Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

23.9.12

Bara beunyddiol

Mae'n gas gen i fara archfarchnad. Os ydw i'n snob am rywbeth; bara ydi hwnnw. Roedd yn ddiwrnod du i mi pan gauodd siop fara'r teulu Bloor yn Stiniog, ac mae gen i hiraeth o hyd am y torthau amrywiol oedd ar gael yno.


Mae'r Pobydd yn gwneud bara cartra yn weddol reolaidd, ac eisiau datblygu'r diddordeb ymhellach, felly mi fuo'r ddau ohono' ni ar gwrs pobi bara y penwythnos dwytha'! Peth dosbarth canol iawn i'w wneud, dwi'n gwbod, ond roedd yn werth bob eiliad o ymdrech i gyrraedd Dinas Powys, sefyll ar ein traed am wyth awr yn cymysgu a thylino, a gyrru adra wedyn am dair awr ac ugain munud.
Gwaith reit galed ond pleserus iawn. Diolch i Geraint a'i amynedd, mi gawson ni bobi bara efo gwahanol does eples neu pre-ferment, a dod adra efo helfa dda iawn. Mae defnyddio eples neu surdoes (sourdough) yn cynhyrchu bara efo blas dyfnach ac sy'n haws i'r corff ei dreulio, na'r burum sych a chemegau a ddefnyddir mewn ffatrioedd. Mi wnaethon ni foccacia efo nionod a thomatos a feta i ginio hefyd, yn ogystal a byns cyrins a byns cnau-a-siocled!


Un o fy hoff lyfrau ydi 'Tomos o Enlli' gan Jennie Jones, a dwi'n dychwelyd yn aml at ddisgrifiadau Tomos Jones o'i fam yn pobi bara ar yr ynys. Dywed sut oedd yr ynyswyr yn pobi 'bara wedi ei godi hefo burum cartref', 'dyna ichwi fara, bois bach, bara gwerth ei fwyta'.

Trwy gyd-ddigwyddiad, roedden ni wedi gaddo trip i Ynys Enlli fel anrheg penblwydd i dad y Pobydd eleni, ac er fod hynny 'nol ym mis Ebrill, chawson ni ddim mynd tan ddoe. Dyna be oedd dewis lwcus o ddiwrnod, gan i'r haul wenu arnom ni drwy'r dydd.



Môr a mynydd. Cychwyn am adra: cafn Enlli y tu ôl i ni, 
a’r Moelwynion o’n blaen –y mynyddoedd pellaf 
ynghanol y llun.
Dwi wedi bod i Enlli dair gwaith rwan, a taswn i'n foi crefyddol, mi fyswn yn fodlon efo tair pererindod, gan fod hynny gystal bob tamad a mynd i Rufain i edrach am y Pab medden nhw!


Mi fues i yno am wythnos ugain mlynedd yn ol, yn gwneud gwaith gwirfoddol i ymddiriedolaeth yr ynys, yn tyllu, sgwrio, paentio, a thrwsio, efo Gwydion y warden. Mi ddysgis i lawer am be sy'n bwysig yn y byd yr wythnos honno, gan sgwrsio yng ngolau cannwyll gyda'r nos, a mwynhau cwrw cartra Gwydion, heb drydan na theledu i dynnu'r sylw. "Yn y rhannu ma'r plesar 'sti" medda fo wrth imi drio gwrthod gwydriad arall o'i gwrw prin. Ia, gwir y gair.


Tydi o ddim yno bellach, ac mae'r bedair awr a hanner a gewch chi yno ar drip dydd, yn sobor o annigonol, ond roedden nhw'n oriau hyfryd serch hynny. Anodd curo brechdan ar greigiau Porth Nant, a'r tir mawr mor agos, ond y Swnt yn corddi'n fygythiol rhyngtho a'r ynys. Cerdded wedyn hyd yr arfordir a gloynod byw a gwenyn yn gwmni inni,
fel tasen nhw -fel ninnau- yn amau mai dyma'r cyfle olaf i fwynhau'r haul, ar ddiwedd haf na fu.

Nid gwaith medal aur yr artist Elfyn Lewis, ond celf naturiol cerrig a chen arfordir Enlli.

4 comments:

  1. Waw, mae'r bara yna'n edrych yn wych. Bydd rhaid i ti wneud fideo i ni o dy bobiad cyntaf!

    Cofnod blog Cymraeg arall am bobi bara yma: http://panedachacen.wordpress.com/2011/11/17/fy-nhorth-cyntaf/

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Rhys, efallai y gwna'i fentro rywbryd. Mae'n ddigon i mi gofio tynnu llun o gwbl ar hyn o bryd! Mi ddaw'n fwy naturiol wrth ddod i arfer mae'n siwr.

      Delete
  2. Anonymous25/9/12 20:19

    Feri untrysding blog, Wilias, mai congratiwleshiyns, byt ai thinc iw ar e but of e pen-rwd westing myni on petrol goin ol ddy we down sowth to lyrn haw to mec bred. Iw'd bi mytsh betyr off baiing e bred mashin ddan going tw ol ddy traffath. Iw dont haf tw dw bygyr ol blaw pwt sym fflywyr, isd, wotyr, mulc, solt, shwgyr, oluf-oul and e but o bytyr un ddy mashin and pwsh ddy bytyn. Dden iw go owt tw ddy rhandir un ddy poring ren and wen iw cym bac tw ddy hows un 4 owyrs teim iw'f got e blydi gwd torth wen (as gwd as Ceri Bloor or Bobi Bec)and wudd e but o lyc ddy musus wul haf pwt ddy cecyl on and iw'l haf e neis cyp o ti wudd ior brechdan. Iw can dw ffansi sdyff un ut as wel uff ior ddat we uncleind. Main us e Panasonic SD-253 and ai'd heili recomend ut tw eni wan ffor hus deili-bred. Ai planted sym 'wizzard field beans' ffrom RSC as wel - but tw big ffor e resd-bed leic ai'f got byt blydi gwd bins. Med e dup wudd ddy lasd of ddem - feri neis. Ai'm weiting ffor e dulufyri ffrom Marshalls of sym 'caliente mustard' sids - grin-cachu, to gro ofyr wuntyr and tshop yp un ddy sbring - gwd sdyff. Ai'm going tw plant mai garlic on Calan Gaea ddus iyr. Dw iw gro garlic on ddy rhandir, Wilias? Cip yp ddy gwd wyrc.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Ymmm, oce.... diolch Anonymous; dwi'n meddwl! Thanc iw ffor tw go tw traffarth tw rait e coment, ia.
      Hmm, ia, braidd yn bell i fynd doedd, ond roedd tri gorchwyl arall ar y gweill dros y penwythnos hwnnw, felly ddim yn siwrne ofer o gwbl. Trefnus. Hwnna ydi'o.
      Garlleg: na, pwdu'n llwyr efo fo. Wedi trio. Wedi methu! Rhy wlyb a rhy oer yma decin i.

      Delete

Diolch am eich sylwadau