Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

16.12.12

Oca, Oca, Oca: oi, oi, oi!


Doedd 'na ddim osgoi'r peth ddim mwy. Dwi wedi trio tyfu oca yn yr ardd gefn eleni am y tro cynta erioed. Deud gwir, doeddwn i heb glywed amdano cyn eleni, a heb unrhyw glem faint o drafferth fysa nhw. Mi sgwennais i hyn 'nol yn Ebrill, yn ail bostiad y blog 'ma:

"...ambell i beth arall dwi’n tyfu fel arbrawf, fel .... rwbath o’r enw oca, perthynas i’n blodyn suran y coed ni, o’r Andes, sy’n cynhyrchu cloron blasus medden’ nhw. Mae’n tyfu mewn pridd sâl (check), mewn ardaloedd glawog (check), ond angen haf hir, di-farrug (damia! Wel, amser a ddengys yn de)."

Doedd o'n ddim trafferth o gwbl, heb angen rhoi unrhyw sylw iddyn nhw ers eu plannu, heblaw ychydig o briddo, fel gwlydd tatws. Mae'r dail a'r blodau melyn wedi bod yn ddigon deniadol yn y gwely llysiau, ond dim ond wrth eu hel a'u blasu y daw'n amlwg os oedd o'n werth rhoi'r lle iddyn nhw.

18fed MEDI
7fed HYDREF















Dail oca wedi rhewi


Roedd angen eu gadael yn y ddaear mor hir a phosib, er mwyn i'r cloron chwyddo wrth i'r maeth ddod 'nol i'r gwreiddyn o'r coesyn a'r dail yn yr hydref.

Daeth y rhew wythnos dwytha' eto, gan gyrraedd -3.6 gradd, a lladd y planhigion, felly dyna ddiwedd ar y tyfu.




















Dyma ddaeth o dri o'r planhigion. Y petha delia welsoch chi, ar ol golchi'r pridd odd'arnynt.


Mae tri gwahanol fath o oca yn y llun, a hyd yma, dwi wedi bwyta'r rhai sydd ym mlaen y llun. Yn amrwd maen nhw'r un texture ag afal, ond y blas rhywle rhwng afal di-flas a chneuan gastan heb ei rhostio. Wedi eu torri'n denau a'u ffrio, roedden nhw'n flasus iawn: fel tatws efo chydig o tang fel gewch chi efo sorel. Neis iawn.

Mae'r cwmni sy'n gwerthu'r cloron had yn dweud os allwch chi eu gadael yn yr haul am dridia' ar ol eu hel, mi fyddan nhw'n felys iawn. Go brin y cawson ni dri diwrnod o haul trwy'r flwyddyn, nes oedd hi wedi rhewi'n gorn yr wythnos d'wytha. Yn anffodus roedd yn rhaid aros i'r ddaear ddadmer cyn medru eu codi, ac erbyn hynny wrth gwrs roedd y glaw yn ol!

Gawn ni weld sut fydden nhw'n blasu wedi eu berwi, neu wedi eu cynnwys mewn cawl neu gyri aballu. Mae pump planhigyn arall i'w codi eto, felly bydd yn rhaid dysgu sut i'w cadw hefyd. Llond dwrn i blannu eto y flwyddyn nesa, a'r lleill i'w bwyta dros y gaeaf.

Ddim yn ddarganfyddiad fydd yn newid ein byd efallai, ond maen nhw'n werth eu tyfu eto dwi'n meddwl.




2 comments:

  1. Sut beth oedden nhw i'w bwyta te?

    ReplyDelete
    Replies
    1. Ar ol arbrofi efo gwahanol ddulliau, y ffordd orau yn fy marn i -hyd yma beth bynnag, oherwydd mae mwy i ddod eto- oedd eu berwi am bum munud, yna eu rhostio. Blasus iawn. Maen nhw'n mynd yn fwy blawdiog wrth eu coginio'n rhy hir, fel tatws.
      Dwi'n mawr obeithio y gallaf gadw rhai dros y gaeaf i'w plannu eto.

      Delete

Diolch am eich sylwadau