Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label niwl. Show all posts
Showing posts with label niwl. Show all posts

31.10.18

Gwyn ein byd

Mae 'na rwbath cyfareddol am dirlun gwyn, gwag, distaw.

Yr unig sŵn am gyfnod oedd olwynion a cheblau'r cadeiriau yn ein cludo'n araf i rywle anweledig yn uchel ar lethrau'r mynydd.

Mewn caban cauedig, mae cymal cynta'r daith yn glud, ond o drosglwyddo i gadeiriau sgïo agored ar ran uchaf y mynydd, mae'r profiad yn dra gwahanol; heddiw o leia.


Roedden ni ddiwrnod yn hwyr yn cyrraedd Bariloche, a thymor sgïo mynydd Cerro Catedral newydd gau am y gwanwyn -nid fod gen i fawr o ddiddordeb mewn sgïo, ond efo diwedd y tymor daeth cau pump o'r chwech llwybr cebl-car hefyd. Anelu am ardal o dan gopa Punta Prinsesa oedd raid felly.

Ar ôl cael cip sydyn o gopaon gwych Catedral dan awyr las wrth deithio o'r maes awyr, mae 'mynydd y gadeirlan' wedi bod dan gwmwl bob dydd, fel y Moelwyn yn gwisgo'i gap dragywydd. Efo'r rhagolygon tywydd ddim yn gaddo unrhyw welliant, rhaid oedd mentro, a gobeithio y byddai pen ucha'r sgi-lifft yn codi uwchben y cwmwl...

Breuddwyd gwrach!

Y gobaith oedd gweld golygfeydd godidog o'r mynydd trawiadol yma, yn ogystal â'r Parc Cenedlaethol a'r Andes. Mae'n anodd gweld y gadair sgïo bob ochr i ni ar gymal ola'r daith, heb son am unrhyw olygfeydd! Mae'r gwynt yn codi rŵan, a'r tymheredd yn disgyn; ac mae eira mân, caled yn lluwchio i'n gwynebau, wrth i'n clustiau ni glecian efo'r uchder.

Rhaid chwerthin wrth grwydro'r eira i dynnu llun mewn amgylchedd cwbl ddi-liw, heb weld yn glir lle oedd y llawr yn gorffen a'r awyr yn dechrau. 'Hen linell bell nad yw'n bod'  go iawn oedd y gorwel yma.



Mae'r caban pren ar ben y llethrau sgio yn gynnes a chroesawgar, a'r baned siocled boeth yn fwy deniadol o lawer na chwrw am unwaith. 

Dryswyd ein bwriad i gerdded at Refugio Frey ar ddiwrnod arall, a'r llwybrau ar gau oherwydd yr amodau tywydd: eira newydd a'r tymheredd dan y rhewbwynt. Dyma gaban sydd ar uchder o 1700m ar gefn Catedral, ac un o treks undydd poblogaidd yr ardal.

Rhaid i bawb sy'n cerdded llwybrau'r Parciau Cenedlaethol yma gael trwydded cyn mynd, ac mae'n ddifyr iawn eu bod yn medru cau llwybrau er mwyn diogelwch. Biti ar y diawl na fedrwn ni rwystro mynediad i ambell un ar fynyddoedd Cymru fach hefyd!
-----------------------------

[Cerdyn post rhif pedwar o'r Ariannin. PW 18 Hydref 2018]