Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

24.10.12

Fodca rhiwbob

Ydi. Mae o'n barod. Hir yw pob ymaros.


Mae o'n aeddfedu ers Mehefin, a dwi wedi edrych ymlaen am jochiad ohono ers i mi weld yr awgrym ar flog Hadau. Mae Tatws, awdur y blog, yn rhoi disgrifiad yn fan hyn o sut i'w wneud o, felly wna'i ddim ailadrodd. Dim ond dangos lluniau o'r broses.

Dwi wedi hepgor y sinamon a'r clofs, gan na fedra'i ddiodde'r sbeisus 'gaeafol'; nytmeg ac allspice a star anise aballu.

Deud y gwir, dwi ddim yn yfwr mawr o fodca, felly dim ond potel fach, 350ml wnes i. Ond mae'n well gen i fodca na gin, oherwydd mae blas y ffrwyth yn dod trwadd, yn fwy na blas y gwirod. Yn y gorffennol dwi wedi gwneud fodca eirin tagu, a'r gorau hyd yma ydi fodca llus.

Hel

Chwalu

Trwytho
A'r dyfarniad? Reit neis o'n i'n meddwl.
"Afiach. Ddim digon melys", meddai'r Pobydd! Siwgwr lwmp ynddo fo iddi hi ta..
Tydi o byth yn mynd i guro cwrw du Brains, neu botel o Ochr Tywyll y Mws, gan Fragdy Mws Piws, ond mi fydd o'n dda ar y nosweithiau oer dros y gaeaf, o flaen y tân. Gwell ei adael am rwan tan y penwythnos mae'n siwr. Wel... un fach arall efallai..



22.10.12

Ara' deg mae dal iar

Tystiolaeth o ba mor araf oedd ein taith arfordirol ni! (Gweler y post ddwytha).
Diolch i Gareth am y ddolen.







Dyma ddelwedd o'r sgrin i'r rhai sydd ddim eisiau dilyn y ddolen i wefan Garmin. Diolch eto Gareth, am dy amynedd efo technoleg!



21.10.12

O gribau'r creigiau geirwon

Mae nghalon yn y mynydd, efo'r grug a'r adar mân... ond eto'i gyd mae 'na dynfa ryfeddol at y môr weithia'. Sgwn i fedra'i annog un o'r genod 'cw i briodi mab fferm o Ben Llŷn, efo cwch a photia' cimwch, i mi gael cyfuno'r ddau fyd?!

Dic Jones sy' bia geiria'r pennawd. Doeddwn i ddim yn gyfarwydd efo'i gerdd i 'Lwybr y Glannau' tan y penwythnos dwytha, pan es i lawr i Langrannog ar drip blynyddol rhai o'r criw y bues i'n ddigon lwcus i dreulio tair mlynedd yn eu cwmni yn y coleg ym Mangor.

'Da ni'n dod at ein gilydd bob hydref, er mwyn cerdded trwy'r dydd, wedyn yfed 'chydig o gwrw, a thynnu coesau'n gilydd trwy'r nos. Aeth deunaw mlynedd heibio ers inni rygnu trwy'r arholiadau ola' ac mae criw bach ohonom wedi cadw cysylltiad yn llwyddianus ers hynny, diolch i'r drefn.

Mi gawson ni ddyddiau cofiadwy iawn yn y Preseli, Y Bannau, y Ddwy Aran, a mwy dros y blynyddoedd.  I 'Stiniog ddaeth pawb y llynedd, ac mi gawson ni ddiwrnod cynnes braf i gerdded dros y Moelwyn Mawr ac i lawr yr ochr bella' i'r Ring yn Llanfrothen. Roedd hwnnw'n ddiwrnod hir (gan ein bod ni'n defnyddio llawer iawn mwy o egni yn siarad a dal i fyny, nac ydan ni wrth gerdded), felly taith haws ar yr arfordir amdani eleni!
Doedden ni ddim llawer cynt ar lefel y môr chwaith: mi gymrodd hi chwech awr i ni gerdded y tair cilomedr ar ddeg o Langrannog i Gei Newydd! Ychydig dros 2km yr awr. Wel, mae hel clecs a rhoi'r byd yn ei le yn ddiawl o waith caled tydi, ac yn ôl y Pobydd, 'mond un peth ar y tro fedrwn ni ddynion wneud!

Yr haul yn gwenu ar y cyfiawn! Dechrau o draeth Llangrannog, a Charreg Bica.

Tydi'r sgwar ddim digon mawr i'n hogia' ni. 
Digon o amser i lolian a mwydro ar ben clogwyni Penmoelciliau.

Capiau cwyr coch Ceredigion.


Yn anffodus, doedd gen' i ddim map digon manwl i wybod enwau'r cilfachau a'r creigiau a'r nentydd a'r traethau i gyd, ond Pendinaslochtyn ac Ynyslochtyn sydd yn y cefndir yn y llun yma. Roedden ni'n gweld bob cam o Ynys Aberteifi i Ynys Enlli yn ystod y dydd. Peth da ydi aros am eiliad a chofio gwlad mor brydferth ydi Cymru fach.



Un o nifer o ddarnau trawiadol Llwybr Arfordir Cymru.
Llwybr sy'n 870 milltir o hyd (1392km). Os lwyddwn ni i gwrdd am ddiwrnod bob hydref,
dim ond 106 o flynyddoedd ydan ni angen eto ...ac mae Llwybr Clawdd Offa i ddod wedyn! Rôl on.

Mi aethon ni ar ein pennau i dafarn y Dolau wrth gyrraedd Cei Newydd. Mae'r beint gynta wastad yn well na dim byd ddaw wedyn tydi. Hyfryd.
Yn ôl wedyn i Langrannog, gan fwynhau bwyd a diod Y Llong a'r Pentre Arms, a pharhau i roi'r byd yn ei le tan yr oriau mân.
Amhrisiadwy. Diolch 'ogia.

Dyma lun o daith y llynedd. Yn y post dwytha, mi rois i lun o inclên chwarel y Wrysgan. 
Dyma lun (gan Gareth) o ben ucha'r inclên lle mae'n mynd trwy dwll yn y graig. Lle arbennig iawn.



Dyfynnu:

'Nant y Mynydd'. Ceiriog. [eto!]
Mab y mynydd ydwyf innau
Oddi cartref yn gwneud cân,
Ond mae nghalon yn y mynydd, 
Efo'r grug a'r adar mân.

Llwybr y Glannau, Dic Jones.
Hyd lannau Ceredigion
Mae'r tir a'r môr yn leision,
A golwg ar bellterau'r Bae
O gribau'r creigiau geirwon.    



8.10.12

Dydd Llun(iau)

Rhannu ambell lun ydw i heno, yn hytrach na malu awyr...

Wedi bod am dro bnawn ddoe, gan ei bod yn sych, lawr at Lyn Ystradau -Llyn Tangrish fel 'da ni'n ddeud- a cherdded ar hyd yr argae.
Mae'r llun gynta'n edrych dros y llyn at inclên chwarel y Wrysgan, a Moel yr Hydd. Braidd yn fflat ydi lliwiau'r llun mae gen i ofn, am bod yr haul wedi mynd dan gwmwl.


Beicio oedd y Fechan ar yr argae. Roedd 'na amser pan nad oedd hi'n ffit i grwydro'r argae efo plant, gan fod pawb yn mynd yno i wagio eu cŵn, ond mae'r sefyllfa wedi gwella'n arw erbyn hyn. Y Wrysgan yn y golwg eto, ac Allt y Ceffylau yn y pellter yng nghanol y llun; Bwlch Cwmorthin, a thomen chwarel Cwmorthin wedyn, a Chraig Nyth y Gigfran ar y dde.

Yr Arlunydd wedi bod yn brysur tra oedden ni allan: tartenni siocled i bawb!

Pry' hofran ar flodau origano. Yr ardd gefn wedi bod yn berwi efo pryfed hofran, cacwn, a gwyfynnod, wedi gwirioni ar eiliadau prin o haul. Hwn yn un o aelodau'r teulu Platycheirus (albimanus dwi'n meddwl). Maen nhw'n ddiawledig o anodd i'w nabod fel grwp, ac ychydig iawn sy'n hawdd eu nabod heb eu dal, fel hwnnw sydd wedi bod yn llun y mis.

Lindysyn gwalch-wyfyn helyglys (elephant hawkmoth) ydi'r anghenfil yma. Mae ymylon safle'r rhandiroedd, a'r plots segur yn llawn chwyn, ond mae canfod y lindys trawiadol yma -a gwybod fod y gwyfyn hardd ar y safle hefyd- yn ein hatgoffa bod 'chydig o flerwch a chwyn yn llesol. Roedd o dros ddwy fodfedd o hyd, ac yn edrych fel petai'n dechrau magu croen caled i droi yn chwiler/pupa am y gaeaf.

Dyma (hen) lun o'r 'oedolyn' hardd. Mae'r rhain yn cael eu denu'n aml at olau yn yr ardd gefn. 

Mari-a-Meri (capan cornicyll/nasturtium) yn gwneud eu gorau glas i ychwanegu lliw i'r rhandir. 
Craig Bwlch-y-gwynt yn y cefndir.

Dail y llus mawr sy'n ychwanegu lliw i'r ardd gefn ar hyn o bryd. Y llwyni wedi eu tocio, a gorchudd newydd o ddeilbridd conwydd ar y gwely, yn barod am y gaeaf...yn wahanol iawn i mi!


5.10.12

Canmol!

Dwi wedi bod yn ddigon parod i ladd ar Byw yn yr Ardd, ar fwy nag un achlysur, felly mae'n iawn imi ganmol hefyd pan fo hynny'n briodol.


Oherwydd y gyfres o raglenni'n ail-ddangos 'uchafbwyntiau' dros yr haf, roeddwn wedi rhoi'r gorau i recordio'r rhaglen, ac felly mi fethais ddwy bennod ola'r gyfres yn ail hanner Medi.


Ar ol i bawb arall fynd i'r gwely heno, i ges i gyfle i ddal i fyny trwy wasanaeth Clic ar wefan S4C.



Rhaglenni gwreiddiol oedd y rhain (pennod 10 ac 11), ac roedd y ddwy raglen yn wirioneddol dda; yn wir, doedd dim un o'r eitemau yn wan.




Mae Russel wedi torri ei wallt ac yn cymryd ei hun ychydig llai o ddifri mae'n ymddangos. Roedd ei wylio'n perfformio 'dawns y tadau' ym mhennod 10, yn ddoniol iawn! Ar ddiwedd y bennod olaf, roedd wyneb Bethan Gwanas (llun uchod) yn amhrisiadwy pan oedd Russel yn bloeddio ei "TA-RAAA" angerddol!

Ym mhennod 11, roedd y darn yn Felin Uchaf, lle'r oedd Russel yn naddu giat o hen dderwen oedd wedi disgyn, yn arbennig o ddifyr. Roedd ei adolygiad o'r flwyddyn ar y 'Patsh' yn werth ei weld hefyd, ond eto, biti na fysa ganddo fwy o amser. Syniad am raglen arbennig yn fy marn i.

Roedd gwylio cyffro Bethan Gwanas wrth ennill efo'i mel yn Sioe Talybont yn wych, a rhywun yn teimlo'i blachder. Mae mwy o fanylion am ei gorchest ar ei blog difyr iawn (dolen ar y dde).

Mi wnes i fwynhau cyfraniadau Sioned hefyd: Twm Elias yn ddifyr a smala fel bob tro wrth drafod perlysiau Canolfan Hanes Uwchgwrfai, ac eitem digon diddorol ar blannu Heucheras mewn basgedi.

Braf iawn oedd gweld mwy o ddefnydd o'r labeli, yn enwi'r planhigion oedd y cyflwynwyr yn cyfeirio atyn nhw hefyd.

Am y tro cynta ers talwm, mi ffeindis i fy hun yn diawlio nad oedd y rhaglen yn awr o hyd yn hytrach na hanner awr. Llongyfarchiadau i'r cynhyrchwyr ar ddwy bennod arbennig; melys moes mwy.

Biti garw fod y gyfres wedi gorffen rwan. Mae'r ddwy bennod ar gael ar Clic, trwy wefan S4C: pennod 10 am dair wythnos, a phennod 11 am bedair wythnos, arall. Os na welsoch chi nhw, brysiwch i'w gwylio, a gadwch imi wybod eich barn.

Ydw i wedi bod yn or-feirniadol o'r rhaglen yn y gorffennol? Ynta', ydi hi wedi gwella'n arw at ddiwedd y gyfres? Dyma edrych ymlaen at bennod y Nadolig, a chyfresi'r dyfodol.