Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

16.2.14

Rhiwbob cynta'r flwyddyn

Fel llynedd, ymddangosodd goesyn cynta'r rhiwbob rhwng y Dolig a'r Calan, ac mae bwced wedi bod drosto ers hynny.



Erbyn heddiw, roedd ambell i ddarn wedi tyfu'n ddigon tal i godi'r bwced oddi ar y pridd, felly roedd yn rhaid hel rhywfaint, er mwyn i'r gweddill gael aros yn y tywyllwch ychydig yn hirach.



Mi dorrais bedwar coesyn coch hyfryd, a'u stiwio'n syth. Roedd y Pobydd wedi gwneud crempogau i de, ac o, roedden nhw'n dda....


Melys moes mwy mwy mwy.



8 comments:

  1. Wwww! :-) Lluniau gwych - a mae o'n edrych yn flasus. Swn i ddim wedi meddwl o roi o gyda crempog, ond mae o'n edrych fel ei fod yn gyfuniad da - tybed os oes digon o'n coesau bach ni i wneud yr un peth?

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Ann. Mi orffennodd o'n rhy gyflym o lawer. Edrych ymlaen at y cnwd nesa rwan....

      Delete
  2. Digon a dail ceffyl i'w wasgaru rownd y bonion yma, rhad ac am ddim - i deulu'n unig, wrth reswm!

    ReplyDelete
  3. Anonymous21/2/14 16:08

    Newydd fod allan i annog ein hegin riwbob i ymateb i'r her o Asgwrn y Graig. "Jiw, jiw, ni'n gwneud ein gore, w!" oedd eu hymateb o lethrau Treforys. Siwr bod y crempogau rhiwbob yn flasus dros ben.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Dwi'n siwr bod Treforys yn le gwell i dyfu indiacorn a marchysgall, ond mae rhiwbob yn mwynhau glaw Stiniog, a diolch amdano!

      Delete
  4. Helo Paul, newydd dy glywed yn siarad ar y radio - ac wedi clicio ar y blog - gret!!!

    Mi ydw i'n trio garddio llysiau ers rhyw ddwy flynnedd rwan, ac wedi troi darn o dir a oedd yn llawn Leylandii felltith yn ardd lysiau (efo nerth bon braich i godi'r holl fonion a gwreiddiau a tunelli lawer o hen dail i roi rhywfaint o faeth yn ol i'r tir).

    Mae'r broblem o dirlun anodd gen i hefyd - mi 'dwi'n byw bellach yn Llidiardau ger y Bala, ac yn garddio ar drod fil o droedfeddi yn nannedd y gwynt.

    Mae wedi bod yn fwriad gen i lunio blog garddio ers talwm - mae gen i flog tynnu lluniau ers blynyddoedd - ac mi 'dwi'n dilyn nifer o flogiau garddio Saesneg a sianeli You-tube, ac mai mor braf cael profiadau yn yr iaith Gymraeg ar-lein, ac o ardd sydd ar dirlun tebyg.

    Hwyl efo'r blogio - mi wyt ti ar y 'ffeforets' rwan - mi allai dy ddilyn di yn gyson,

    Geraint

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Ger, wow 1000 o droedfeddi! Dyna pam blanwyd y leylandii mae'n siwr ia, i warchod yr ardd o'r gwynt! Wyt ti wedi gweld Sepp Holzer, ar fferm Krameterhof yn Awstria ar Youtube? Tyfu grawnwin a gwenith a bob math o bethau yn uwch na chopa'r Wyddfa! Cenfigenus, bois bach! Y fantais sydd ganddo fo drosto' ni ydi dim glaw bron!
      Cer ati i gychwyn blog garddio; mae gwir angen mwy yn Gymraeg. Dwi'n edrych ymlaen i ddarllen am dy lysiau. Hwyl am y tro.

      Delete

Diolch am eich sylwadau