Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

10.5.14

Crafu

Heb fawr o antur, mi fues i'n gwneud pesto craf eto, ar ddiwrnod gwlyb a diflas.

Ond mae pawb (heblaw'r fechan) wrth eu boddau'n ei fwyta efo pasta neu salad, felly gwirion fysa peidio hel cnwd bob blwyddyn.

Cymysgu 50g o ddail a blodau craf y geifr (garlleg gwyllt), efo 30g o gnau pi^n, neu gashews, 30g o gaws caled fel parmesan, ac 80ml o olew. 'Chydig o halan a phupur 'fyd.

Heno: pasta  bucatini (stwff gwell na'r pasta sych ganol-wsos arferol!), tatws a phys, efo pesto craf. Blas mwy.


A digon o besto i'w roi yn yr oergell at tro nesa.


2 comments:

  1. Anonymous24/5/14 15:09

    Dechrau meddwl ei bod yn bosib gwneud pesto gydag unrhyw ddail! A beth am pesto brocoli? Mmmm, syniad.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau