Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

5.10.12

Canmol!

Dwi wedi bod yn ddigon parod i ladd ar Byw yn yr Ardd, ar fwy nag un achlysur, felly mae'n iawn imi ganmol hefyd pan fo hynny'n briodol.


Oherwydd y gyfres o raglenni'n ail-ddangos 'uchafbwyntiau' dros yr haf, roeddwn wedi rhoi'r gorau i recordio'r rhaglen, ac felly mi fethais ddwy bennod ola'r gyfres yn ail hanner Medi.


Ar ol i bawb arall fynd i'r gwely heno, i ges i gyfle i ddal i fyny trwy wasanaeth Clic ar wefan S4C.



Rhaglenni gwreiddiol oedd y rhain (pennod 10 ac 11), ac roedd y ddwy raglen yn wirioneddol dda; yn wir, doedd dim un o'r eitemau yn wan.




Mae Russel wedi torri ei wallt ac yn cymryd ei hun ychydig llai o ddifri mae'n ymddangos. Roedd ei wylio'n perfformio 'dawns y tadau' ym mhennod 10, yn ddoniol iawn! Ar ddiwedd y bennod olaf, roedd wyneb Bethan Gwanas (llun uchod) yn amhrisiadwy pan oedd Russel yn bloeddio ei "TA-RAAA" angerddol!

Ym mhennod 11, roedd y darn yn Felin Uchaf, lle'r oedd Russel yn naddu giat o hen dderwen oedd wedi disgyn, yn arbennig o ddifyr. Roedd ei adolygiad o'r flwyddyn ar y 'Patsh' yn werth ei weld hefyd, ond eto, biti na fysa ganddo fwy o amser. Syniad am raglen arbennig yn fy marn i.

Roedd gwylio cyffro Bethan Gwanas wrth ennill efo'i mel yn Sioe Talybont yn wych, a rhywun yn teimlo'i blachder. Mae mwy o fanylion am ei gorchest ar ei blog difyr iawn (dolen ar y dde).

Mi wnes i fwynhau cyfraniadau Sioned hefyd: Twm Elias yn ddifyr a smala fel bob tro wrth drafod perlysiau Canolfan Hanes Uwchgwrfai, ac eitem digon diddorol ar blannu Heucheras mewn basgedi.

Braf iawn oedd gweld mwy o ddefnydd o'r labeli, yn enwi'r planhigion oedd y cyflwynwyr yn cyfeirio atyn nhw hefyd.

Am y tro cynta ers talwm, mi ffeindis i fy hun yn diawlio nad oedd y rhaglen yn awr o hyd yn hytrach na hanner awr. Llongyfarchiadau i'r cynhyrchwyr ar ddwy bennod arbennig; melys moes mwy.

Biti garw fod y gyfres wedi gorffen rwan. Mae'r ddwy bennod ar gael ar Clic, trwy wefan S4C: pennod 10 am dair wythnos, a phennod 11 am bedair wythnos, arall. Os na welsoch chi nhw, brysiwch i'w gwylio, a gadwch imi wybod eich barn.

Ydw i wedi bod yn or-feirniadol o'r rhaglen yn y gorffennol? Ynta', ydi hi wedi gwella'n arw at ddiwedd y gyfres? Dyma edrych ymlaen at bennod y Nadolig, a chyfresi'r dyfodol.

3 comments:

  1. D wi'n meddwl bod hi'n amrywi'n arw o wythnos i wythnos. Ar adegau mae eitremau yn hynod o wan a disylwedd - yn amlwg jyst yno i lenwi amser. Mae'n siwr bod hi'n rhywstredig i arddwyr profiadol hefyd gan bod rhai eitemau yn amlwg (baswn i'n obeithio) wedi eu hanelu at bobl sy rioed wedi camu i'r ardd o'r blaen. Dyna yw pryg rhaglen sy'n apelio ar cymaint o bobl yn hytrach na chyfres fel Gardeners' World neu'r gyfres honno ar S4C gynt.

    Ond wedyn ar brydau eraill, fel ti'n nodi uchod, mae yna eitemau hynod ddifyr.

    ReplyDelete
  2. Anonymous6/10/12 23:03

    Beth yw ystyr y gair 'hynod', Rhys?

    ReplyDelete
  3. Dwi'n cytuno Rhys; mae ambell bennod yn y gorffennol wedi bod yn ddifrifol. Ond dwi'n gobeithio bod y ddwy bennod dd'wytha yn arwydd o'r hyn sydd i ddod, yn hytrach na ffliwc!

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau