Eleni, dwi wedi mynd trwy'r pacedi a thaflu llawer iawn o hadau sydd ymhell dros eu dyddiad, fel moron, panas, a nionod; neu rai sydd wedi bod yn siom, fel yr india corn deuliw.
Dwi wedi rhoi cynnig ar bod yn drefnus am unwaith, trwy restru'r hadau sydd gen' i. A hynny ar spreadsheet, a ddim ar gefn amlen: peth diarth i mi..
Fel arfer, byddai'n prynu hadau sy'n denu fy llygaid, ac weithiau'n anghofio amdanyn' nhw nes mae'n rhy hwyr i'w hau!
Eleni, mae gen' i syniad gwell o be dwi angen cyn dechrau meddwl am hau ym mis Mawrth ac Ebrill.
Bydd y rhai sydd wedi'u labelu'n 'hen' ar y rhestr yn cael eu hau yn weddol drwchus mewn potiau a dysglau yn y ty gwydr y mis yma, i gael dail bach salad cynnar.
Mae gen' i amrywiaeth o had: wedi eu prynu mewn ffair hadau fan hyn a sioe flodau fan draw; nifer ddaeth am ddim efo cylchgronnau; rhai yn hanner paced wedi'i rannu efo cyfeillion; ac eraill yn had wedi eu cadw o 'mhlanhigion fy hun, a phlanhigion cyd-arddwyr hael. (Tydi pob un yn hael on'dydi!)
Tatws had ydi'r cynta' ar y restr siopa. Dwi angen pys, ffa melyn, india corn, ac ambell beth arall. Fydd hi ddim yn hir na fydd ffenast y gegin yn llawn i'r ymylon o hambyrddau eto!
Yr un broblem yma - a'r un ymgyrch electronig i wella pethau. Wedi towlu nifer o hen hen hadau i'r domen gompost nôl ym mis rhagfyr: dim byd wedi egino yno hyd heddiw.
ReplyDeleteMae dy flogio diweddaraf di wedi arwain at y genfigen flynyddol am dywydd a ffa Asturias...
Delete