Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

8.10.12

Dydd Llun(iau)

Rhannu ambell lun ydw i heno, yn hytrach na malu awyr...

Wedi bod am dro bnawn ddoe, gan ei bod yn sych, lawr at Lyn Ystradau -Llyn Tangrish fel 'da ni'n ddeud- a cherdded ar hyd yr argae.
Mae'r llun gynta'n edrych dros y llyn at inclên chwarel y Wrysgan, a Moel yr Hydd. Braidd yn fflat ydi lliwiau'r llun mae gen i ofn, am bod yr haul wedi mynd dan gwmwl.


Beicio oedd y Fechan ar yr argae. Roedd 'na amser pan nad oedd hi'n ffit i grwydro'r argae efo plant, gan fod pawb yn mynd yno i wagio eu cŵn, ond mae'r sefyllfa wedi gwella'n arw erbyn hyn. Y Wrysgan yn y golwg eto, ac Allt y Ceffylau yn y pellter yng nghanol y llun; Bwlch Cwmorthin, a thomen chwarel Cwmorthin wedyn, a Chraig Nyth y Gigfran ar y dde.

Yr Arlunydd wedi bod yn brysur tra oedden ni allan: tartenni siocled i bawb!

Pry' hofran ar flodau origano. Yr ardd gefn wedi bod yn berwi efo pryfed hofran, cacwn, a gwyfynnod, wedi gwirioni ar eiliadau prin o haul. Hwn yn un o aelodau'r teulu Platycheirus (albimanus dwi'n meddwl). Maen nhw'n ddiawledig o anodd i'w nabod fel grwp, ac ychydig iawn sy'n hawdd eu nabod heb eu dal, fel hwnnw sydd wedi bod yn llun y mis.

Lindysyn gwalch-wyfyn helyglys (elephant hawkmoth) ydi'r anghenfil yma. Mae ymylon safle'r rhandiroedd, a'r plots segur yn llawn chwyn, ond mae canfod y lindys trawiadol yma -a gwybod fod y gwyfyn hardd ar y safle hefyd- yn ein hatgoffa bod 'chydig o flerwch a chwyn yn llesol. Roedd o dros ddwy fodfedd o hyd, ac yn edrych fel petai'n dechrau magu croen caled i droi yn chwiler/pupa am y gaeaf.

Dyma (hen) lun o'r 'oedolyn' hardd. Mae'r rhain yn cael eu denu'n aml at olau yn yr ardd gefn. 

Mari-a-Meri (capan cornicyll/nasturtium) yn gwneud eu gorau glas i ychwanegu lliw i'r rhandir. 
Craig Bwlch-y-gwynt yn y cefndir.

Dail y llus mawr sy'n ychwanegu lliw i'r ardd gefn ar hyn o bryd. Y llwyni wedi eu tocio, a gorchudd newydd o ddeilbridd conwydd ar y gwely, yn barod am y gaeaf...yn wahanol iawn i mi!


2 comments:

  1. Waw, lluniau trawiadol o'r lindys a'r gloyn byw.

    ReplyDelete
  2. Diolch Rhys, ond rhaid cyfadda' mai'r lindysyn/gwyfyn sy'n drawiadol yn hytrach na'r ffotograffiaeth!

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau