Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

4.4.24

Ar Bererindod i Langelynnin

Rydw i wedi bod eisiau mynd i weld Eglwys Llangelynnin ers blynyddoedd, a gan fod y bobol tywydd wedi gaddo chydig o haul dros benwythnos y Pasg, a finna angen danfon y fechan i ddal trên yng Nghyffordd Llandudno ben bore Sadwrn, dyma drefnu taith fach.

Parcio ar gyrion Coed Parc Mawr, un o safleoedd Coed Cadw ger pentref Henryd, Dyffryn Conwy, a chael croeso braf gan gôr o adar yn canu, a dau neu dri ceiliog siff-saff, yn ôl yng Nghymru ar ôl taith hir o’r Affrig ymysg yr amlycaf ohonyn nhw. Dyma warchodfa sy’n werth ymweld â hi, hyd yn oed os nad ydych eisiau dringo allan ohoni tua’r eglwys a mynydd Tal-y-fan uwchben. Mae rhwydwaith o lwybrau trwy’r coed, a gwybodaeth ar yr arwydd ger y fynedfa am eu hyd a pha mor serth ydyn nhw ac ati. 

Ar ddiwedd Mawrth roedd ardaloedd o lawr y goedwig yn garped trwchus o ddail craf y geifr (neu garlleg gwyllt), ac mewn ambell le llygad Ebrill, briallu a blodyn y gwynt. Dros fy ysgwydd dwi’n clywed gwich cyfarwydd ac yn troi i wylio dringwr bach yn hel ei fol ar fonyn hen dderwen. Un o adar preswyl coedwigoedd Cymru ydi hwn, yma trwy’r flwyddyn efo ni, yn dilyn llwybr droellog i fyny boncyff yn chwilio am bryfetach yn y rhisgl. O gyrraedd y brig mae’n hedfan i waelod y goeden nesa a dechrau eto- crafangau mawr ei draed a’i big hir cam yn edrych yn ddigri braidd, fel petaen nhw’n wedi eu benthyg gan adar eraill. 

Wrth imi fwrw ymlaen daw’n amlwg fod llawer o waith ar y gweill yma i deneuo’r hen goed conwydd ar y safle a’i hadfer yn araf bach i fod yn goedwig llydanddail unwaith eto. Lle mae’r haul yn dod trwy’r canopi, mae’r goedwig yn ferw o gacwn a gwenyn a phryfaid, a’r mwyaf diddorol o’r rhain y tro hwn ydi’r wenynbryf, neu’r bee-fly. Fel pelen o fflyff, efo’i dafod hirsyth allan yn barhaol o’i flaen, mae’n edrych yn ‘ciwt’ iawn, ond mae ganddo ochr dywyll i’w fywyd hefyd! Mae’r wenynbryf benywaidd yn hofran ger mynedfa nyth gwenynen durio (mining bee) ac yn fflicio’i hwyau i mewn. Ar ôl deor mae’r larfau yn bwyta wyau ac epil y wenynen.

Wrth gyrraedd llwybr y plwyfolion rhaid troi tua’r mynydd ac allan o gysgod y coed, rhwng dwy wal gerrig drawiadol. Dwi’n cael cwmni dryw bach sy’n dweud y drefn am imi dorri ar ei heddwch, a bwncath yn mewian uwchben. Mae’r rhan yma o’r llwybr ar Daith Pererin Gogledd Cymru o Dreffynnon i Enlli, a chyd-ddigwyddiad oedd imi weld pennod gyntaf cyfres y BBC ‘Pilgrimage’ ar ôl cyrraedd adref y diwrnod hwnnw, efo criw o selebs (medden nhw) yn ymweld â Llangelynnin.  

Daw’r eglwys i’r golwg ac mae’n werth pob eiliad o ddringo i gyrraedd lle mor arbennig. Trwy lwc, does neb arall yma a hyfryd ydi cael oedi i fwynhau’r awyrgylch am ennyd a gwerthfawrogi’r olygfa, cyn crwydro’r fynwent hynafol ac eistedd ar y fainc garreg ar lan Ffynnon Celynnin. Yn y 12fed ganrif adeiladwyd yr eglwys sydd yma heddiw ond mae siap y fynwent yn awgrymu fod y safle’n bwysig hyd yn oed cyn y 6ed ganrif pan ymsefydlodd Celynnin yma. Mae’r tirlun yma’n frith o olion archeolegol: yn fryn-gaerau a chromlechi, cytiau crwn a meini hirion lle bynnag yr edrychwch, a dwi yn fy elfen!


Ar ôl bysnesu tu mewn i’r eglwys, dwi’n dilyn y llwybr heibio Craig Celynnin, gan fwynhau cân clochdar y cerrig o lwyn eithin, a chorhedydd y waun yn trydar wrth barasiwtio o’r awyr las uwchben. O gyrraedd siambr gladdu a bryn-gaer Caer Bach gallwn weld ymhell i fyny Dyffryn Conwy rwan yn ogystal ag allan i’r môr. 

Mae’r Carneddau dal dan eira, ac wrth i’r haul fynd dan gwmwl mae’r gwynt yn fy atgoffa fod angen côt a het o hyd, er i’r haul blesio dros dro. Daeth amser i droi am yn ôl, ond mae digon o reswm i ddod y ffordd hyn i grwydro eto’n fuan.

siff-saff            chiffchaff            
craf y geifr        ramsons/wild garlic    
llygad Ebrill        lesser celandine        
briallu            primrose
blodyn y gwynt        wood anemone

dringwr bach        treecreeper
gwenynbryf        bee-fly
clochdar y cerrig    stonechat
corhedydd y waun    meadow pipit
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),4ydd Ebrill 2024. (*Dan y bennawd 'Man Pererindod')

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau