Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

1.2.13

Egin

    Mehefin 1979:    Rhandir 'Nhad, Maentwrog.   Y prentis ifanc yn palu a charrega am bres poced.



"Yr Ardd" oedden ni'n galw'r lle, cyn i mi glywed y geiriau 'rhandir' a 'lluarth' erioed mae'n siwr gen' i. Dim ond dwy ardd oedd yno, dros 600 o droedfeddi'n is, a dwy filltir yn nes at y môr, na 'Stiniog. Nefoedd!  Un o'i gyd-weithwyr, o bwerdy Tanygrisiau: y cymeriad diweddar, G'ronwy Post, oedd yn trin y llall.



Y ddau ohonyn nhw'n feistri ar dynnu coes, yn dadlau pwy oedd wedi cael y plot orau, ac yn chwarae triciau ar eu gilydd, fel ffugio llythyr cas gan adran gynllunio'r cyngor am dŷ gwydr plastig a godwyd heb ganiatâd; a phaentio chwilen i edrych fel y Colorado beetle yr oedd panig mawr amdani fel pla tatws yn y cyfnod!


Mae'n chwedl yn ein teulu ni sut y bu i'n tad dalu 10 ceiniog y bwcad i mi a 'mrawd hel cerrig o'r pridd, a phob bwcediad yn cymryd amser maith i'w lenwi am eu bod yn bwcedi tyllog. Bryd hynny wrth gwrs, tra oedd Dad yn palu a phlannu, chwynnu a chynaeafu, roeddwn i'n amlach na pheidio yn crwydro a chwarae a 'sgota hyd lannau'r afon Cynfal gerllaw, gan feddwl bod garddio yn beth digon diflas! Er, roeddwn yn mwynhau cyfrannu rhywfaint, a dwi'n edrych yn ddigon bodlon yn y llun tydw. Mae'n amlwg fod yr hadyn wedi ei blannu yn barod i aeddfedu efo fi!

Ar ol tua saith mlynedd o dendio'r tir yno, daeth lladrata llysiau yn draul ar yr ymdrech, ond mae o'n dal i arddio adra', er iddo addo peidio cyboli eto ar ol dilyw 2012. Gawn ni weld..

Mae'n barddoni hefyd -crefft nad oes gobaith gen' i ei efelychu- a dyma gerdd berthnasol ganddo, sy'n dweud llawer am ei deulu yn ogystal a'i ardd. Hyfryd. Diolch Dad!



Gardd

Rhois dro yma ac acw
i'r gwys, pan oedd raid,
rhwng chwynnu a thendio
a'r meithrin ddi-baid.

Maent yma'n blodeuo,
yn dysteb i mi
o'r gofal a gafwyd
yn f'Eden fach i.

Daeth amser i fedi,
fel cynhaeaf ar ddôl,
a'r gost, ar ei chanfed
ad-dalwyd yn ôl.

VPW, Chwefror 2010


2 comments:

  1. Dod á deigryn i'r llygaid wrth hiarethu am y dyddia dedwydd hynny. Diolch iti 'rhen hogyn.

    ReplyDelete
  2. 'hiraethu' ydi'r gair i fod gyda llaw, gair cyffredin iawn i hen sopyn fel fi.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau