Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

29.8.24

Dilyn Afon

Pa le gwell i ddianc oddi wrth yr holl ymwelwyr gŵyl banc na’r Migneint! Ardal enfawr o waundir agored, gwyllt. Lle anial, di-liw, a pheryglus yn ôl rhai, ond tirlun arbennig efo chwedlau gwych a natur rhyfeddol i’m llygaid i!

Ehangder mawr agored Y Migneint; edrych tua Llyn Conwy

Chwilio oeddwn i y tro hwn am darddiad pellaf y dŵr sy’n llifo tua’r gorllewin i Afon Dwyryd, a’r môr ar arfordir gorllewin Cymru. Yr hyn dwi’n obeithio ei wneud yn y pendraw ydi dilyn y dŵr hwnnw o’i darddiad i’r aber. Egin brosiect, heb unrhyw bwrpas mawr gwyddonol nac athronyddol, heblaw rhoi difyrrwch a boddhad i mi! Syniad sydd wedi bod yn troelli yn fy mhen ers darllen ‘Rivers of Wales’ gan Jim Perrin ddwy flynedd yn ôl, yn benodol ei bennod am afonydd Cynfal, Dwyryd a Glaslyn. Syniad sydd -tan rwan- ddim ond wedi ei fyw a’i ddilyn ar fap ar fwrdd y gegin, neu o bell trwy ffenest y car wrth deithio dros y mynydd i Benmachno neu’r Bala!

O be wela’ i, mae llond llaw o lecynnau posib yn y gystadleuaeth ddychmygol hon, ar nentydd uchaf Afon Cynfal (mi ddof yn ôl rywbryd eto efallai at yr afonydd niferus eraill sy’n bwydo’r Ddwyryd): mae blaen pellaf Nant y Pistyll-gwyn, ac un o ganghennau’r Afon Gam yn dechrau -yn ôl mapiau’r Arolwg Ordnans o leiaf- dros y ffin yn sir Conwy. Dyna sy’n codi’r rhain i’r dosbarth cyntaf o ran diddordeb a blaenoriaeth. Mae’r ail yn fwy difyr fyth gan fod pen pellaf Afon Gam o fewn tafliad carreg o ben uchaf Nant yr Ŵyn (hynny ydi, os medrwch daflu carreg 250 metr... sy’n anhebygol iawn i fod yn onest, gan mae dim ond 121m ydi’r record yn ôl llyfr mawr Guiness am sgleintio neu sgimio carreg ar ddŵr. Ond dwi’n siwr eich bod yn deall be sydd gen’ i!). Mae Nant yr Ŵyn yn llifo i’r cyfeiriad arall, i’r dwyrain i Afon Serw, yna Afon Conwy, sy’n llifo wrth gwrs i arfordir y gogledd! 

Ymhellach i’r de, yr ochr draw i Lyn y Dywarchen, mae Nant y Groes, ddim yn bell o’r man lle mae plwyfi Stiniog, Maentwrog ac Eidda yn cwrdd. Mae hynny’n ychwanegu at apêl mynd i fanno hefyd i edrych am hen gerrig terfyn. O groesi’r B4391 wedyn, mi ddowch at y chwaer-nentydd Afon Goch ac Afon Las. Y rhain ydi’r uchaf o’r llednentydd, o gwmpas y 510m, ond yn sicr yn yr ail ddosbarth o ran pellter dwi’n tybio.

 

Edrych tuag at Craig Goch Gamallt. Hyd yn oed llefydd anghysbell ddim yn rhydd o felltith y sbriws...

Mi lwyddais i ddarganfod tarddiad Nant y Pistyll-gwyn, sydd heb os yn sir Conwy, trwy gerdded ar draws y rhos a thrwy’r gors i gyfeiriad Craig Goch Gamallt am rhyw hanner milltir o Ffynnon Eidda, safle hen dafarn Tŷ Newydd y Mynydd, a tharddle arall i Afon Conwy. Gweld lle mae’r dŵr yn llifo yn yr agored cyntaf ydi’r nod. Mae’r dŵr dan yr wyneb ymhellach na hynny hefyd. 

Ond fel bob tro -ac mae’n ddihareb yn ein teulu ni- mi ddenodd pethau eraill fy sylw hefyd! Toreth o lus coch er enghraifft (cowberry, Vaccinium vitis-idea); llawer mwy o ffrwythau na welais i ers talwm iawn. Trueni nad oedd hen dwb hufen ia gen’ i er mwyn hel rhywfaint; ond mae jam lingonberry (enw arall ar y ffrwyth) yn un o’r unig bethau sy’n ei gwneud yn werth ymweld â’r siopau dodrefn mawr glas-a-melyn Swedaidd yna, yn fy marn i! Roedd y llus coch yn tyfu ochr-yn-ochr â choed llus (bilberry, Vaccinium myrtillus) ac wrth gwrs, mi fues i’n pigo a bwyta’r rheiny wrth fynd gan eu bod yn felysach na’u cefndryd cochion, ac hefyd yn tyfu yno oedd creiglus (crowberry, Empetrum nigrum) er nad oedd ffrwythau ar y rhain.

Llus cochion

Tra’n chwilio’n hir am aelod arall o deulu’r llus, sef llugaeron (cranberry, Vaccinium oxycoccos) er mwyn cwblhau’r bedwarawd, daeth ambell ddiferyn o law i wneud i mi edrych i fyny a sylwi fod niwl enwog y Migneint yn dechrau hel. Pingiodd y ffôn i rybuddio am fatri isel yn fuan wedyn, a’r peth doeth i’w wneud oedd anelu’n ôl am y car ac adra am banad. Mi gewch glywed am anturiaethau’r Migneint ac Uwchafon gyda lwc yn Yr Herald Cymraeg dros y misoedd nesa!
- - - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),29ain Awst 2024 (dan y bennawd 'Dilyn Cwrs Afon')

8.8.24

Mae mistar ar fistar Mostyn medden nhw

Rai blynyddoedd yn ôl roeddwn wedi trefnu cael cwmni i dowlyd coed llarwydd (larch) ar gyrion un o warchodfeydd de Meirionnydd, er mwyn adfer coedwig dderw ar y safle. Cwmni arbenigol oedd hwn, yn llifio’r coed efo llaw a thynnu’r bonion allan efo ceffyl, er mwyn creu cyn lleied o lanast a phosib ar lawr y goedwig ac i fedru gweithio ar lethr serth. Roedden nhw wedyn yn llifio’r coed ar felin symudol -yn y fan a’r lle- a’r styllod newydd yn cael eu gosod fel cladin ar waliau estyniad newydd i adeilad ugain llath i ffwrdd.

Pleser pur oedd gwylio’r cob hardd a’i pherchennog yn gweithio, y ddau’n deall eu gilydd i’r dim, a boddhaol oedd gwella cyflwr y goedwig dderw, tra hefyd yn cael defnydd cynaliadwy o’r llarwydd a dorrwyd. Anodd cael deunyddiau mwy lleol na hynny ar gyfer joban adeiladu!

Cwmni arall oedd yn gweithio ar yr estyniad; criw hwyliog o adeiladwyr cydnerth a gwydn, ond un pnawn yn gwbl ddi-rybudd rhedodd un ohonyn nhw i ffwrdd gan floeddio a rhegi er digrifwch a dryswch i bawb arall... Roedd o wedi dod wyneb yn wyneb â phryf oedd wedi ei ddenu yno gan yr oglau coed wedi eu llifio, ac ar ôl i mi orffen chwerthin, mi eglurais wrtho nad oedd y creadur yn beryglus iddo fo, er mor ddychrynllyd ei olwg!


Mae dau enw ar hwn yn Saesneg: giant wood wasp ydi’r mwyaf cyffredin ohonyn nhw dwi’n meddwl, a Geiriadur yr Academi yn cynnig ‘cacynen y coed’. Ond nid wasp mohono, er fod y melyn a’r du yn amlwg iawn arno, nid yw’n gacynen o unrhyw fath. Un o deulu’r llifbryfed (sawflies) ydi o mewn gwirionedd ac mae ‘Llyfr Natur Iolo’ (Iolo Williams a Bethan Wyn Jones, 2007) yn cynnig llifbryf mawr y goedwig, neu corngynffon, fel enwau gwell o lawer. Greater horntail ydi’r ail enw yn yr iaith fain ar y pryfyn trawiadol yma. A hwythau dros fodfedd o hyd, a’r lliwiau’n fygythiol, does ryfedd fod gan bobl eu hofn nhw, yn enwedig o sylwi a’r y ‘corn’ sydd ar y gynffon hefyd! Mae’r prif lun yn dangos un benywaidd, ac mae ganddi hi ail bigyn ar ei thin, sy’n hirach ac yn edrych yn beryclach fyth!

Wyddodydd (ovipositor) ydi hwn, sef pigyn efo dannedd mân (sy’n rhoi’r llif yn enw’r teulu) er mwyn drilio a dodwy wyau mewn pren. Bydd y larfa yn cnoi twnneli trwy’r pren am ddwy flynedd a mwy cyn deor yn oedolyn ei hun i ail-ddechrau’r cylch rhyfeddol.

Er mor ddiniwed ydi’r corngynffon felly, roedd ei olwg yn ddigon i yrru’r adeiladwr druan ar ffo! Ond, mae mistar ar fistar Mostyn ‘ndoes... Tydi larfau’r llifbryf mawr ddim bob tro yn cyrraedd pen eu taith, gan fod pryfyn arall dychrynllyd yr olwg yn eu hela. 


Y tro hwn, wasp ydi hi. Yn yr ail lun mae cledd-gacynen neu sabre wasp. Un o’r cacwn ‘ichneumon’ neu gacwn parasitig -yn wir y mwyaf ohonyn nhw yng ngwledydd Prydain- ac er fod hon eto’n gwbl ddiniwed i bobl, mae ei chylch bywyd tipyn mwy arswydus. Mi welwch ei maint hi ar fy mawd i yn y llun- mae corff hon dros fodfedd o hyd hefyd, ond efo’r wyddodydd hir, mae’r fenyw yn mesur dwy fodfedd drawiadol iawn! Gall y gledd-gacynen arogli larfa corngynffon yn ddwfn yn y pren, ac mae’n tyllu twll newydd a gwthio’i wyddodydd hir i lawr i’r twnnal i ddodwy ŵy ar y larfa druan. 

Bydd cynrhonyn y gledd-gacynen wedyn yn bwyta larfa’r corngynffon o’r tu mewn, gan adael yr organau allweddol tan y diwedd er mwyn cadw ei fwyd yn fyw mor hir a phosib! 

Cofiwch, gall larfa cledd-gacynen fod yn damaid blasus i gnocell yn ei thro hefyd, a dyna sut mae’r byd yn troi. Tydi natur yn rhyfeddol? 

Coedwig gonwydd ydi cynefin naturiol y ddau bryf rhyfeddol yma, ond gallwch ddenu creaduriaid hardd fel y rhain trwy adael twmpathau o goed yn eich gardd ar gyfer bywyd gwyllt. Ewch ati os oes lle gennych.
- - - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),8fed Awst 2024 (dan y bennawd 'Pryfed Arswydus')