Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

26.10.20

Yma o Hyd

Er gwaethaf pawb a phopeth

Ry'n ni yma o hyd...

Unwaith eto ges i drafferth i gadw'r dagrau rhag llifo. Roedd Lleucu a finna yn teithio efo Nanci a Norberto trwy dirlun hollol ddiarth -rhostir diffaith y meseta- filoedd o filltiroedd o Gymru, a'r pedwar ohonom yn bloeddio canu anthem Dafydd Iwan efo stereo y car! Mae eiliadau fel'na yn aros efo chdi am byth; atgof i'w drysori go iawn.


Yn wir, roedd y diwrnod cyfa' yn gofiadwy iawn yng nghwmni dau o gymwynaswyr y Gymraeg yn Rawson.

 

Nanci, Lleucu, fi, a Norberto. Puerto Pirámides

Uchafbwynt y diwrnod, heb os oedd cael gwylio morfilod y de yn y culfor newydd, Golfo Nuevo. Yn y gwanwyn mae'r morfilod beinw yn mudo i'r culfor cysgodol yma i roi genedigaeth, ac mae modd ymuno â thaith cwch o Puerto Pirámides ar Benrhyn Valdés. Ardal naturiol warchodedig ydi hon, lle mae'n rhaid cael trwydded mynedfa, a lle mae gweithgareddau ymwelwyr yn cael eu rheoli'n fanwl; rhywbeth fyddai o fudd mawr mewn ambell warchodfa natur yng Nghymru!

Morfilod y de; mam a'i babi.

Enw od sydd gan y morfilod yma yn Saesneg: southern right whale - a morfil cywir y de ydi'r awgrym yn Gymraeg, ond chwithig ydi o braidd yn'de? Mi wnaiff morfil y de am rwan- ond roedd yn fraint anhygoel cael bod mor agos at rai o greaduriaid mwyaf y ddaear. Anifeiliaid y mae dynol ryw wedi gwneud ei orau glas i'w difa, ond mae nhwytha' yma o hyd, diolch i'r drefn.

Mae canolfan ymwelwyr ddifyr iawn ar wddw'r penrhyn -Istmo Carlos Ameghino- am fywyd gwyllt a daeareg y warchodfa, ac mi fedrwn i wedi treulio oriau yno, ond roedd Porth Madryn yn galw.

Porth Madryn. Cofeb y Cymry; baner Y Wladfa yn Amgueddfa'r Glanio; Cofeb y Tehuelche, y pobl fu'n masnachu efo'r Cymry a'u cynorthwyo i oroesi ar baith sych. Be fyswn i'n roi i gael mynd nôl i wylio'r mabolgampau -"olympics Patagonia"- rhwng y brodorion a'r Cymry cynnar ym Mhorth Madryn..!
 

Anodd coelio bod Cymry'r Mimosa wedi gorfod byw dros dro yn ogofâu Punta Cuevas, ond mae angen dychymyg i weld sut le oedd yno cyn i'r cytiau pren ddiflannu, ac mae'r safle wedi erydu'n arw ers 1865. Mae'n pigo'r cydwybod am aberth y fintai gynta, a'r angerdd oedd ganddyn nhw am eu hiaith a'u diwylliant a'u gyrrodd i freuddwydio am Wladfa newydd. 

Wedi treulio orig ddifyr yn Amgueddfa'r Glanio a sgwrsio efo'r swyddog ifanc brwdfrydig yno (roedd o wedi dysgu'r Gymraeg er nad oedd ganddo unrhyw gysylltiad teuluol), a chrwydro'r arfordir hanesyddol, mae te bach Cymreig a chroeso cynnes yn ein disgwyl yng Nghanolfan Gymraeg Porth Madryn yn Casa Toschke. Hyfryd clywed am y gwersi Cymraeg a dawnsio gwerin yno, ac am eu cynlluniau uchelgeisiol. Dwi'n diawlio na fydda'i yma o hyd pan fydden nhw'n cynnal eu 'Gŵyl Cwrw Da' cyntaf!

Tua 70 milltir i'r de o Rawson mae yna warchodfa bengwiniaid yn Punta Tombo, ond bydd rhaid i fanno aros i mi groesi'r Iwerydd rywbryd eto. Un pengwin Magellan welais i yn ystod yr wythnos, un ifanc iawn ar draeth Unión.

Uchafbwynt arall o'r wythnos yn Rawson oedd dal cwch o'r porthladd, heibio'r 'fflyd felen' o gychod pysgota ar angor am y diwrnod; a heibio môr-lewod anferth yn torheulo ar y traethau graean neu'n diogi yn y dŵr bas, a'r mulfrain mewn rhes, yn lledu eu hadenydd i'w sychu yng ngwynt y môr. 

Mynd oedden i wylio'r dolffiniaid bach delia'n y byd: y toninas. Bychain ydi dolffiniad commerson, a gellid eu gweld ym moroedd yr Ariannin i lawr at ynysoedd y Malvinas. Y diwrnod hwnnw, mi gawson ni wledd o'u gwylio yn neidio a rasio a phlethu 'mysg eu gilydd, gan ddilyn tonnau blaen ac ôl-donnau'r cwch. Ond roedd yn ddiawch o job i gael llun da!



Er mor bwysig ydi tirlun ac atyniadau a bywyd gwyllt; y pobol ti'n gyfarfod sy'n gwneud taith yn arbennig, ac er mor bell, dwi'n mawr obeithio cael gweld llawer o'r cyfeillion newydd eto. Diolch o galon i Norberto a Nanci a chyfeillion Trerawson am wythnos wych, ac am wneud i mi sylweddoli -ar ôl simsanu braidd am ddyfodol y Gymraeg ym Mhatagonia- ein bod ni wirioneddol yma o hyd!

..............

[Y cerdyn post olaf o'r Ariannin. Ddwy flynedd yn hwyr! PW, Rawson, 2 - 3 Tachwedd 2018]

1 comment:

  1. Yn amlwg, roedd cwmni difyr Nanci a Norberto yn fudd mawr iti. Mae angen cael rhywun o'r brodorion Cymraeg i roi blas go iawn ar y Wladfa inni. Adroddiad dda eto gen ti. Os gei di wahoddiad i fynd yn ól yno, ac angen arweinydd, dwi ar gael cofia! Y peryg ydi iti fy ngholli cyn dod adre.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau