Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

17.1.14

Brensiach y Bresych

Dal i hel ambell i beth o'r ardd gefn

Roedd y sbrowts rhy fach i'w hel ar gyfer y cinio Dolig; sgen i ddim syniad os an' nhw'n fwy bellach...


Y bresych deiliog/kale wedi cael hambyg go iawn gan y malwod, ond yn dal i rygnu tyfu ar goesyn hir.


Dwi ddim yn cofio enw hwn, ond roedden nhw'n ddail blasus ar gyfer salad trwy'r haf, ac wedyn yn dda i'w coginio, fel dail bresych. [diweddariad, 4ydd Chwefror: kale red Russian. Dyna ni, gall bawb gysgu'n braf rwan!]


Mae bresych coch yn gwneud yn dda yma, er bod yn rhaid tynnu llwyth o ddail cyn cyrraedd cnewyllyn heb dyllau, a baw malwod a slygs rhyngthynt! Dwi'n dal i wneud coleslaw cartra efo bresych coch, moron bach, a nionod o'r ardd.




2 comments:

  1. Mae'n amlwg bod y llysiau'n ddal i wneud yn dda dros y gaeaf - a mae'r lluniau'n wirioneddol wych

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Ann. Dwi ar ei hol hi eto efo paratoadau eleni... mae dy foron Dolig di'n edrych yn dda iawn.

      Delete

Diolch am eich sylwadau