Mae twmpathau twrch daear yn amlwg iawn ar hyn o bryd. Mewn caeau; ar ffriddoedd; ac ymylon ffordd. Os oes unrhyw greadur yng Nghymru y mae pawb yn gwybod amdano, ac yn gyfarwydd efo’i olion, ond ychydig iawn wedi ei weld, dyma fo. Mamal dirgel sy’n byw dan ddaear, wedi addasu i fod mewn tywyllwch parhaol, bron.
Dyma ran o’r hyn mae ‘Llyfr Natur Iolo’ (Iolo Williams a Bethan Wyn Jones. Carreg Gwalch 2007) yn ddweud amdano: “Cyffredin iawn yng Nghymru a Lloegr, ond absennol o Iwerddon a llawer o ynysoedd yr Alban. Mae’n gwneud gwaith pwysig trwy awyru’r pridd ond nid oes croeso iddo mewn gerddi.” Er bod rhywun yn clywed garddwyr yn brolio weithiau eu bod yn cario’r pridd adra i wella ansawdd y ddaear yn eu gerddi.
Gwahadden ydi’r enw safonol (mole, Talpa europaea) a gwadd yn enw arall, ond heb os twrch daear sydd fwyaf cyffredin yn fy milltir sgwâr i. Gweler y dudalen facebook ardderchog Cymuned Llên Natur am drafodaethau difyr ar arferion y creadur, yn ogystal ac am ei enwau amrywiol, ond hefyd enwau lleol am y twmpathau: priddwal a phriddwadd, twmpath neu docyn, er enghraifft).
Er yn llai cyffredin yn yr ucheldir, mae’r naturiaethwr Bill Condry -yn ei glasur o lyfr ‘The Natural History of Wales’ (Bloomsbury, 1981)- yn cyfeirio at gofnodion o dyrchod daear ddim yn bell o gopa Aran Fawddwy, ar uchder o 870 metr, a’u bod yn medru teithio cryn bellter ar wyneb y tir i gyrraedd ardal newydd. Credaf mae llethrau glaswelltog Cwm Cau ar Gadair Idris ydi’r uchaf i mi eu gweld.
Gall y twrch hel dwsinau o bryfaid genwair (mwydyn/llyngyr daear, earthworm), a’u parlysu efo poer gwenwynig, er mwyn eu cadw’n fyw fel storfa fwyd. Mi ges innau frathiad pan oeddwn yn blentyn.
Codi twrch o’r llawr ar fy ffordd i’r ysgol wnes i, gan feddwl gwneud cymwynas o’i symud o’r palmant lle gwelais i o, i lecyn mwy addas. Ond ches i ddim diolch gan y cythraul bach; dim ond tyllau dannedd bychain a phoenus yn y croen meddal rhwng fy mawd a’r bys blaen!
Rheswm arall nad oedd gen i fawr o amynedd efo tyrchod am gyfnod pan oeddwn yn iau, oedd gorfod aros am fy nhad pan oeddem ni’n crwydro llwybrau yn lleol a thu hwnt: roedd o’n mynnu chwilota (hyd syrffed i mi) yn y tocia pridd am olion archeolegol! Fel chwilio am y nodwydd ystrydebol mewn tas wair...
Ond dyna’n union ydw i’n wneud heddiw, gan weld gwerth a diddordeb mawr mewn hanes lleol ac archeoleg! Cofiaf ei gyffro wrth son am rywun yn canfod blaen saeth mewn twmpath twrch, ddim yn bell o’n bro ni, ac yn wir, gwelais mewn cylchgrawn neu stori bapur newydd flynyddoedd wedyn, am English Heritage, y corff sy’n gofalu am safleoedd hanesyddol dros y ffin, yn defnyddio criwiau mawr o wirfoddolwyr ar safle Rufeinig, i chwilio a chwalu trwy bridd tyrchod am dystiolaeth, heb orfod cloddio yno. Tyrchu o fath gwahanol! Canfuwyd crochenwaith a mwclis, hoelion a gwydr, ac arteffactau eraill.
O chwilio ar y we, mae’n hawdd canfod engreifftiau mewn gwledydd Ewropeaidd eraill yn gwneud rhywbeth tebyg; ac mae ysgolion mewn ambell ardal wedi cymryd y cyfle i chwilio yn y dull yma, fel ffordd syml a rhad o drafod ecoleg a hanes yr un pryd.
Oni fyddai’n rhoi gwefr rhyfeddol i gael blaen saeth o oes y cerrig, neu hen geiniog, dim ond o roi cic sydyn i dwmpath o bridd? Daliwn i gredu!
- - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 20 Chwefror 2025 (dan y bennawd 'Byw dan y ddaear')