Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

11.1.13

Dianc

Rhwng y man-ffliw a'r tywydd giami, doedd dim llawer o gyfle i grwydro dros y gwyliau.
Do, mi fues i a'r Fechan yn hwylfan Llandudno (hen eglwys efo'r enw newydd erchyll: Bonkerz!) tra oedd y dair arall yn cael eu ffics yn siopau 'sgidia'r dre, ond ar ar ol dwyawr a hanner, roedd y miliwn decibel o swn yn hollti fy mhen. Y tu allan, roedd y tywydd yn rhy fudr i fynd at y mor. Adra amdani felly.

Moresg ac awyr ddu Morfa Bychan.
O'r diwedd, a'r cabin fever bron a'n drysu, mi gawson ni ychydig oriau o osteg yn y glaw di-baid i fentro allan am ychydig o awyr iach ar ddiwedd y flwyddyn.


Lawr ar draeth Morfa Bychan, roedd talp o boblogaeth Gwynedd wedi cael yr un syniad a ni, a dwsinau o geir mewn rhes ar hyd y tywod, a phobl a phlant, helwyr broc mor, a chwn a cheffylau, i gyd yn chwilio am ryddhad dros-dro o gaethiwed eu cartrefi.


Roedd hi'n oer. Yn gafael. Y gwynt yn chwipio, a'r cymylau'n bygwth; ond mi fysa'r Pobydd wedi gorfod fy nghlymu fi yng nghist y car i'n rhwystro fi rhag lapio fel nionyn a cherdded i waelod y traeth y diwrnod hwnnw, er mwyn herio'r tonnau efo'r plant, a rhedeg i osgoi cael ein dal gan y llanw, a chwalu'r gwylanod i bob cyfeiriad.

Tro sydyn wedyn hyd blaen y twyni, gan wylio'r moresg crin yn chwifio'n llesmeiriol ar yr awel, fel miloedd ar filoedd o freichiau hir mewn ton Fecsicanaidd di-drefn; yna'n ol i'r car, cyn mynd i chwilio am hufen ia Cadwaladr fel gwobr am ein dycnwch!

Wythnos yn ddiweddarach, daeth awr neu ddwy sych eto, ac mi fuon ni'n crwydro gerddi Plas Brondanw, rhan o stad Portmeirion. (Gallwch lawrlwytho tocyn mynediad gaeaf am ddim o'u gwefan).

Gallai'r ymweliad fod wedi bod yn ddi-gysur. Y caffi wedi cau am y gaeaf; y lawntiau a'r llwybrau glaswellt yn feddal a gwlyb dan draed; ac awyr drom, dywyll uwchben. Fedra'i ddim yn fy myw godi unrhyw frwdfrydedd dros deulu'r Rhododendrons, ond roedd un llwyn o R. arboreum yn uchafbwynt prin ar adeg o'r flwyddyn sy'n llwm ymhob gardd.



Mae Gerallt Pennant yn ei golofn wythnosol yn Y Cymro yn un o brif hyrwyddwyr gerddi'r Plas, a'i ysgrifau o sy'n ein denu ni yno. Soniodd yn ddiweddar am Jasmin y gaeaf (J. nudiflorum), ac mae'r crwydryn eiddil yma'n tyfu wrth y fynedfa. Dim arogl, ond y blodau bach melyn hardda' welwch chi. Digon i berswadio'r pesimist mwyaf y daw eto haul ar fryn!


Mae'r gwrychoedd ywen a ffawydd, a'r topiari yn werth eu gweld os ydych yn gwirioni ar ffurfioldeb mewn gardd, a'r dderwen fythwyrdd anferth sy'n ganolbwynt i'r gerddi bob tro'n werth oedi o'dani am ennyd i hel meddyliau.


Ond daw troad y rhod toc, ac mae prif atyniadau Plas Brondanw eto i ddod. Yn y cyfamser, taro ar fanylion bach sy'n gwneud y gerddi'n werth ymweld a nhw, hyd yn oed rhwng cawod a smwclaw ar ddechrau blwyddyn: ceiliog mwyalchen yn ffrwydro'n floeddiadau croch ar draws y llwybr, a ninnau rhwng dau feddwl ai fo 'ta ni ddychrynodd fwya'; llechen addurniedig ynghanol llwybr; hadau lliwgar y biswydden; a phistyll bach yn corddi pwll dwr.

Dwi'n edrych ymlaen i ddychwelyd eto.







No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau