Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

13.8.25

‘Pwy ni chwardd pan fo hardd haf?’

Rhan o golofn olygyddol rhifyn Gorffennaf-Awst Llafar Bro, papur misol cylch Stiniog 

Hmm, tybed oedd yr hafau yn fwy dibynadwy o braf yn nyddiau Dafydd ap Gwilym? Roeddwn yn gofyn ar ddechrau’r golofn olygyddol union flwyddyn yn ôl, os oes pwrpas cwyno am y tywydd? A dyma fi eto -a’r niwl at y drws cefn- yn croesi bysedd y cawn ni ‘hardd haf’ eleni.

Mi ges i eiliad gwan ryw dro dros y gaeaf a chymryd rhandir ar safle’r Gors Fach wrth droed hen ysgol Glan’pwll, ac roedd y sgwaryn o dir ges i yn wlyb doman a’r pridd fel pwdin dan draed. Fel petai hen gynefin y safle yn gwrthod gollwng gafael; er gwaetha’r miloedd tunelli o lechi a roddwyd yno wrth dirlunio tomen Glan-y-don yn y saithdegau. Er gwaetha’r cannoedd o dunnelli o dywod roddwyd yno ar ôl clirio prom y Bermo ar ôl storm tua dechrau’r mileniwm. 

Ac er gwaethaf degawdau o dyfiant helyg a rhododendron a drain a mieri... Mae’r lle dal fel cors pan mae’n bwrw glaw!

Serch hynny mae ambell un o’r lleiniau yn werth eu gweld, ac mi wnaf innau fy ngorau i dyfu ychydig o gyrins duon, gwsberins, a rhiwbob, os gawn ni ychydig o ddyddiau sych i balu!

Ar ddechrau penwythnos y golygu, mi wnes i ddianc oddi wrth y cyfrifiadur am awran neu ddwy ac ymweld â Pherllan Gymunedol Pant yr Ynn am y tro cyntaf. Pob clod i’r Cynghorwyr Tref, roedd yn agoriad llygad; mae yna waith caled a llafur cariad wedi mynd i’r datblygiad. Ges i sgwrs ddifyr efo Medwyn oedd yno’n cynnal a chadw, ac eistedd ar un o’r feinciau wedyn i ymlacio yn swn y nant. 

O fanno, mi es i draw i Ardd Fywyd Gwyllt Gymunedol Tanygrisiau, ger Bont Tŷ’n Ddôl, a mwynhau hanner awr yn crwydro ac edymygu gweledigaeth arbennig criw Y Dref Werdd a’u gwirfoddolwyr diwyd yn fanno hefyd.

Mae galwadau am gymorth i ddatblygu gardd ffrwythau gymunedol yn ardal Tabernacl, ac mae'r Ardd Lysiau Gymunedol Maes y Plas yn ffynnu. Gwyddwn wrth gwrs am Erddi Seren, tu ôl i Fryn Llywelyn yn y Llan. Rhowch y rhain efo’r gwelyau blodau lliwgar ym mharc y Blaenau; perllan fach y Ganolfan Gymdeithasol; coed ffrwythau Cae Bryn Coed, Llan; perllan gymunedol Plas Tanybwlch (dwi’n siwr fod eraill nad wyf yn eu cofio yn fy mrys i gael Llafar Bro i’w wely) -mae yna gyfoeth o erddi cyhoeddus yma.

Os fedr Dolwyddelan gynnal diwrnod ‘Gerddi Agored’ llwyddiannus, mi fysa Bro Stiniog yn medru efelychu hynny, dwi’n sicr. Rhywbeth i’w ystyried ar gyfer Gŵyl y Glaw y flwyddyn nesa’ efallai? Ac er cwyno am y glaw, fysa’n gerddi ni ddim hanner mor wyrdd a gwych hebddo!


20.7.25

Cynefin Gaza

Yn ogystal â'r effaith erchyll ar fywydau pobol, a chymdeithas Balesteinaidd yn gyffredinol, mae'r rhyfel yn Gaza, a'r dwyn tir ar y Llain Orllewinol, yn effeithio ar fywyd gwyllt ac amgylchedd y wlad hefyd.

Mae'n anodd cael llawer o ffeithiau am y sefyllfa, ond mae'r Rhwydwaith Amgylcheddol Balesteinaidd a Chyfeillion y Ddaear, yn adrodd bod y rhyfel a'r meddianu tir wedi 'difrodi pob gwedd ar amgylchedd Gaza, ac wedi dinistrio amaeth a bywyd gwyllt yn llwyr.' 

Yn ôl Sefydliad Bioamrywaieth a Chynaliadwyedd Palesteina, 'mae dinistrio cynefinoedd naturiol wedi arwain at golled sylweddol mewn bioamrywiaeth.' Ac mae Cymdeithas Fywyd Gwyllt Palesteina yn bryderus iawn am ddyfodol natur yno, gan gynnwys eu blodyn cenedlaethol -gellesg Faqqua (Iris haynei), cymaint y mae eu niferoedd wedi dirywio. 

Mae arbenigwyr wedi galw'r dinistr amgylcheddol yn 'ecoladdiad' bwriadol (ecocide) ac y dylid ei drin fel trosedd ryfel arall. 

Drudwy Tristram (Tristram’s starling, neu grackle. Onychognathus tristramii) ym Mhalesteina. Llun gan Linda Graham, un o fy nghyd-gloddwyr yng Nghymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog.

Prin ddwy flynadd a hanner sydd ers i mi ddechrau sgwennu colofn i'r Herald Cymraeg. 

Amrantiad i gymharu efo cyfraniadau Bethan Gwanas ac Angharad Tomos, ond rydw i wedi mwynhau bob eiliad! Hyd yn oed ar adegau pan oedd hi'n ben-sét ar y deadline, a finna heb unrhyw syniad beth fyddai testun y golofn. Neu os oeddwn yn ansicr sut ymateb fyddai rhywbeth lled-ddadleuol yn gael. Nac wrth boeni'n ddi-hyder nad oedd unrhyw un yn darllen yr erthyglau beth bynnag..!

Bu'n fraint cael rhannu fy angerdd am fywyd gwyllt gogledd-orllewin Cymru a thu hwnt. Er fy mod yn un o olygyddion papur bro cylch Stiniog, ac yn cyfrannu erthyglau a newyddion i hwnnw yn rheolaidd, tydw i ddim wedi ystyried fy hun yn 'awdur' neu'n 'sgwennwr' erioed, ond roedd y profiad -a'r cyfrifoldeb- o geiso diddanu darllenwyr Yr Herald Cymraeg a Dail y Post bob tair wythnos yn wirioneddol werth chweil.

Ond efallai bod ambell un o ddarllenwyr Yr Herald wedi sylwi na fu colofn gan Bethan, Angharad, na finna yn y tri rhifyn diwethaf.  

Roedd Bethan wedi gyrru ei herthygl hi yn brydlon ar gyfer rhifyn y 3ydd o Orffennaf, ond chyhoeddwyd mohoni. Doedd neb wedi cysylltu â hi, a doedd dim eglurhad yn y papur 'chwaith. A phan gysylltodd yr awdur â'r golygyddion deallodd eu bod wedi gadael y golofn allan am fod Bethan yn son am erchyllterau zeioniaeth ym Mhalesteina. Roedd y tîm golygyddol yn amlwg ofn trwy eu tinau ar ôl stŵr darllediad y BBC o Glastonbury.

Mae Bethan erbyn hyn wedi dychwelyd at gylchgrawn Golwg fel colofnydd, a dwi'n edrych ymlaen i ddilyn ei hynt a'i hanesion yn fanno.

Gan nad oedd eglurhad nac ymddiheuriad gan olygyddion cwmni Reach yn y rhifyn dilynol, am sensro erthygl Bethan, mi ydw i wedi ymuno efo hi ac Angharad yn eu penderfyniad i beidio bod yn golofnwyr iddyn nhw mwyach.

Corff arbenigol, rhyngwladol, annibynol sy'n hyrwyddo rhyddid y wasg a gwarchod gallu newyddiadurwyr i adrodd y newyddion yn ddiogel ydi'r CPJ (Committee to Protect Journalists), ac mewn adroddiad ar 16eg Gorffennaf maen nhw'n datgelu bod 'o leiaf 178 o newyddiadurwyr Palesteinaidd wedi eu lladd' ers dechrau'r cyfnod diweddaraf yma o ryfela yn Gaza, llawer ohonyn nhw yn cael eu hystyried yn dargedu bwriadol ac yn lofruddiaethau. Mae eraill wedi dioddef ymosodiadau; 89 wedi eu harestio, dau ar goll, a llawer wedi gadael yr ardal mewn ofn.

Mae'n allweddol bwysig felly fod newyddiadurwyr yr ynysoedd yma yn gadarn eu hegwyddorion wrth adrodd y gwir am yr hyn sy'n digwydd yn nhiroedd Palesteina.

Nid Kneecap ydi'r stori. Nid Bob Vylan -nac artistiaid eraill sy'n galw am ddiwedd i'r erchyllterau yn Gaza a'r Llain Orllewinol- ydi'r stori. 

Hil-laddiad ac apartheid -ac ecoladdiad- ydi'r stori. Rhaid ei hadrodd yn agored a gonest!

 

Llun gan John Rowlands (wedi'i gipio o'i fideo a rannwyd ar facebook). Addaswyd y slogan gwreiddiol -Cofiwch Llechwedd- ar gwt weindio un o inclêns Stiniog gan rywun tua dechrau'r mis.

 

26.6.25

Glöynnod Gwych y Gogarth

Braidd yn annisgwyl oedd cael fy hun ar y Gogarth ar ôl cychwyn am Gyffordd Llandudno i nôl un o’r genod o’r trên. Bu’n crwydro’r cyfandir yn ddi-drafferth ers mis ond roedd trafferthion ar reilffyrdd yr ynysoedd yma yn golygu fod cryn oriau nes y byddai’n cyrraedd, felly be gwell i ladd amser na mynd am dro!

Bu’n flynyddoedd ers i mi fod yng Ngerddi Haulfre, ond mae’n deg dweud nad ydyn nhw’n edrych cystal y dyddiau yma, a’r rhan fwyaf o’r terasau hanesyddol heb gael unrhyw ofal garddwr ers tro. Yn ôl yr arwydd wrth y fynedfa, Lloyd George agorodd y gerddi yma pan brynwyd nhw ar gyfer pobl Llandudno ym 1929 ac mi fues i’n pendroni tybed oes gan y trigolion gynlluniau i adfer rhywfaint ar yr hen ogoniant i ddathlu canrif ymhen pedair blynedd? 


Boed felly neu beidio, ymlaen a fi dow-dow ar i fyny trwy’r coed. Dilyn fy nhrwyn nes dod allan i’r tir agored a phen y llwybr igam-ogam o Benmorfa. I’r rhai sy’n dringo’r llwybr serth hwn o’r traeth, mae’r fainc bren yn fan hyn yn fendith dwi’n siwr, a ‘dw innau’n gwerthfawrogi cyfle i eistedd yn llygad yr haul, a mwynhau’r olygfa wych dros aber Afon Conwy a draw at Ynys Môn. 

O fanno, mae rhwydwaith o lwybrau troed ar lethrau Pen y Ffridd. Mae modd mynd at Ffynnon Gogarth, a Ffynnon Llygaid ar Lwybr y Mynach, ond dwi’n troi i ddringo’r creigiau, gan oedi i dynnu lluniau rhai o blanhigion y calchfaen. Teim gwyllt (wild thyme), y grogedau (dropwort), a’r cor-rosyn cyffredin (common rock-rose), tra bod brain coesgoch (chough) yn chwibanu uwch ben wrth hwylio ar y gwynt.

Lle gwych ydi’r Gogarth am löynnod byw hefyd, a’r llethrau sy’n wynebu’r de yn arbennig o gyfoethog. Mae rhai o’r pili palas sydd yma yn is-rywogaeth prin, wedi addasu i amodau’r glaswelltir calchog, i gymharu efo’u cefndryd mwy cyffredin ar diroedd asidig y rhan fwyaf o’r gogledd. Mae’r glesyn serennog (silver-studded blue) yn gwibio o flodyn i flodyn o nghwmpas i, rhai yn ymrafael a’u gilydd wrth baru, a’u lliw glas yn hardd i’w ryfeddu. Yn llai eu maint na’r glesyn serennog sydd i’w weld ar safleoedd eraill, a dim ond pan maen nhw’n glanio mae’n bosib gweld y smotiau glas nodweddiadol o dan eu hadennydd. Un arall sy’n fwy mewn mannau eraill ydi’r gweirlöyn llwyd (grayling), sydd -mae’n rhaid cyfaddef- tipyn llai trawiadol ei liwiau na’r gleision, ond yn werth ei weld serch hynny, gan fod eu niferoedd wedi dirywio’n ddychrynllyd, fel llawer un arall yn anffodus.

Er bod glöynnod byw yn enwocach am eu lliwiau, gwyfyn -moth- gododd y cynnwrf mwyaf: Efo’i liw gwyrdd metalig yn pefrio yn yr haul, lwc pur oedd iddo lanio ar fy esgid, ac roedd yn ddigon bonheddig i oedi’n hir i mi dynnu nifer o luniau. Un o’r ‘coedwyr’ oedd o, y coediwr bach efallai (cistus forester moth), efo’r cor-rosyn, bwyd ei lindys, mor doreithiog yno. Gwaetha’r modd, doedd dim un o’r lluniau yn dda iawn; ond ta waeth am hynny, roeddwn wedi gwirioni i’w weld!

Roeddwn rhwng dau feddwl ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Maes y Facrell, ond ymlaen a fi am y copa dros grib Chwarel Esgob, gan addo dod ‘nôl i fanno eto. Ac o brysurdeb y copa, ar fy mhen i lawr i Bant yr Eglwys i blethu trwy’r fynwent yn bysnesu ar y cerrig beddi; a chael 5 munud o gysgod o’r haul yn Eglwys Sant Tudno. O giât yr eglwys dwi’n dilyn y llwybr cyhoeddus lle mae terfynnau caeau fferm Penmynydd Isa yn llawn o flodau ysgawen (elder) a’r aer yn dew o’u persawr melys hyfryd.

Wrth ddod i fynydd Gorsedd Uchaf mae’r cynefin yn fwy o rostir, efo grug ac eithin, nes cyrraedd Pen y Bwlch, ac ar ôl edmygu’r olygfa dros Rhiwledyn ar hyd arfordir y gogledd am ennyd, anelu am i lawr heibio’r llethr sgïo, i Erddi’r Fach. Dyma ardd gyhoeddus sydd yn mwynhau gwell sylw a chynhaliaeth na man cychwyn y daith, ac yn lecyn braf iawn i ddiogi ar faen llog cylch yr orsedd, a chôr o nicos (goldfinch) yn cyd-ganu yn y coed palmwydd nad drwg o beth ydi gorfod lladd amser yn annisgwyl weithiau!

Os oes gennych ddiddordeb, mae Siôn Dafis, warden Parc Gwledig y Gogarth, yn arwain cyfres o weithgareddau, gan gynnwys chwilio am wyfynnod prin am 1 ddydd Sadwrn yma; hyfforddiant monitro glöynnod yng Ngorffennaf, a thaith chwilod yn Awst. Chwiliwch am ‘Creaduriaid Cudd y Creuddyn’ ar y we am fanylion.

Cofiwch y medrwch gyfrannu at arolwg blynyddol gwerthfawr iawn ‘Cyfrifiad Mawr y Glöynnod’ rhwng 18fed Gorffennaf a’r 10fed Awst. Fedr o ddim bod yn haws: lawrlwytho siart adnabod o wefan Big Butterfly Count; dewis lleoliad; gwylio a chyfri am chwarter awr a chofnodi’r canlyniadau ar y wefan neu ap arbennig. 
- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 26 Mehefin 2025


5.6.25

Crwydro'r Ochr Drew

Mi fues i’n hela llewod yn ddiweddar. 

Na, fues i ddim ar saffari; nac ar ymweliad â sŵ ‘chwaith. Chwilio oeddwn i am gerfluniau Pont Llanfair, neu Bont Britannia, dros Afon Menai. Y llewod carreg a anfarwolwyd yng ngherdd y Bardd Cocos fel hyn:

Pedwar llew tew
Heb ddim blew:
Dau’r ochr yma
A dau’r ochr drew!
Chwilio am lewod pen yma o'n i, ar y tir mawr. Mi gaiff llewod Môn aros am ymweliad rywbryd arall efallai (...ond wedi meddwl, un o Fôn oedd John Evans y bardd, felly ‘dau’r ochr drew’ ydi llewod ochr Bangor mae’n siwr yn’de!). 

Roedd Gerddi Botaneg Treborth yn cynnal bore agored a gwerthiant planhigion ddiwedd mis Mai, a gan fod Llwybr Arfordir Cymru o fewn tafliad carreg, mi dreuliais fore difyr iawn yn crwydro ar lan y Fenai. Mae tri neu bedwar llwybr yn ymuno efo’r llwybr arfordir swyddogol o’r gerddi, ond gan fod giât meysydd chwaraeon Prifysgol Bangor yn agored, dyma fentro trwy fanno. Gwell gen i gerdded mewn cylch os oes cyfle, yn hytrach na thaith yno-a-nôl ar hyd yr un llwybr, ond mantais arall cael crwydro caeau pêl-droed ac athlethau, ydi fod amrywiaeth ddifyr yn aml o laswelltir o wahanol hyd, ac felly’n llefydd da ar gyfer pryfetach a phlanhigion gwyllt ar hyd yr ymylon.

Yn anffodus roedd hi’n pigo bwrw a’r gloynnod byw a’r gwenyn yn brin iawn y bore hwnnw, a’r gwair hir yn rhy wlyb i grwydro i’w ganol i chwilio am flodau gwyllt. Maddeuwch i mi am fod yn naturiaethwr tywydd teg o dro i dro: roedd digon o bethau eraill i dynnu’r sylw yno heb imi wlychu!

O groesi’r cae rygbi/pêl-droed Americanaidd ar waelod pellaf tir y brifysgol, gallwch ddilyn llwybr ar eich pen i’r coed ar gyrion yr A55 swnllyd, a chanfod eich hun o dan anghenfil goncrid a dur y bont ddau lawr a godwyd yn y saithdegau ar ôl i dân ddifrodi pont wreiddiol Stephenson. Gosodwyd y llewod ar lwyfannau cerrig bob ochr i strwythur gwreiddiol y bont, ond heddiw welwch chi mohonyn nhw wrth deithio mewn car dros y Fenai, dim ond o ffenest y trên ar lawr isaf y bont.


Ar droed, y llew ar ochr y Faenol sydd hawddaf ei gyrraedd gan fod llwybr gwell ato trwy’r coed a’r eiddew a’r mieri sydd yno. Yn anffodus mae ffens ddiogelwch y rheilffordd yn rhwystr braidd wrth dynnu llun, ond mae’n werth ymweliad sydyn, er ei bod yn chwith nad oes neb yn gweld gwerth mewn annog y cyhoedd i fynd i edmygu’r llewod a rhoi panel efo ‘chydig o wybodaeth yno, o ystyried mor agos at Lwybr yr Arfordir y maen nhw.

O droi yn ôl o dan Bont Llanfair ac anelu am Bont y Borth, mi ydych yn cerdded llwybr braf, llydan a gwastad, trwy Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Coedydd Afon Menai; coedwig sydd wedi dod yn gartref i wiwerod coch ers tua 2009 ar ôl absenoldeb hir. Braf gweld fod llawer o waith ar y gweill yma i reoli planhigion ymledol fel y Rhododendron, coed llawryf (laurel. Prunus) ac ambell goeden gonwydd.  

O ddilyn un o’r llwybrau sy’n dringo allan o’r coed i’r gerddi botaneg, rydych yn dod i olau dydd ac awyr agored: dolydd blodau gwylltion lliwgar, gwelyau addurnol a chasgliadau arbennig o blanhigion. 


Mae’r Ardd Tsieinïaidd wedi’i helaethu ers i mi fod ddwytha’, i fod yn Ardd y Ddwy Ddraig, lle mae Meddygon Myddfai yn cael sylw yng Ngardd Berlysiau Cymru, a’r gwaith cerrig yn ei hardal eistedd yn werth ei weld hefyd. 

 

Gallwn dreulio oriau -ar ddiwrnod braf- yn gwylio’r gweision neidr yn y pyllau a’r pili palas ar flodau’r gwely gloynnod a’r border hir, ac yn edmygu’r planhigion alpaidd yn yr ardd greigiau, ond pan mae’n bwrw glaw, mae’r tai gwydr yn wych hefyd. Mae’r gerddi ar agor i bawb a’r mynediad am ddim, ond rhaid gwylio cyfryngau cymdeithasol Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth am ddyddiau pan mae’r tai gwydr yn agored.

Roedd cryn fwrlwm yn yr arwerthiant blanhigion, ond gan fy mod wedi treulio cymaint o amser yn crwydro, erbyn i mi gyrraedd yno, doedd fawr o blanhigion ar ôl. Bydd raid dychwelyd eto i’r nesa’felly!

Y newyddion o’r blwch nythu adra, ydi fod deg cyw titw tomos las wedi hedfan ar yr 20fed o Fai. Roedd deg yno am wyth y bore, ac erbyn 3 y pnawn roedd yr olaf wedi mynd, a gwaelod yr ardd yn ddistaw unwaith eto. Bu’n fraint cael gwylio’u datblygiad, cyn hedfan i ganfod eu lle yn y byd mawr.

Paratewch... Barod... Ewch!

- - - - - - - 


Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 5 Mehefin 2025 (Dan y bennawd 'Llewod ar y Fenai')

 - - - - - - -

Mae Gardd Fotaneg Treborth yn cynnal ymchwil a gwaith cadwraeth hefyd. 

Mi fum yn cydweithio efo nhw i dyfu coed llwyf ar gyfer achub cen prin iawn ym Meirionnydd. 

Ychydig o'r hanes yn fan hyn

 

15.5.25

Tywydd Titw Tomos

Er bod coed helyg ifanc yn boen blynyddol i’w chwynnu yn yr ardd ‘cw, dwi’n canfod fy hun eto yn synfyfyrio mewn lluwch di-ddiwedd o hadau pluog; yr awyr las yn llawn blewiach gwyn. Pob gwe pry’ cop yn llen o gotwm, a miliynau o’r cneifion mân wedi glynu at ddail a bonion, dodrefn a chelfi yr ardd. 

Bydd raid codi cannoedd o egin-goed helyg -o bob gwely, pot, twll, a chornel- rhwng rwan a lluwch hadau’r gwanwyn nesa, ond mae’n anodd iawn peidio edmygu’r esblygiad sydd wedi rhoi modd mor effeithiol i’r helygen wasgaru ei had yn bell ar yr awel ysgafnaf.

Wyau; gorsaf dywydd; hadau helyg ar wyneb pwll; bwydo'r cywion

O’r llwyn gerllaw, mae llwyd y gwrych yn canu ei hochr hi, a rhywle yn y coed helyg heibio pendraw’r ardd, telor benddu’n seinio’n hyfryd iawn hefyd, y ddau yr un mor gerddorol ond bod penillion y benddu yn hirach ac mae’n taflu’r llais yn well. Un arall sy’n canu ar eu traws nhw heb falio dim am diwn na thempo, ydi’r siff-saff; mae cân hwnnw’n hawdd iawn i’w ‘nabod wrth iddo ailadrodd ei enw ei hun, ond mae’r ddau arall yn her bob blwyddyn i adnabod p’un ydi p’run.

Daw titw tomos las ar frys o rywle, yn dwrdio ‘mod i’n hawlio lle yn ei ofod o! Wedi dychwelyd mae o efo cropiad o lindys ar gyfer ciwed o gywion yn y blwch nythu ar wal y cwt. Mi gofiwch efallai i mi son dair wythnos yn ôl fod 12 ŵy yn y nyth, ac mi fues i’n gwylio’r camera’n selog ers hynny.

Roedd y cyw cyntaf wedi deor tua 3 y pnawn ar ddiwrnod olaf Ebrill, a’r ail oddeutu 20 munud ar ôl hynny. Dyna ddiwrnod cofiadwy am resymau eraill hefyd: cododd y tymheredd i dros 20°C am 8:20 y bore! Diwrnod poetha’r flwyddyn hyd yma, yn 26.7°C rhwng deori’r ddau gyw. Bu’n aruthrol o braf trwy’r dydd, a wnaeth y tymheredd ddim disgyn o dan 20 gradd tan tua wyth y nos, a bryd hynny roeddwn yn sefyll yn rhyfeddu yng ngwaelod yr ardd eto, y tro hwn at ffrwydriad anferthol o bryfaid.

Meddyliais i ddechrau mae gwybed bach oedd y cwmwl tywyll oedd yn troelli dros Afon Bowydd, nes gweld mae pryfed gwyrddion oedden nhw- y diawled bach ar eu ffordd i sugno’r bywyd allan o ddail ein coed ffrwythau! Eto, rhaid edmygu cylch bywyd y creaduriaid bach yma; swmp anferthol yr haid, a maint dirifedi eu llu.

Diwrnod nodedig, mewn tymor hynod iawn. Gorsaf dywydd ‘hobi’ sydd gen’ i yma, yn hytrach nag un broffesiynol gant-y-cant fanwl-gywir, ond mae wedi rhoi pleser heb ei ail i mi wrth ddilyn hynt y tywydd eleni.

Ddydd Llun, roedd y swyddfa dywydd wedi gosod rhybudd melyn dros Gymru, a’n harwain i ddisgwyl glaw trwm. Hynny ar ôl 14 diwrnod heb ddiferyn o law... ia, ym Mlaenau Ffestiniog hefyd! Ym misoedd Mawrth, Ebrill, a Mai hyd yma, bu cyfanswm o 42 diwrnod heb unrhyw law o gwbl, a nifer o ddyddiau eraill efo llai nag 1mm o law. Gwanwyn diarth iawn. A diolch amdano!

Ben bore Llun roedd llond gwniadur wedi disgyn ond prin wedi gwlychu’r llechi. Roedd y gwres wedi codi’n raddol wedyn trwy’r dydd, nes daeth newid sydyn am 4:45, pryd aeth y tymheredd o 25 gradd i lawr i 16 mewn chwarter awr. Daeth hynny law-yn-llaw efo cynnydd yn y gwasgedd ac ychydig o wynt. Ambell daran, ac yna glaw. Ychydig iawn fel mae’n troi allan. Bwrw am llai na 10 munud wnaeth hi yn y diwedd, a’r cwbl gafwyd oedd 2.31mm. 

Roedd yn wych profi’r petricor: arogl pridd ar ôl glaw hafaidd, ond ddaeth y glaw mawr ddim. Be fydden ni’n wneud heb gael swnian am y tywydd dwad? Mae’r titws yn gwneud y gorau o’r amodau beth bynnag.

Erbyn hyn mae 9 o gywion yn y nyth, wedi dechrau magu plu glas a melyn ac yn dringo dros eu gilydd i gael sylw’r oedolion sy’n dychwelyd bob 4 munud ar hyn o bryd, i roi bwyd yn eu pigau llydan melyn a choch. Efallai y gwnân nhw dolc yn y boblogaeth pryfed gwyrdd!

helyg- willow
troed y golomen- aquilegia
llwyd y gwrych- dunnock
telor benddu- blackcap
titw tomos las- bluetit
pryf gwyrdd- greenfly
gwybedyn bach- midge

- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 15 Mai 2025 (Dan y bennawd 'Gwanwyn yn dod')

Lluniau mwy diweddar:

Wedi magu plu yn gyflym iawn yn y tridiau ers i mi sgwennu'r darn uchod

 
Nos da, Mam!