Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

19.3.14

Bore Cothi

Diolch i Shan Cothi a'r criw am roi plyg da iawn i'r blog ar Radio Cymru.
Roedd y sgwrs wedi'i ricordio ben bore, cyn i mi fynd i ngwaith, ac erbyn i'r darn gael ei ddarlledu tua chwarter i unarddeg, roedd Shan yn dweud 'mod i'n trin llwyth o randiroedd ar hyd a lled Blaenau!
Argian; mae un yn ormod ar hyn o bryd.

Dwi'n rhy swil i fwynhau cyfrannu at raglenni os alla'i osgoi hynny, ond roedd y broses yn ddi-boen, ac yn lot o hwyl.

Ac mae niferoedd ymwelwyr i'r dudalen am riwbob wedi saethu i fyny!



Mae clip o'r sgwrs ar wefan y rhaglen, a dwi wed'i blannu isod.

Bydd o yno am ryw hyd. Os gwyddoch chi sut alla'i ei gadw'n hirach (ond peidiwch son wrth y BBC) gadewch imi wybod plis!

Roedd darn difyr iawn ar y rhaglen wythnos yn ol hefyd wedi'i ricordio yn rhandir Ysgol Cwm Gwyddon yn Abercarn. Braf clywed plantos y cwm y parablu'n frwdfrydig yn Gymraeg am dyfu a choginio'u bwyd eu hunain, a'r idiom ddeheuol ryfeddol 'mas tu fas' gan un o'r athrawon yn codi gwe^n 'run pryd.

Yn ol ymchwilydd y rhaglen, bydd slot rheolaidd am arddio ar y rhaglen. Gorau po fwyaf. Gwych gweld Radio Cymru'n ychwanegu podlediad arall i'w harlwy hefyd.

2 comments:

  1. Gwych clywed dy lais ar Bore Cothi - mi wrandawais ar y clip - ardderchog. D'on i ddim wedi clywed Bore Cothi - mae rhaid mynd ar y we i gael Radio Cymru a dwi ddim yn tueddu gwrando arni hi digon - ond falle mi fydda i yn gwrando ar Bore Cothi o bryd i'w gilydd rwan

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Ann. Mae'r clip wedi'i ddewis ar gyfer Podlediad wythnosol Bore Cothi hefyd.
      Mae lot o bethau'n plesio ar Radio Cymru ar hyn o bryd. Dwi'n hoffi rhaglenni radio sy'n fodlon sgwrsio efo cyfranwyr a gwesteion am ddeg munud a mwy, yn hytrach na rwdlian arwynebol a rhuthro at record. Mae Radio 4 yn gwneud hynny'n dda iawn, ac mae gan Radio Cymru fwy rwan dwi'n meddwl. Byddai'n dda cael Sesiwn Fach, Dei Tomos, Stiwdio a llawer llawer mwy fel podcasts hefyd.
      Mae pobl ar y stryd yn Stiniog wedi bod yn tynnu nghoes i bod Shan wedi awgrymu fod gen' i dir ymhob man!

      Delete

Diolch am eich sylwadau