Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

11.11.15

Stwffio tomatos

Hen flwyddyn sâl i dyfu llysiau oedd hi'n fan hyn.

Ches i ddim un bwmpen. Dim un. Ar ôl eu tyfu o had a'u meithrin yn y tŷ gwydr, roedden nhw'n blanhigion da, ond yn hwyrach o lawer yn prifio. Wedyn, ar ôl eu caledu a'u plannu allan yn yr ardd ac ar y rhandir, mi drodd y tywydd yn sâl ac yn oerach eto.

Er gwaetha' ymdrechion i'w gwarchod efo plastig drostynt, erbyn iddyn nhw ail-ddechrau tyfu'n gryf, roedd hi'n rhy hwyr i'r ffrwythau bach ddal i fyny cyn diwedd y tymor. I'r compost aeth y cwbl, a'r bwmpen fwya'n ddim mwy na maint afal.

Tomatos hyfryd ildi
Mi wnes i'n well efo pys a ffa. Ond mae'r tomatos bron a drysu 'mhen i. Dim ond yn y tŷ gwydr mae'n bosib tyfu tomatos yma, ond efallai nad ydi tŷ gwydr di-wres yn ddigon chwaith... a'r gwahaniaeth rhwng tymheredd y dydd a thymheredd y nos yn rhy eithafol.

Tyfodd chwech o goed -moneymaker ac ildi- yn dda, ond efo'r diffyg haul am y rhan fwyaf o'r haf, roedd y ffrwyth yn hir iawn yn aeddfedu. Ac wedyn dim ond fesul hanner dwsin oedden ni'n medru eu hel nhw. Dim gobaith am 'glut' yn fan hyn!

Tomatos moneymaker yn cochi fesul 'chydig
Fel llynedd, ddaeth yr aflwydd blight ddim ar y tomatos, ac efo'r hydref mwyn, maen nhw'n dal i dyfu. Ond asiffeta, mi fysa'n braf medru hel pwysi o domatos ym mis Medi...!

Dal yn fwyn yn wythnos cynta' Tachwedd
Dwi wedi llyncu mul efo tomatos o'r blaen, a pheidio'u tyfu am ddwy flynedd. Mae'n demtasiwn i ddeud "Wfft i domatos; stwffio nhw" eto! Gawn ni weld...

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau