Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

15.3.15

Rhiwbob 2

Wedi codi 'chydig o'r coesau cochion fu dan orchudd. Mae'n nhw'n edrych yn dda, ac ar eu ffordd i fod yn stiw syml i'w fwyta efo iogwrt.


Bu'n rhaid crwydro eto. 'Nôl bob cam i Aberfal (Falmouth), Cernyw. Yr Arlunydd wedi cael gwahoddiad am gyfweliad yn y brifysgol yno.

Fel yn yr hydref, mi es am dro: y tro hwn i 'erddi coll' Heligan. Ac fel Prosiect Eden bryd hynny, roedd hi'r adeg anghywir o'r flwyddyn eto, felly dim ond dwyawr a hanner fues i'n crwydro, cyn inni gychwyn ar y daith epig o saith awr 'nôl adra.


Un peth gododd fy nghalon, oedd bod gwell siap ar ein rhiwbob ni yn Stiniog, na'r rhiwbob yng ngardd furiog, wych Heligan, lle oedd pob coesyn yn denau ddiawchedig. Er, mi ddois i o'no efo syniad da, sef codi tail cynnes yn dwpath o amgylch y potiau rhiwbob...

Heligan- yn werth ymweliad yn y gwanwyn neu'r haf dwi'n siwr



4 comments:

  1. Mae'r rhiwbob yn edrych yn ardderchog. Dim wedi codi rhiwbob o'n gardd ni eto. Mi es i Heligan ddwy flynedd yn ol, pan r'oedden ni ar ein gwyliau yng Nghernyw - gardd diddorol, a mi roedd yn gweithio'n dda gweld Heligan yn diwrnod ac Eden diwrnod arall - y ddwy yn diddorol dros ben (yn fy marn i) ond un fel petai yn edrych i'r dyfodol a'r llall yn atgofio ni o sut roedd pethau erstalwm

    ReplyDelete
    Replies
    1. Os aiff y ferch i brifysgol Falmouth, mi gaf gyfleoedd eto i fwynhau'r gerddi ar adeg call o'r flwyddyn!

      Delete
  2. Anonymous23/3/15 15:30

    Heb fod yn Heligan ers y flwyddyn gyntaf - siŵr ei fod llawer yn well erbyn hyn. Ac ie, ar diwrnod oer a byr oedd hi hefyd. Gyda llaw, wyt ti wedi gweld hwn http://ocabreeders.org/ ? Ceisio cael pobl i fridio ocas y maen nhw, er mwyn ffindo rhai fydd yn aeddfedu'n gynt.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Dwi'n sicr am fynd yn ôl ar adeg callach o'r flwyddyn!
      Na, doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r ocabreeders -diolch am y ddolen. Mae'r wefan wedi'i chau ar hyn o bryd- ond mae erthygl Alys Fowler yn ddifyr; mi ddychwelaf eto maes o law. Dwi wedi gwirioni bod rhywbeth mor ecsentric â'r 'Guild of Oca Breeders' yn bodoli!

      Delete

Diolch am eich sylwadau