Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

1.11.18

Troi am y Wladfa

"Ydech chi'n siæred Gymræg?" medd yr acen hyfryd tu ôl i mi. Roedd y bws o Bariloche i Esquel awr a thri chwarter yn hwyr, felly tîn-droi yn y Terminal Autobus oedden ni, ac mi welodd o'r ddraig goch ar y rycsac.

Doedd Mervyn Melin Nant Fach, ddim yn hyderus yn iaith ei dad, felly cymysgedd o Gymraeg, Sbaeneg ac iaith ryngwladol y chwifio dwylo gafwyd ar y daith bump awr i'w filltir sgwâr o yn y Wladfa Gymraeg. Dyna ein profiad cyntaf o siarad Cymraeg efo brodor yn yr Ariannin, a hynny gannoedd o filltiroedd i'r gogledd o'r cymunedau Cymreig.


Roedd y bws yn foethus i gymharu â siarabangs budr a swnllyd bysus cyhoeddus Cymru, a'r siwrna braf yn y seti blaen ar y llawr ucha' ddim yn costio fawr mwy na thocyn o Stiniog i Gaernarfon ac yn ôl!

O fewn tri chwarter awr, ar ôl 5 diwrnod o gymylau a glaw, mae'r awyr yn clirio'n las a'r mynyddoedd yn cyrraedd eu huchder llawn. Mae'r angar wedi clirio o'r ffenest erbyn hyn hefyd, i ni fedru edmygu'r olygfa: llethrau claerwyn wedi'u torri gan greigiau duon, ac ambell gopa a chrib fel coron dywyll ar ben y mynydd. Dyma'r ucheldir trawiadol welson ni o'r awyren wrth gyrraedd wythnos ynghynt.

Bu dipyn o ddifyrwch o'n cwmpas ar y bws wrth i mi ymateb i gais Mervyn i ddysgu 'chydig o Gymraeg iddo, trwy ganu cân berthnasol Plethyn: 'Melinydd oedd fy nhaid', a 'nghyd-deithiwr yn cyfieithu iddo fo. Er canu hon fil o weithiau i'r plant pan oedden nhw fychain (pennill y chwarelwr yn benodol), wnes i erioed ei chanu hi'n gyhoeddus o'r blaen. Roedd o'n gwerthfawrogi'r geiriau fwy na'r llais dwi'n meddwl!

O ben y bwlch mae'r bws yn disgyn yn droellog i lawr i ddyffryn coediog, a'i ochrau'n codi'n serth a'r coed yn teneuo efo uchder, i haen sy'n frith o lwyni bychain, nes ei bod yn rhy uchel i blanhigion preniog, a'r tirwedd yn troi'n sgri llwm, neu'n graig noeth. Collodd Cymru ei 'treeline' naturiol ganrifoedd yn ôl, a dwi'n difaru na fedraf neidio oddi ar y bws i gerdded a dringo am y diwrnod, efo llond bag o lyfrau i nabod y planhigion a'r adar yma.


Daw'r bws i stop mewn man archwilio Gendarmería Nacional a'm deffro fi o'r synfyfyrio. Ai dyma'r ffin rhwng taleithiau Rio Negro a Chubut tybed? Roedd Mervyn yn chwyrnu felly doedd dim modd holi; ac wedi ychydig funudau yn unig o oedi, ymlaen â ni.

Mae'r tirlun yn drawiadol bob cam ar y daith, ac ambell lecyn arall yn dal y sylw, fel rhaeadrau Cascada de la Virgen a'r eglwys wen; dŵr Rio Foyel yn wyrdd; gwair pampas yn ei gynefin naturiol, yn hytrach na gardd yn suburbia; gwartheg yn y ffordd, fel defaid y Migneint (ond ddim digon call i symud pan ddaw cerbyd); a golwg cynta ar rai o'r estancias a'r ffermydd mawr, a'u rhesi o goed talsyth, cul, y poplys -alamo fel mae'n nhw'n cael eu  nabod yma.

Erbyn gyda'r nos, mae'r bagiau yn yr hostel yn Esquel, a chawn chwilio am gwrw oer a thamaid o fwyd.
---------------------------------------


[Cerdyn post hwyr o'r Ariannin. #5. PW 19 Hydref 2018]

5 comments:

  1. Braf cael darllen hwn Paul. Mae dy ddisgrifiadau'n dod á'r daith wnes di ar y ffordd i, ac yn y Wladfa yn fyw iawn. Wedi mwynhau pob un o dy lithoedd ar y daith.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch eto VP. Dwi'n mwynhau cael ail fyw y profiad, gan nad oes yna unrhyw deithio eleni!

      Delete
  2. Dw i wedi mwynhau dy eiriau yn wir. Wyt ti wedi gwneud disgrifiad perffaith. Bydd y drysau ar agor (ar ol cyfnod clo) os wyt ti eisiau dod yn ol cyfaill. abrazo

    ReplyDelete
    Replies
    1. Muchas gracias amigo; a chdithau yma

      Delete

Diolch am eich sylwadau