Neu mi fysa fo, taswn i'n malio botwm corn am drwch y gwair yno!
Chwyn a mwsog, mall a'i medd... y 'lawnt' honedig yn foel iawn o ran gweiriau |
Pawb at y peth y bo, ond 'sgen i ddim diddordeb treulio oriau yn torri, rowlio a thendio i gael ardal streipiog i'w hedmygu. Yma dros dro mae'r lawnt -fel y trampolîn mewn rhan arall o'r ardd gefn- er mwyn cadw'r plant yn ddiddan. Lle gwastad i daro pêl tenis ar bolyn, a gosod pabell neu'r pwll padlo pan ddaw'r haul.
Pan fydd y Fechan yn ei harddegau ac yn rhy cŵl i gicio pêl a bownsio mwyach, mae'r lawnt a'r trampolîn yn mynd.
Wedyn yr oedolion fydd pia'r ardd i gyd! Mae'r ddwy ardal yma wedi llenwi ambell funud o synfyfyrio a breuddwydio'n barod: coed ffrwythau, a gwely blodau cymysg efallai.
Fydd dim lle ar gyfer blew cae, glaswellt, gwelltglas, na gwair!
Mae dant y llew yn flodyn hardd iawn. Wrthi'n cau oedd hwn ar ôl i'r haul suddo tu ôl i'r Moelwynion. |
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau