Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

30.9.12

Yn y mynydd mae'r gerddinen

Mae 'di bod yn flwyddyn ddifrifol am ffrwythau coed yma. O'i gymharu efo'r llynedd, oedd yn flwyddyn ryfeddol. Dwi'n ailadrodd efallai, ond dim ond un afal ddaeth ar y goeden Enlli; dim un ar y croen mochyn; dim un eirinen Ddinbych; a dim ond dyrnaid o geirios.

Yn y gwyllt, mae'r eirin (damsons) gwyllt; eirin tagu; afalau surion; ysgawen; a chnau cyll wedi bod yn reit dlawd. Ond mae un ffrwyth sy'n groes i bob dim arall yn yr ardal hon eleni, sef criafol. Aeron cochion y gerddinen, neu'r goeden griafol. Coeden fynydd, sy'n hardd yn y gwanwyn efo'i blodau, ac yn hardd wedyn, pan mae'n drwm o ffrwythau. Wedi arfer gorfod dygymod a thywydd gwaeth na llawr gwlad, felly bosib fod yr oerfel a rwystrodd beillio coed eraill heb effeithio cymaint arni?

 Deg munud gymrodd i hel dau bwys. Mi faswn wedi medru dod adra efo hanner can pwys taswn i eisio.

 Wedi berwi'r ffrwyth -efo tua hanner pwys o afalau surion wedi eu torri, ar gyfer y pectin- dyma hidlo'r hylif pinc o'r trwyth. Dwi ddim yn un i gymryd sylw o'r cyngor i beidio gwasgu rhag gwneud y jeli'n gymylog. Gwneud hwn i'w fwyta ydw i; ddim i'w arddangos, felly pan mae'n ddigon oer, dwi'n gwasgu a godro pob diferyn ohono! Mae yn werth prynu bagiau mwslin da, ond dwi ddim isio gwario ar declynnau crand i hongian y bag aballu. Dim ond bachyn o dan gadair sydd angen!


Union litr ges i y tro 'ma, felly ychwanegu 800g o siwgr, a berwi'n ffyrnig am ddeg munud. Saith o botiau bach yn hen ddigon inni gael rhai yn y cwpwrdd a rhai i'w rhannu.

Tydi o ddim yn stwff i'w fwyta ar dost, am fod blas braidd yn chwerw arno sy' ddim at dant pawb, ond mae o'n dda efo cig oer a chaws.


 Nid ein bod wedi mynd heb bethau melys chwaith...
Y Fechan (a'r Pobydd) wedi gwneud cacenna' gri.







A'r Pry' Llyfr wedi arbrofi efo cacenna' bach, a hufen a siocled.







Hyfryd iawn ar ddiwrnod gwlyb a gwyntog.



 Dyfynnu: 
'Cân y Medd'- Dafydd Iwan ac Ar Log. (Geiriau T. Gwynn Jones)

Yn y mynydd mae'r gerddinen,  yn y mynydd mae'r eithinen,
yng nghwpanau'r grug a hwythau,  haul ac awel dry yn ffrwythau.


2 comments:

  1. Erioed wedi arbrofi gyda ffrwyth y gerddinen - ond flwyddyn nesaf gobeithio!

    ReplyDelete
    Replies
    1. Tydw i heb wneud ers tua pum mlynedd chwaith, ond mae cymaint o gnwd eleni, byddai'n gywilydd peidio manteisio ar rhywfaint!
      Ydi hi'n goeden gyffredin yn Asturias?

      Delete

Diolch am eich sylwadau