Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

22.11.16

Sbeislyd

Hadau coriander o'r tŷ gwydr. Neis ydyn nhw hefyd.


Er bod planhigion basil yn gwneud yn dda iawn yma, tydi'r amodau ddim yn plesio coriander cystal, ac maen nhw'n gyndyn i gynhyrchu cnwd o ddail. Mae pob planhigyn coriander dwi'n dyfu yn rhedeg yn gyflym iawn i flodeuo.

Maen nhw'n ddigon bodlon, ar y llaw arall, i gynhyrchu hadau ar ôl blodeuo, ac mae'r rhain yn flasus iawn yn wyrdd, mewn llysiau wedi'u stwffio er enghraifft, ac maen nhw'n sychu'n dda hefyd.

Os ydi'r dail angen mwy o sylw a dandwn nag ydw i'n fodlon roi, o leia' gawn ni gnwd o hadau ar gyfer cyri trwy'r hydref a'r gaeaf!




Bot: llysiau'r bara, brwysgedlys m Cu: coriander m     [Geiriadur yr Academi]



2 comments:

  1. Dwi wrth fy mode gyda coriander. Ond yr un broblem yma - anodd cael y dail y unig. Ond dwi wedi ffeindio bod y fath o goriander yn gwneud gwahaniaeth gyda 'Cilantro' yn wneud yn llawer well na'r lleill am ddail. Dwi ddim yn cofio yn union lle brynais i'r hadau - falle Thompson & Morgan, neu efallai'r "organic gardening catalogue"

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Ann, mi edrycha' i am hadau cilantro.
      Dwi'n meddwl siwr mae cael yr hadau am ddim mewn cylchgrawn wnes i eleni. Efallai na fyddwn wedi mentro fel arall!

      Delete

Diolch am eich sylwadau