Tydi'r rhain ddim yn luniau arbennig o dda; dim ond cofnod o ddwyawr dymunol ar y mynydd efo 'nhad ac un o'r genod heddiw. Diwrnod gaeafol ac oer, ond yn bwysig iawn: diwrnod sych!
Graig Lwyd, Drum, Llyn Morwynion |
Chwarel Bryn Glas; cymylau duon a'r Moelwynion |
Ffestiniog 4½ Yspytty (Ysbyty Ifan) 6½
|
Mwydryn, Pry' Llyfr, a phennaeth y llwyth. Garnedd, Foelgron, Llyn Morwynion |
Cyrraedd 'nôl adra a chael cawl poeth blasus, a chynnau tân yn y grât am y tro cynta' ers y gwanwyn.
--------------------------------------
*Cwpled hyfryd y mae Nhad wedi bod yn adrodd yn rheolaidd ers blynyddoedd, gan fardd lleol na wyddwn i ddim byd mwy amdano, yn anffodus, na dwy frawddeg yn Narlith Flynyddol Cymdeithas Y Fainc Sglodion, 'Stiniog, 1988, gan Moses Jones.
Mae’r ddarlith yn dechrau:
“Nid yw nef ond mynd yn ôl,
Hyd y mannau dymunol.
Un o fechgyn y Blaenau, y diweddar Owen Morgan Lloyd, biau’r gwpled uchod, ac mae llawer ohonoch yn ei gofio ‘rwy’n siwr, fel Gweinidog a Phregethwr a bardd o ddawn arbennig iawn. Teyrnged i’w hen ardal sydd gan Owen Morgan yn y llinellau hyn.”
[Argraffwyd gan Wasanaeth Llyfrgell Gwynedd.
ISBN 0 904852 60 1]
Diwrnod hen ffasiwn, fel y dyddiau fu, - gwerthfawrogi'r pethau pwysig mewn bywyd, cynefin godidog yn unigedd y Migneint, tywydd ffafriol, dim byd i f'atgoffa o'r byd mawr cyfalafol, a meddylfryd hunanol y dyddiau hyn. Ond yn bwysicach, cael cwmni diddan dau o 'nheulu cariadus â'u gwreiddiau'n ddwfn yn y gymdogaeth hon. Diolch amdanynt.
ReplyDeleteMelys moes mwy!
Delete