![]() |
Llun prin o'r garddwr swil |
Roedd hi'n weddol oer erbyn i'r haul suddo tu ôl i'r Moelwynion, ond dwi wedi torri cefn y gwaith, ac yn edrych ymlaen -trist, dwi'n gwbod- i fynd ati i'w hollti a'u tasu, yn barod ar gyfer y gaeaf nesa! Bu'r gwaith bron a thorri 'nghefn innau hefyd: finna heb wneud llawer o waith efo'r lli' gadwyn ers misoedd, a'r bonion yn dew a thrwm. Taw a swnian Wilias, mi wnaiff les ar ôl yr holl stwffio dros y Dolig.
Onnen ydi dipyn golew ohoyn nhw, ac mae hwnnw'n goedyn sy'n llosgi'n dda pan mae o'n wlyb, ond yn cynhyrchu mwy o wres a llai o leithder yn y simdda ar ôl sychu.
Roedd yn braf cael cwmni'r Arlunydd. Mi fuodd hi'n cario a chlirio, a thynnu lluniau. Does yr un o'r ddau ohono' ni'n cofio pryd fuodd hi'n helpu yn yr ardd ddwytha! Mae hi ynghanol cyfres o gyfweliadau prifysgol ar hyn o bryd, a chymysgedd o gyffro, balchder, a phryder wrth iddi hi baratoi i adael y nyth eleni.
O'r diwedd, dwi wedi rhoi blwch nythu newydd ar ochr y cwt, ar gyfer y titws. Roedd y llall wedi bygwth disgyn yn dipiau ers tro.
![]() |
Mae'r Fechan wedi bod wrth ei bodd efo'r ychydig eira gawsom ni. Gyrrwyd hi adra o'r ysgol ddydd Iau ac mi fuodd hi'n hel mopins (gair yn Stiniog, a Meirionnydd am beli eira) yn barod i'w taflu ata' i! Mae hi wedi mopio hefyd efo'r rhew yn y bwcedi.
Cymaint dwi'n trysori cwmni'r genod, mi gafodd y Pobydd a finnau ddianc wythnos yn ôl i Gaeredin, am dridiau di-blant. Teithio trwy eira trwchus Yr Alban a'n traed i fyny ar y trên, a chael hoe haeddianol a hwyl garw yn cymowta a chrwydro o siop goffi i dafarn, o amgueddfa i sesiwn werin, ac o fwyty i glwb jazz! Dilyn ein trwynau a gwneud fel y mynnon.
Ymysg y pethau wnaeth y trip yn gofiadwy oedd bwyty llysieuol David Bann (does 'run ohono ni'n llysieuwyr, ond roedd hwn yn brofiad gwych); cwrw porter Black Isle; grisiau Y Scotsman; y planhigion ucheldir ar do estyniad newydd yr Amgueddfa Genedlaethol; a'r arddangosfa am hanes Yr Alban tu mewn.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau