Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

25.10.25

Rhyferthwy Rhoscolyn

Daeth yn amser i gyfarfod y 'criw coleg' eto am ychydig o grwydro a mwydro -a be gewch chi'n well na cherdded Llwybr yr Arfordir yn ystod gwyntoedd cryfa'r flwyddyn!

Amy oedd yr enw roddwyd ar storm gynta'r tymor (3-4ydd Hydref) ac er ei bod hi ar ei chryfaf yn yr Alban, roedd gwynt o 85 mya wedi'i gofnodi yng Nghapel Curig, ac Ynys Cybi yn ei dannedd hi hefyd ar y bore Sadwrn, wrth i ni gychwyn cerdded yn y glaw o draeth cysgodol Borthwen ar waelod deheuol yr ynys.

Os oedd y tonnau'n drawiadol yn fanno yng nghysgod Ynys Defaid, roedd nerth y gwynt yn hynod wrth i ni rowndio'r pentir a dod i olwg y môr mawr agored! Efo Eryri a Llŷn o'r golwg yn y cwmwl, yn gosod cefndir llwyd i'r olygfa, roedd creigiau a goleudy bach Ynysoedd Gwylanod yn drawiadol o dywyll a bygythiol, a thonnau gwyllt y môr yn chwalu dros y cwbl. Fel gwylio poster enwog goleudy La Jument, Llydaw, yn fyw o flaen ein ll'gadau.

Wrth wthio ymlaen ymlaen tua'r gogledd efo'n pennau i lawr, mae'r gwynt yn chwipio diferion mân o frig y tonnau i bigo'n hwynebau, fel cenllysg mân. Ac i gadw efo'r gymhariaeth aeafol, roedd yn rhaid cerdded trwy lluwchfeydd o ewyn gwyn yn hedfan ar y gwynt fel clapiau mawr o blu eira gwlyb.

Mae dringo i lawr y grisiau cerrig i ffynnon y Santes Gwenfaen yn rhoi pwt o gysgod am ychydig funudau cyn mentro dros graig gul Porth Gwalch a'n cefnau at un o'r waliau cerrig trawiadol sy'n cadw'r gwartheg yn y caeau a'r cerddwyr allan!

Y Bwa Gwyn. Yn bendant ddim yn saff i sefyll ar ei ben yn y fath wynt!

Y Bwa Gwyn a'r Bwa Du, heb os, ydi sêr yr arfordir syfrdanol yma, ac uchafbwyntiau unrhyw daith ar y cymal yma o'r llwybr cenedlaethol. Tystion trawiadol i nerth y tonnau a rhyferthwy'r môr. 

 

Er bod rhywfaint o awyr las rwan, llai deniadol ydi'r tirlun ar ein llaw dde wrth nesáu at Drearddur; y carafannau a chabannau gwyliau yn boenus o hyll, ond mae'r creigiau -sydd ymysg yr hynaf yng Nghymru- a'r mân ynysoedd, yr hafnau a'r meini ar ein llaw chwith yn dal i gyfareddu. Allan ar y môr aflonydd du, mae honglad o fferi, wedi cychwyn efallai o harbwr cysgodol Dulun, ond erbyn hyn dwi'n sicr yn llawn o deithwyr anfodlon iawn, yn aros i weld os fydd hi'n ddiogel i'r llong ddocio yng Nghaergybi, ynta' oes raid siglo a simsanu ar y don am oriau. Craduriaid!

Mae cyrraedd Trearddur yn golygu y cawn fwynhau peint sydyn cyn ail-gydio yn y cerdded am ychydig filltiroedd eto. Ac er bod talpiau o'r darn yma ar balmant a tharmac, ac olion o gyfoeth afiach yn nifer o'r tai Grand-designaidd, mae Porth yr Afon, Porth y Pwll, a Phorth y Corwgl yn werth eu gweld.

Ar ôl ychydig oriau o grwydro tirwedd gwych, mewn tywydd dychrynllyd ond cyffrous iawn, mae'n braf cyrraedd pen y daith ar dywod Porth Dafarch, a chroeso cynnes a chwrw da Bragdy Cybi'n galw. 

Diolch eto am gael rhoi'r byd yn ei le, ac atgoffa'n hunain ein bod yn byw mewn lle gododog!