Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

28.12.12

Awr fawr galan

Glaw a chymylau neu beidio, mae'n amlwg fod y dydd wedi ymestyn ychydig o funudau ers y diwrnod byrraf. 'Ta fi ydio?  Beth bynnag, mae ambell i beth arall yn codi'r galon yn yr ardd.

Rhiwbob. Dyma'r tro cynta yn y 12 mlynedd ers inni fod yma, i riwbob ymddangos cyn dechrau'r flwyddyn newydd. Bwcad drosto a gallwn edrych ymlaen i fwynhau hwn yn gynt na'r arfer.



Llysiau 'sgyfaint, Pulmonaria. Un o'r planhigion gorau i ddenu gwenyn a phryfed haofran i'r ardd yn y gwanwyn. Biti nad oes modd ei gadw'n blodeuo trwy'r haf. Darn ddaeth o ardd 'Nhad sydd gen' i acw, felly dwi ddim yn gwybod ei enw'n llawn mae gen' i ofn.

                            Sorel. Digon o angen salad acw ar ol gor-wneud y cig dros y Dolig!

"Awr fawr galan, dwy wyl Eilian, a thair gwyl Fair".     Dywediad am y dydd yn ymestyn.
Yn ol Twm Elias ('Tro drwy'r tymhorau'. 2007. Gwasg Carreg Gwalch) mi gawn ni tua 29 munud ychwanegol o olau dydd erbyn yr hen galan ar y 12fed o Ionawr; tua 68 munud erbyn Gwyl Eilain, 29ain Ionawr; a dwy awr a chwarter erbyn Gwyl Fair (13eg Chwefror).

Ychydig o blygu'r gwir gan ein cyndadau felly, ond pwy sy'n cwyno 'de, cyn belled ein bod yn edrych ymlaen yn obeithiol at y gwanwyn. Daliwch i gredu!


[Gyda llaw, gobeithio y maddeuwch i mi am y diffyg toeau bach. Tydi'r triciau arferol ddim yn gweithio i gael acenion yn Blogger, ac mae pastio i mewn o Word yn creu trafferthion eraill diflas.]



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau