Daeth y clwy tatws acw.
Dwi wedi codi dwy res o'r tatws cynnar yn gynt nag oeddwn isio gwneud. Ond roedden nhw wedi bod yn y ddaear ers 100 o ddyddiau, felly mi gawson ni gnwd golew.
Roedd y clwy wedi difetha rhai o'r tatws, ond argian, roedd y lleill yn dda efo menyn hallt.
Blas yr haf. Hyfryd.
Rhes arall o Arran Pilot i edrych ymlaen atyn nhw, a'r tatws ail-gynnar -Bonnie- i ddilyn o'r rhandir, sydd ddigon pell o'r clwy yn yr ardd gefn.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau