Ar benwythnos Calan Mai, mi lusgais i Nhad a thad y Pobydd am wibdaith o ogledd-ddwyrain Cymru. Peldroed oedd yr esgus i ddianc am y diwrnod gan fod ffeinal Cwpan Cymru yn Wrecsam, ond gan i ni gychwyn yn weddol handi, mi gawson ni gyfle i ymweld a llefydd diarth hefyd.
Derwen Adwy'r Meirwon, yng ngwaelod Dyffryn Ceiriog, ychydig filltiroedd o safle derwen enwog Pontfadog. Coeden sydd dros fil o flynyddoedd oed, yn cadw golwg dros safle brwydr Crogen, lle chwipiodd y Cymry di^n byddin Lloegr dan arweiniad Owain Gwynedd.
Roedd y safle'n garped o lysiau'r cwlwm, comfrey. Rhywbeth dwi'n dyfu adra ar gyfer ychwanegu maeth i'r deilbridd ac i ddenu gwenyn.
Roedd y tyfiant dipyn mwy trefnus yn y lle nesa' fuon ni: gardd Erddig, ar gyrion Wrecsam.
Dim diddordeb o gwbl yn y ty bonedd, ond waw, am ardd furiog!
Dwi isio un!
Dwsinau -os nad cant a mwy- o goed afalau, ar ffurf cordon (uchod), agored (efo'r trionglau topiari), ac espalier (isod).
Ylwch ar harddwch cymesur hon: y fath waith cywrain, dros genhedlaeth, yn 'hyfforddi' canghennau, a thocio a chlymu, a digon o flodau, wedi eu gwasgaru'n gyfartal. Gwych.
Dwi'n teimlo chydig bach o g'wilydd yn dangos llun o'r goeden afal Enlli y bues i'n cyfeirio ati fel espalier!
Siom oedd y peldroed. Aberystwyth yn taflu mantais o ddwy gol i golli o 3-2 yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Ond codwyd ein calonnau wedyn gan gwrw da tafarn Cymraeg y Saith Seren. Iechyd da i'r gogledd ddwyrain nene uffar!
Dolen i wefan Coed Cadw- Derwen Adwy'r Meirwon. (Sgroliwch lawr i gael y wybodaeth yn Gymraeg)
Saith Seren
Lluniau ardderchog a diddorol. Paid ag anghofio gymaint o arddwyr fydd wedi bod yn trin gardd yr Erddig! A medraf i ddim ond meddwl am yr holl bethau mae'r hen goden derwen wedi gweld dros y blynyddoedd i gyd....
ReplyDeleteDiolch Ann, bydd gen i staff hefyd rhyw ddydd.... daw dydd y bydd mawr y rhai bychan!
DeleteCool beans dad
ReplyDeleteFfa llugoer ferch!
Delete*ffa pob llugoer, actually
Delete