Gweithred o ffydd, gobaith, a chariad gan y Pobydd naw mlynedd yn ôl oedd prynu coeden olewydd ifanc, a llusgo'r gr'aduras o'r ganolfan arddio ar arfordir mwyn Conwy, bob cam yma i ochr y mynydd, fel anrheg penblwydd priodas i mi.
Thyfodd hi fawr ddim o ran taldra yn y blynyddoedd ers hynny (y goeden 'lly, dim y Pobydd), ond mae golwg digon iach arni hi, ac mae hi'n cael y lle gorau yn yr ardd acw. Caiff fod yn llygad yr haul ac yn dynn wrth wal y tŷ, rhwng Mai a Hydref; wedyn yn y tŷ gwydr trwy'r gaeaf, efo carthen ysgafn pan mae'n rhewi tu allan.
Doedden ni ddim yn disgwyl i'r goeden wneud fawr mwy nag edrych yn dda a thyfu'n hen efo ni a deud y gwir, ond daeth ffrwythau bach arni ddiwedd haf y llynedd. Disgwyl i'r rheiny ddisgyn ymhell cyn aeddfedu oedden ni.
Ond mae hanner dwsin wedi duo yn y tŷ gwydr dros y gaeaf!
Iawn, dwi ddim yn mynd i fedru cael hanner salad efo nhw, ond pwy ddu'dodd bod Stiniog ddim yn lle braf?! Bananas amdani eleni....
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau