Y Moelwynion fore Mercher. "Awyr draeth: glaw drannoeth" medden nhw.... Anghywir! Am unwaith, chawson ni ddim glaw.
Ddoe:
Y Rybelwr Bach wedi gyrru llun yn dangos pa mor galed ydi hi arnyn nhw yn y chwarel, i gymharu efo'r bywyd braf dwi'n gael!
Heddiw:
Rhybudd tywydd coch neu beidio, doedd dim byd yn mynd i gadw'r Fechan rhag mynd allan i ganol y lluwchio er mwyn taflu mopins at ei thad!
Fory:
Penwythnos! Hwre. Dynion eira; sledio; peint. Ddim o reidrwydd yn y drefn yna!
Mahonia yn trio'i gorau glas i flodeuo yng ngardd cymydog |
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau