Yn ogystal â'r effaith erchyll ar fywydau pobol, a chymdeithas Balesteinaidd yn gyffredinol, mae'r rhyfel yn Gaza, a'r dwyn tir ar y Llain Orllewinol, yn effeithio ar fywyd gwyllt ac amgylchedd y wlad hefyd.
Mae'n anodd cael llawer o ffeithiau am y sefyllfa, ond mae'r Rhwydwaith Amgylcheddol Balesteinaidd a Chyfeillion y Ddaear, yn adrodd bod y rhyfel a'r meddianu tir wedi 'difrodi pob gwedd ar amgylchedd Gaza, ac wedi dinistrio amaeth a bywyd gwyllt yn llwyr.'
Yn ôl Sefydliad Bioamrywaieth a Chynaliadwyedd Palesteina, 'mae dinistrio cynefinoedd naturiol wedi arwain at golled sylweddol mewn bioamrywiaeth.' Ac mae Cymdeithas Fywyd Gwyllt Palesteina yn bryderus iawn am ddyfodol natur yno, gan gynnwys eu blodyn cenedlaethol -gellesg Faqqua (Iris haynei), cymaint y mae eu niferoedd wedi dirywio.
Mae arbenigwyr wedi galw'r dinistr amgylcheddol yn 'ecoladdiad' bwriadol (ecocide) ac y dylid ei drin fel trosedd ryfel arall.
![]() |
Drudwy Tristram (Tristram’s starling, neu grackle. Onychognathus tristramii) ym Mhalesteina. Llun gan Linda Graham, un o fy nghyd-gloddwyr yng Nghymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog. |
Prin ddwy flynadd a hanner sydd ers i mi ddechrau sgwennu colofn i'r Herald Cymraeg.
Amrantiad i gymharu efo cyfraniadau Bethan Gwanas ac Angharad Tomos, ond rydw i wedi mwynhau bob eiliad! Hyd yn oed ar adegau pan oedd hi'n ben-sét ar y deadline, a finna heb unrhyw syniad beth fyddai testun y golofn. Neu os oeddwn yn ansicr sut ymateb fyddai rhywbeth lled-ddadleuol yn gael. Nac wrth boeni'n ddi-hyder nad oedd unrhyw un yn darllen yr erthyglau beth bynnag..!
Bu'n fraint cael rhannu fy angerdd am fywyd gwyllt gogledd-orllewin Cymru a thu hwnt. Er fy mod yn un o olygyddion papur bro cylch Stiniog, ac yn cyfrannu erthyglau a newyddion i hwnnw yn rheolaidd, tydw i ddim wedi ystyried fy hun yn 'awdur' neu'n 'sgwennwr' erioed, ond roedd y profiad -a'r cyfrifoldeb- o geiso diddanu darllenwyr Yr Herald Cymraeg a Dail y Post bob tair wythnos yn wirioneddol werth chweil.
Ond efallai bod ambell un o ddarllenwyr Yr Herald wedi sylwi na fu colofn gan Bethan, Angharad, na finna yn y tri rhifyn diwethaf.
Roedd Bethan wedi gyrru ei herthygl hi yn brydlon ar gyfer rhifyn y 3ydd o Orffennaf, ond chyhoeddwyd mohoni. Doedd neb wedi cysylltu â hi, a doedd dim eglurhad yn y papur 'chwaith. A phan gysylltodd yr awdur â'r golygyddion deallodd eu bod wedi gadael y golofn allan am fod Bethan yn son am erchyllterau zeioniaeth ym Mhalesteina. Roedd y tîm golygyddol yn amlwg ofn trwy eu tinau ar ôl stŵr darllediad y BBC o Glastonbury.
Mae Bethan erbyn hyn wedi dychwelyd at gylchgrawn Golwg fel colofnydd, a dwi'n edrych ymlaen i ddilyn ei hynt a'i hanesion yn fanno.
Gan nad oedd eglurhad nac ymddiheuriad gan olygyddion cwmni Reach yn y rhifyn dilynol, am sensro erthygl Bethan, mi ydw i wedi ymuno efo hi ac Angharad yn eu penderfyniad i beidio bod yn golofnwyr iddyn nhw mwyach.
Corff arbenigol, rhyngwladol, annibynol sy'n hyrwyddo rhyddid y wasg a gwarchod gallu newyddiadurwyr i adrodd y newyddion yn ddiogel ydi'r CPJ (Committee to Protect Journalists), ac mewn adroddiad ar 16eg Gorffennaf maen nhw'n datgelu bod 'o leiaf 178 o newyddiadurwyr Palesteinaidd wedi eu lladd' ers dechrau'r cyfnod diweddaraf yma o ryfela yn Gaza, llawer ohonyn nhw yn cael eu hystyried yn dargedu bwriadol ac yn lofruddiaethau. Mae eraill wedi dioddef ymosodiadau; 89 wedi eu harestio, dau ar goll, a llawer wedi gadael yr ardal mewn ofn.
Mae'n allweddol bwysig felly fod newyddiadurwyr yr ynysoedd yma yn gadarn eu hegwyddorion wrth adrodd y gwir am yr hyn sy'n digwydd yn nhiroedd Palesteina.
Nid Kneecap ydi'r stori. Nid Bob Vylan -nac artistiaid eraill sy'n galw am ddiwedd i'r erchyllterau yn Gaza a'r Llain Orllewinol- ydi'r stori.
Hil-laddiad ac apartheid -ac ecoladdiad- ydi'r stori. Rhaid ei hadrodd yn agored a gonest!
Llun gan John Rowlands (wedi'i gipio o'i fideo a rannwyd ar facebook). Addaswyd y slogan gwreiddiol -Cofiwch Llechwedd- ar gwt weindio un o inclêns Stiniog gan rywun tua dechrau'r mis. |