Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

10.9.15

Llwyddo a methu

Mae darn a sgwennais rywbryd dros y Pasg yn son am gystadleuaeth fawr i dyfu'r blodyn haul talaf, yn ogystal a son am hau hadau diarth. (Rhuthr goddaith a.y.b)

Mi gawson ni lwyddiant efo un, a methiant llwyr efo'r llall.

Bu hen dynnu coes a thaflu llwch, a bwydo a thendio; brwydro efo malwod ac adar a gwyntoedd cryfion, a chyhuddiadau lu o dwyllo, ond o'r diwedd, daeth diwedd ar yr aros. Diwrnod olaf Awst oedd diwrnod mawr y mesur.

Fel hyn oedd hi ar yr awr dyngedfennol:

Cae Clyd. 70 modfedd. Medal efydd!



                                                             Rhiwbach. 77". Dyfarnwyd y fedal arian,
                                                             -ar ôl apêl yn erbyn y tâp mesur unigryw...

...ac, ar ôl hau yn hwyr a chychwyn yn araf...

Neigwl (tŷ ni) oedd pencampwyr teilwng 2015! Efo tri neu bedwar blodyn haul dros 90" roedd y fedal aur yn haeddianol. Er aros yn amyneddgar, ddaeth Dafydd Êl ddim acw i gyflwyno'r gwobrau, ond cyflwynwyd desgil wydr 'amhrisiadwy'  (wel, un fu'n hel llwch yn yr atig am ddegawd a mwy!) i'r pencampwyr i'w chadw am flwyddyn.


Dyma'r ddesgil, ahem, 'hyfryd' a'i gwaith llythrennu, ym..cywrain... ?!
Mae trigolion tŷ ni yn ysu am gystadleuaeth 2016 rwan, er mwyn i rywun arall orfod ei chael hi...

 

Ychydig o hwyl diniwed gwerth chweil. Be gewch chi'n well 'de. Bydd yn rhaid dewis testun cystadleuaeth 2016: moronen hiraf? Pwmpen drymaf efallai? "Bydd raid cytuno ar reolau o flaen llaw tro nesa" medd y ddau daid... nid eu bod nhw'n gollwrs sâl o gwbl! 

Beth am y methiannau ta?
Mi wnes i hau hadau pys merllys (asparagus peas) dair gwaith, ond pydru fu hanes bob ymgais. Rhy oer am yn hir iawn eleni doedd. Mi driwn ni eto'r flwyddyn nesa.

Tyfodd y ciwcymbar lemwn yn blanhigyn dwy droedfedd, cyn pydru yn ei bôn a marw. Gor-ddyfrio efallai, ond yn sicr wedi diodde'r oerfel hefyd.



2 comments:

  1. Taid Rhiwbach. Collwr sâl!11/9/15 14:35

    Bydd yn rhaid cael beirniad hollol anibynnol tro nesa, a rheola' pendant'. Be mae Tichmarsh yn ei wneud fis Awst 2016? Ac yn bwysicach, faint mae o'n ei godi? Oes 'na rywun allan yn fanna ar gael, fasa'n ffafrio hen deidia, tybad? Ddim na faswn yn meiddio llwgrwobrwyo, cofiwch, ond ma' papur degpunt yn mynd yn bell fel cildwrn.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Bysa Gerallt Pennant yn rhatach na Tichmarsh dwi'n siwr!

      Delete

Diolch am eich sylwadau