Mae'n union ddwy flynadd ers i mi gychwyn am Batagonia, ac yn flwyddyn gron -fwy neu lai- ers i mi gyfrannu at y blog yma dd'wytha. Mae'n hen bryd i mi gwblhau'r gyfres o ysgrifau oeddwn wedi'i dechrau tra o'n i yno!
Tu ôl i ni: tair wythnos arbennig iawn, ac eto'i ddod, wythnos ym mhrifddinas rhanbarth Chubut, Trerawson, heb wybod yn union be' i'w ddisgwyl. Ond cyn hynny: tridia' yn y Gaiman. Wedi'r cwbl, mae pob llyfr a PHAWB fu yn y Wladfa o'n blaen yn mynnu nad oes unrhyw ymweliad yn gyflawn heb fod yn y Gaiman!
Edrych dros y Gaiman |
Mi gawson ni dacsi o'r eisteddfod yn Nhrelew yno; ffordd rad iawn i deithio'r gwta ugain munud rhwng y ddau le, ac roedden ni wedi trefnu llety cyn gadael Cymru. Siom felly oedd gweld y tacsi yn gyrru trwy ganol y Gaiman, gadael cyrion pellaf y dref, a dal i fynd am ddeg munud arall i'r cyfeiriad anghywir, i ganol nunlle... Rhybudd bach i chi wrth bwcio llety: mae'r Archentwyr yn hyblyg iawn eu diffiniad o LLE mae eu gwesty/hostel/bwthyn!
Cofiwch, roedd y Posada Los Mimbres yn hen ffermdy braf iawn, mewn tro yn Afon Camwy efo 'stafell haul yn llawn o'r melons a dyfwyd ar dir maethlon y dyffryn; potal o gwrw oer a bara a chaws yn aros amdanom; ac adar, llyffaint, a sioncynod yn llenwi'r aer efo'u trydar prysur wrth iddi nosi.
Drannoeth, doedd cerdded y bedair milltir i mewn i'r Gaiman ben bore ddim y syniad calla' yn y byd, er ei fod yn ymddangos yn hollol naturiol a synhwyrol ar y pryd.
¡Cerrado!
Roedd bob dim ar gau. Mae'r Sul dal yn bwysig yn y Wladfa mae'n debyg.
Ond roedd hi'n braf, ac mi gawson ni dro hyfryd yno trwy'r caeau, a thros y rhwydwaith o gamlesi dyfrio a adeiladwyd gan y Cymry cyntaf; ar hyd lonydd llychlyd dan gysgod y coed poplys alamo tal, ac heibio Capel Salem Lle Cul, a milltiroedd o ffordd darmac hir, syth, i'r dref.
Ar ôl crwydro i ben y 'punto panorámico' uwch ben y Gaiman, i weld o'n cwmpas a thynnu llun cofeb ddur canrif a hanner y glanio (mae un o'r rhain ym mhob un o'r cymunedau Cymraeg, a'r cynllun yn amrywio, ond pob un efo llinell o nodau Calon Lân ar ei sylfaen), mi aethon ni drwy dwnnel 'yr hen drên'. Un o hen olion Rheilffordd Dyffryn Camwy o Borth Madryn, a'r freuddwyd -na wireddwyd erioed- oedd ei chwblhau bob cam i'r Andes.
Roedd deuawd lleol yn canu yn nhafarn y Mochyn Du gyda'r nos, a ninnau wedi edrych ymlaen i fynychu un arall o'r llefydd ar ein rhestr hanfodol, ond doedd fanno ddim yn agor tan 9 yr hwyr. Doedd cerdded bob cam 'nôl i'r llety, dim ond i ddychwelyd yn fuan wedyn ddim yn apelio o gwbl, felly mi fuon ni'n crwydro glan yr afon, ac yn ymlacio yn y parc ynghanol y dref, ac hyd yn oed yn yfed coffi mewn garej betrol er mwyn llenwi'r amser!
Ymhen hir a hwyr, roedd hi'n prysuro yno ac ambell le yn agor eu drysau, ond doedd dim bwrdd ar gael ym mwyty Gwalia Lân (un arall o'r llefydd y mae'r llenyddiaeth yn mynnu bod yn rhaid ymweld â nhw!) wrth i ni alw y tro cynta, ac roedd wedi cau erbyn i ni fynd heibio wedyn.
Mi gawson ni Amgueddfa'r Cymry ar agor ar yr ail gynnig, ac roedd yn braf sgwrsio efo Fabio -y ceidwad- am y gwladfawyr. Roedd ei frwdfrydedd am hanes y Wladfa a chynnwys yr amgueddfa yn amlwg. Braidd yn chwithig oedd sylwi nad oedd ymholiadau gan ferched yn cael ymateb mor gynhwysfawr ganddo.
O holi ac astudio'r mapiau a'r dogfennau yn yr amgueddfa, mae'n debyg mae Pant y Celyn oedd enw'r fferm lle 'dan ni'n aros; tir a roddwyd i Dafydd Beynon Williams pan rannwyd y dyffryn ymysg yr ymsefydlwyr gwreiddiol. Prynwyd y lle wedyn tua 20 mlynedd yn ôl mae'n debyg gan rywun o Buenos Aires a'i newid i Los Mimbres -'yr helyg'. Mae rhai o'r coed helyg sy'n tyfu yn y dyffryn yn fythol wyrdd ac yn ddiarth i'r Cymry, sy'n egluro'r enw 'Celyn' am wn i... Rhyfedd bod enwau Cymraeg yn cael eu colli yn fanno hefyd wrth i dai a thyddynod newid dwylo...
Cael ein dal mewn storm fellt a glaw rhyfeddol wedyn, a fel oedden ni'n dechrau syrffedu ac ar fin chwilio am dacsi i'r llety, daeth golau i ffenestri bwyty/bar Cornel Wini, a diolch i'r drefn amdani, pwy bynnag oedd yr hen Wini! Llond bol o basta hufennog blasus yn achub y dydd, cyn inni fynd yn ein blaenau i'r Mochyn Du.
Yno i fwynhau adloniant Cymraeg a Sbaeneg y ddeuawd lleol Tomas a Kevin oedd llond bws o Gymry ar un o'r teithiau pecyn poblogaidd i'r Wladfa, yn ogystal â'r pedwarawd welson ni ychydig ddyddiau ynghynt yn y Touring Club, ac mi gafwyd noson arbennig yno, chwarae teg.
Y sgwrs ddifyraf ges i oedd efo Alun, Archentwr ifanc Cymraeg ei iaith gafodd ei fagu yn Nhrefelin. Roedd o'n dywysydd i'r cwmni gwibdaith, ond bellach yn byw yn y gogledd, tu hwnt i'r Wladfa Gymreig. Y fo, yn ogystal â llanc arall oedd yn cyfarch pobl ym mwyty Gwalia Lân y pnawn hwnnw (er na chefais mwy na hanner munud i siarad efo hwnnw) oedd yr Archentwyr cyntaf i mi gwrdd oedd yn 'fengach na fi, ac wedi eu magu efo'r Gymraeg ar yr aelwyd.
Roedden ni wedi cyfarfod llond dwrn o siaradwyr Cymraeg hŷn yn Esquel (er taw yn Sbaeneg oedd y sgwrsio rhyngddyn nhw), a Noe, merch ifanc oedd wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg ac yn angerddol am ei threftadaeth. Ond fel arall, prin welson ni siaradwyr Cymraeg cynhenid o gwbl. Cymysg braidd oedd profiad fy nghyd-deithiwr wrth gynnal sesiynau celf yn yr ysgolion Cymraeg hefyd, felly o'n i wedi mynd i feddwl nad oedd fawr o ddyfodol i'r iaith yno i fod yn onest... Ond Iesu, mae'n wyrthiol eu bod nhw 'yno o hyd' fel mae.
Doedd gen' i ddim delfryd ramantaidd o fedru siarad Cymraeg efo pawb ym Mhatagonia; breuddwyd gwrach fysa hynny. Hefyd, tybed ydi'r gymuned Gymreig yno yn blino ar orfod cyfarch ymwelwyr o'r henwlad trwy'r amser?! Roedd criw Teithiau Tango ar wibdaith o Batagonia yr un pryd a ni, yn ogystal a llond bws o aelodau yr Urdd, a does dim disgwyl i'r gwladfawyr ruthro i groesawu pob teithiwr arall o Gymru! Serch hynny, waeth imi heb a gwamalu, roeddwn wedi edrych ymlaen am ychydig bach mwy o'r croeso yr oedd nifer wedi fy arwain i'w ddisgwyl...
P'run bynnag, roedd noson yn y Mochyn Du yn brofiad cofiadwy iawn, ac yr werth bob eiliad o dîn-droi tra'n aros iddyn nhw agor!
Nid wy'n gofyn bywyd moethus; 'mond rwla i gael cinio ar ddydd Sul... |
[Cerdyn post hwyr o'r Ariannin. #9. PW 27-28 Hydref 2018]
Y cerdyn post cyntaf o'r Ariannin
Mae'r uchod yn gofnod hynod ddifyr o ymweliad pobl 'Stiniog á'r Wladfa, Paul. Mae'n codi awydd mawr ar rywun i fynd yno. Mae'n brofiad unigryw cael cyfarfod á disgynyddion o rai a ymfudodd yno, a cahael sgwrs ddiddorol am fywyd teuluol ymysg Cymry Patagonia. Mae'r acen frodorol yn hyfryd. Os af i ar goll rhywdro, ffoniwch swyddfa'r hedlu yn y Gaiman - yn y dre fach honno fyddai!
ReplyDelete