Dwi'n cofio Sionis yn galw o ddrws i ddrws pan o'n i'n blentyn, a'r rheiny'n siarad Cymraeg. Roedd hyn fel hud a lledrith i mi; bodolaeth gwlad arall lle'r oedden nhw'n siarad iaith debyg i ni, wedi wynebu'r un gorthrwm. Ac roedden nhw'n dod ar eu beic (oeddwn i'n gredu) bob cam efo nionod!
Erbyn heddiw tydyn nhw ddim yn cnocio drysau. Maen nhw'n tynnu hen feic allan o gefn transit, a hwnnw'n feic sy'n amlwg heb gael defnydd iawn ers degawdau, ac yn ei orchuddio efo nionod, a sefyll yn yr unfan trwy'r dydd.
Dwi heb gyfarfod un yn y blynyddoedd d'wytha sy'n siarad na chyfarch mewn Llydaweg, heb son am Gymraeg. Pwy a wyr na ddont o bedwar ban Ewrop, wedi gwisgo crys streipiog a beret i ymddangos fel Sioni traddodiadol a denu'r Cymry rhamantus i wario mwy na maen nhw eisiau ar nionod!
'Does yna bob math o dwyll yn y diwydiant bwyd 'dwad?
Wedi'r cwbl mae yna gwmni bisgedi enwog sy'n talu pobl dda Llanfihangel Llantarnam yn sir Fynwy i roi "raspberry-flavoured plum jam" (darllenwch o eto) yn eu dojars tydyn!
Mae'r strach diweddar efo cynnyrch cig eidion yn anochel mae'n siwr tydi, pan nad oes neb eisiau gwario ar fwyd da. Dwi wedi bwyta cig cheval yn Ffrainc. Braidd yn rhy wydn i mi rhaid cyfaddef, ond os ydym yn bwyta gwartheg a moch, pam ddim ceffylau? Ia, dwi'n gwybod mai'r ddadl ydi nad oedd y cwsmer yn gwybod be' oedd yn brynu, ond os ti isio gwbod be sy'n dy fwyd, gwna fo dy hun, a chefnogi cigydd lleol 'run pryd!
Ffigyrau cyfrifiad y filltir sgwar:
y canrannau sy'n siarad Cymraeg yn nhair ward Stiniog ydi 77%, 79.3% a 78.5%, sy'n swnio'n iach iawn, ond bu dirywiad yma yng nghadernid Gwynedd hefyd, ers 2001 yn anffodus. [Manylion o wefan ONS]
Roedd manylion y cyfrifiad o sir Gaerfyrddin yn ddigalon, ond mae modd i bawb gyfrannu at fater ieithyddol yn Shir Gâr:
Mae'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn ymgynghori ar eu cynllun iaith drafft ar hyn o bryd. Dim ond ychydig ddyddiau sydd ar ol i gynnig sylwadau (cyn y 15fed o Chwefror).
Dwi wedi ymateb gan awgrymu mai dwy flaenoriaeth amlwg sydd ganddynt yn fy marn i: gwella'r wefan rhag blaen; a sicrhau bod pob aelod o staff sy'n delio'n uniongyrchol efo'r cyhoedd yn ddwyieithog. 'Does dim esgus i gorff sy'n cael cymaint o arian cyhoeddus beidio a gwneud.
Llun o fy ymweliad cynta' -Mehefin 2010 |
Saesneg ydi prif dudalen y wefan ar hyn o bryd, efo'r ddolen Gymraeg ar waelod y dudalen o'r golwg. Mae'r hafan Gymraeg yn dal i son am weithgareddau Ionawr, ac mae'r dwyieithrwydd yn denau iawn y tu ol i'r tudalennau cyntaf. Felly y bu hi ers blynyddoedd, a hyn ydi'r prif reswm nad wyf i erioed wedi talu am aelodaeth flynyddol o'r Ardd, cymaint yr hoffwn wneud hynny.
Mae'r cynllun iaith yn ymrwymo i gywiro'r gwendidau uchod i gyd a gaddo "newid sylweddol" yn eu darpariaeth ar-lein. Pryd medde chi? Yr ateb anfoddhaol ydi "..dros y 24 mis nesaf". Gwaeth na hynny- mae'r ateb yma'n amodol, gan ddefnyddio'r hen esgus "fel mae adnoddau yn caniatau".
Dwi'n falch o fodolaeth yr Ardd Genedlaethol, mae'n rhan arall o'r gwaith o adeiladu cenedl. Tydw i ddim yn gwarafun y pres anferthol sydd wedi mynd i'r lle chwaith, ond mae'n rhaid iddyn nhw adlewyrchu dwy iaith Cymru'n gyfartal, os ydyn nhw isio i mi fynd yno'n rheolaidd.
Gwell na phydru o flaen y bocs am awr.
Dwi wedi talu'r rhent am flwyddyn arall, felly mae'n rhaid nad oedd 2012 mor wael a hynny.....
Dyma eliffant ges i'n anrheg penblwydd gan y Fechan. Teclyn i hel briwsion ydi o. Finna'n meddwl 'mod i'n bwyta'n reit daclus!
Hwyl am y tro.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau