint ac mi adeiladaf wely o'i gwmpas ac ychwanegu pridd, i greu gwely parhaol arall.
O gywilydd, y joban nesa' ydi clirio'r glaswellt a'r dail tafol o'r gwely ar y dde, sef y gwely marchysgall -globe artichokes. Dwi am ledu'r gwely yma er mwyn plannu corn eleni. Mae gen' i ddwsin o blanhigion praff yn y ty gwydr yn barod i mi eu lladd wrth drawsblannu i wynt ac oerfel y rhandir eto!
O'r diwedd eleni mae gyda ni ddigon o le i farchysgall. Mae'n nhw'n blanhigion urddasol hyd yn oed cyn bwyta'r cynnyrch. A bydd y corn yno hefyd, os bydd y ffens yn gaer digon cryf yn erbyn y moch daear. Mae'n 3 blynedd ers inni dyfu fe, a'r tro diwethaf dim ond dau 'cob' ddaeth i'r gegin achos roedd yr anifail wedi mwynhau'r gweddill.
ReplyDeleteOs ydw i'n cenfigennu oherwydd eich tywydd a'ch tymhorau cunnar a hir Cath, dwi'n bendant ddim yn eiddigeddus o'r moch daear, a'r baeddod a cheirw sydd acw!
Delete