Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

18.8.15

Garddio guerilla a biwrocratiaeth dda!

Peidiwch a deud wrth neb, ond mae'r Fechan a fi wedi bod yn hau hadau ar verges y ffordd gefn acw. Rebals wîcend go iawn.

Erbyn eleni, roedd ein pabis melyn, pabis coch, pig-yr-aran, mantell y forwyn, llysiau milwr, ac ati yn addurno lleiniau o laswellt fan-hyn-fan-draw, ac er bod y Cyngor Sir yn eu torri'n achlysurol, roedden nhw'n edrych yn well na'r glaswellt bwrdeistrefol, unffurf arferol.


Pan brynson ni'r triongl er mwyn medru mynd a'r biniau allan i'r cefn, daeth llain o 'verge' ar ochr y ffordd efo fo, a dwi wedi bod yn 'helpu' dipyn o perennials dyfu wrth y giât. Maen nhw fel arfer yn edrych yn dda erbyn Awst, ac wedi cael llonydd golew bob blwyddyn gan gontractwyr glaswellt y Cyngor.

Tan eleni. Mewn cyfnod o doriadau ariannol, mae'r lladd gwair wedi cynyddu am ryw reswm!


Dwi'n dallt bod verge yn aml iawn yn ffurfio rhan allweddol o'r ffordd, ac ar gyffordd ac ati mae angen rheoli'r tyfiant er mwyn diogelwch defnyddwyr y ffordd. Ond yn yr achos yma, cul de sac ydi'r ffordd gefn; ac un ddistaw iawn o ran traffic.

Torrwyd yr ardal gyntaf ym mis Mai. Popeth yn iawn: mae'r selebs garddio ar BBC2 yn hyrwyddo'r "Chelsea chop" bob blwyddyn 'tydyn!

Oedd, roedd yn biti canfod y lle wedi'i droi'n llanast eto wedyn yn ystod Mehefin, ond roedd yn ddigon buan i gael arddangosfa o hyd... ac roedd yn dod yn ddigon del ddiwedd Gorffennaf...

Ond, daeth dyn y strimar eto fyth ar fore'r 5ed o Awst -o lech i lwyn heb i ni ei weld. Er mawr siom, torrodd y cwbl eto, er fy mod wedi marcio'r ardal efo cansenni crwn.


Ar un adeg, mae'n siwr gen' i y byswn wedi ffonio'n syth i gwyno a diawlio, ond dwi 'chydig callach yn fy mhedwardegau. ("Hyh!" fysa'r Pobydd yn ddeud ma' siwr tasa hi'n darllen hwn.)
O'n i rhwng dau feddwl oedd o'n werth cysylltu o gwbl, ond mi ddudodd y Fechan yn ddiniwad i gyd: "Dyliat ti sgwennu llythyr atyn nhw Dad i ofyn pam".

Gyrrais ebost hwyliog ar Awst y degfed yn gofyn yn gwrtais iddyn nhw egluro os oedd is-ddeddfau neu rwbath arall yn rhwystro tyfu blodau ar verges Stiniog? Doedd dim pwrpas dwrdio efo'r ymholiad cynta'; mae mil o bethau pwysicach mewn bywyd yn'does.

Os dwi'n onest, o'n i'n disgwyl ateb swyddoglyd a biwrocrataidd. Ond mi ges i siom o'r ochor orau go iawn.

Erbyn y 14eg, roedd arolygwr priffyrdd y Cyngor Sir wedi bod yn archwilio'r safle medden nhw, ac mi ges i ateb yn cadarnhau y gallwn annog blodau wrth y giât o hyn ymlaen! Beryg i adran briffyrdd Gwynedd roi enw da i fiwrocratiaeth. Diolch am eu hagwedd ymarferol; mae'n adfer hyder rhywun yn yr awdurdod lleol.


2 comments:

  1. Dyna atebiad da! Yn fama, mae rhaid i fi adael cylch go fawr o bridd i rwystro'r peiriannau mynd yn rhy agos i'r coed - a dwi ddim wedi cysylltu a'r cyngor oherwydd mai coed dwi wedi plannu yn hytrach na blodau - a dwi'm yn teimlo bydd ateb bositif i gael. Ond gwych bod chi wedi cael caniatad!

    ReplyDelete
    Replies
    1. Ia, efallai na fysan nhw'n hapus os byswn i'n ddigon mentrus i blannu perllan fel ti wedi wneud!

      Delete

Diolch am eich sylwadau