Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

17.1.14

Brensiach y Bresych

Dal i hel ambell i beth o'r ardd gefn

Roedd y sbrowts rhy fach i'w hel ar gyfer y cinio Dolig; sgen i ddim syniad os an' nhw'n fwy bellach...


Y bresych deiliog/kale wedi cael hambyg go iawn gan y malwod, ond yn dal i rygnu tyfu ar goesyn hir.


Dwi ddim yn cofio enw hwn, ond roedden nhw'n ddail blasus ar gyfer salad trwy'r haf, ac wedyn yn dda i'w coginio, fel dail bresych. [diweddariad, 4ydd Chwefror: kale red Russian. Dyna ni, gall bawb gysgu'n braf rwan!]


Mae bresych coch yn gwneud yn dda yma, er bod yn rhaid tynnu llwyth o ddail cyn cyrraedd cnewyllyn heb dyllau, a baw malwod a slygs rhyngthynt! Dwi'n dal i wneud coleslaw cartra efo bresych coch, moron bach, a nionod o'r ardd.




12.1.14

Tegan newydd

Mi ges i 'chydig o bres Dolig, felly mi brynis i degan newydd.
Hof dyllu. Mae o fel matog lydan hirgoes.



Gan fod bore ddoe mor arbennig o braf, mi es i lawr i'r rhandir i dyllu ffos.
'Nol a mlaen wedyn efo berfa, a gorchuddio'r beipan ddraen efo gro (un o'r deiliaid eraill wedi cael twmpath gan gwmni tarmacio).

Bore da iawn o waith.
Dwi'n chwilio am slabiau concrid rhad rwan i greu llwybr ac osgoi gweithio mewn mwd.


Gwyntoedd dechrau'r mis wedi gwneud llanast eto.


Mae'r callaf o'r deiliaid wedi angori a strapio'u cwt i'r ddaear!

Dal i bendroni ydi'n werth buddsoddi mewn cwt ydw i....


1.1.14

'Mofyn am geiniog i ganu

Blwyddyn newydd dda iawn i'r llond dwrn ohonoch sy'n darllen y blog yma. Dyma obeithio am flwyddyn gynhyrchiol, bodlon, ac iach.
 
Cen a chreigiau Ffridd Hafod Ruffydd, a'r Manod Bach yn y cefndir. Crwydro ar ddiwedd Rhagfyr 2013.
    'Nid wy'n gofyn bywyd moethus; aur y byd; na'i berlau man.
    Gofyn wyf am galon hapus. Calon onest; calon lan.'

Ac os ga'i fod mor hy' ag ychwanegu: llond y ty o ffa a ffrwythau; ychydig o haul; a llai o falwod, os gwelwch yn dda!

Dwi ddim yn disgwyl cael yr un o'r rhain ar blat cofiwch. Dwi'n fodlon llafurio a chwysu (o fewn rheswm), a taswn i'n meddwl ei fod o'n mynd i helpu, mi fyswn yn gwneud dawns yr haul yn rheolaidd hefyd. Cyn belled nad oes neb yn gwylio. Na ffilmio ar gyfer Ffesbwc a You've been framed. Dwi wedi cyrraedd oed dawnsio-di-glem-y-tadau yn ol y plant!

Y Fari Lwyd bapur!
Calennig a ch'lennig a blwyddyn newydd dda.
Mi fues i efo'r plant y bore 'ma i ddymuno blwyddyn newydd dda i'r neiniau a'r teidiau, a hel c'lennig ganddyn nhw.

Fel plentyn pryd tywyll, roeddwn yn cael tipyn o groeso ar riniogau Stiniog ddiwedd y saithdegau ac wrth fy modd yn cael 'chydig o daffi triog ac ambell i ddeg cein.

Ddaeth neb ar gyfyl fan hyn eto eleni.

Addunedau.
1. Peidio troi gwydrad o win dros y laptop eto. Mi wnes i hynny ddiwrnod Dolig. Twpsyn! Son am strach. Pediwch a thrio hynny adra gyfeillion, gall fod yn gamgymeriad drud iawn i'w wneud. Damia- mi oedd o'n win da!

2. Peidio trafferthu i dyfu pethau nad ydi'r giang yn fwyta. Mond hyn a hyn o radish a dail salad fedar unrhywun ddiodda'n de.

3. Cynyddu'r ymdrech i brynu hanner acer o dir (trafodaethau sydd wedi bod ar y gweill ers tair mlynedd!)

4. Clirio'r cwt (breuddwyd gwrach!); creu mwy o welyau tyfu yn y rhandir a gwella'r llwybrau; rhoi cynnig ar wneud seidar cartra; crwydro'r fro efo'r genod; ymweld a mwy o erddi; dysgu nabod mwy o fadarch gwyllt; beicio'n amlach; gwneud y pethau bychain; cofio mor lwcus ydw i rhwng pob peth a mwynhau pob dydd.

Llyn Dwr Oer, a'r Manod MAWR yn y cefndir, 29ain Rhagfyr 2013. Y Pobydd a'r Fechan yn sgimio llechi ar y llyn.

Pa mor dda ydych chi am gadw addunedau? Gadewch imi wybod isod.

16.12.13

Dydd Llun(-iau). Oca eto

Fel arfer ar Ddydd Llun, dyma 'chydig o luniau, a llai o fwydro.

Daeth yn amser codi rhywfaint o oca* eto, gan fod y gwlydd wedi marw ar ol y barrug ddiwedd Tachwedd. Mi godais ddau blanhigyn, a gadael dau at wsos nesa (byddai'n cadw rhai i'w plannu eto o'r cnwd olaf).




Coch oedd un, a melyn oedd y llall.


Dyma nhw wedi'u torri'n ddarnau gweddol gyfartal a'u berwi am ddeg munud.


Ac wedi'u pobi efo 'chydig o olew rep, chili a halen.


Blasus iawn.


* os ydych yn newydd i'r blog yma, a ddim yn gyfarwydd efo'r llysieuyn, gwthiwch ar 'oca' yn y cwmwl geiriau ar y dde i weld ambell beth dwi wedi fwydro amdano o'r blaen.



9.12.13

Dydd Lluniau- pentymor

Masarnen Siapan ydi hon dwi'n meddwl -Acer palmatum. Does gen' i ddim syniad pa gyltifar ydi hi, ond mae hi'n hardd tu hwnt dan awyr las yn yr hydref.


Ddiwedd Tachwedd dynnais i'r lluniau.
Dyma edrych ymlaen am ddyddiau braf, oer dros y gaeaf.


Ac edrych ymlaen am ddeilbridd da y flwyddyn nesa eto.


Anaml fyddai'n blogio rwan tan ddechrau'r tymor nesa' mae'n siwr. Peidiwch a bod yn ddiarth, a hwyl am y tro!