Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

18.7.24

Cyfri' Glöynnod

Oes yna unrhyw beth yn well na rhannu eich diddordebau efo rhywun brwdfrydig tybed? Tydi fy nghroen i ddim digon trwchus i fod yn athro, ond mae’n hyfryd cael cyfle i rannu ychydig o wybodaeth o dro i dro on’d ydi. 

Mae ein merch ‘fengaf adra rhwng tymhorau prifysgol ar hyn o bryd a syndod braf yr wythnos dwytha oedd ei bod hi eisiau gwybod enwau glöynnod byw. A ninnau’n cael haf difrifol arall o ran y tywydd, doedd ei hamseru hi ddim yn arbennig o dda, ond feiddiwn i ddim taflu gormod o ddŵr oer ar ei huchelgais newydd! Trwy ryfedd wyrth roedd yn ddiwrnod sych (er nad yn arbennig o heulog, a’r tymheredd yn bendant ddim yn addawol) felly mi aethom ni am dro dros ginio i un o’r dolydd lleol.

Roedd yn amlwg wrth gyrraedd na fyddai’n rhestr ni yn un hir, a’r cymylau’n hel a bygwth glaw eto fyth. Ond roedd yn amlwg hefyd nad oedd ein siwrna’n wag. Uwchben y glaswellt hir oedd pedwar neu bump o löynnod duon, yn hedfan yn herciog ac aflonydd, yn ymddangos yn gyndyn iawn i lanio, felly mi aeth y fyfyrwraig ati’n syth i redeg ar eu hôl dan chwerthin, a chwifio rhwyd i geisio dal un. Doniol oedd yr olygfa am gyfnod, wrth iddi fethu pob ymgais, nes llwyddo a dathlu’n groch!

Rhoi’r glöyn wedyn yn ofalus mewn pot clir er mwyn cael archwilio. Gweirlöyn y glaw (ringlet, Aphantopus hyperantus) ydi’r glöyn ‘du’ yma; enw addas iawn, gan ei fod yn un o’r glöynnod sydd ar yr adain pan nad oes haul ac yn hedfan mewn glaw ysgafn hefyd, ei liw -brown tywyll mewn gwirionedd- yn cynhesu’n gynt na glöynnod gwynion mae’n debyg. Mae elfen ‘gweirlöyn’ ei enw’n disgrifio ei hoff gynefin, sef glaswelltir, a’i lindys yn bwyta gweiriau amrywiol. Cyfeirio at y cylchoedd ar ei adenydd mae’r enw Saesneg, ringlet, a’r rhain yn fwyaf amlwg o dan ei adenydd pan mae’n gorffwys, neu’n glanio ar flodyn ysgall neu fwyar duon i fwydo ar y neithdar.

Ar ôl rhyddhau’r pili-pala cyntaf yma, i ffwrdd â ni efo’r rhwyd eto yn awchus i ddysgu mwy! Glöyn arall sy’n rhannu’r cynefin yma, a’r gallu i hedfan pan nad yw’r haul yn tywynnu, ydi gweirlöyn y ddôl (meadow brown, Maniola jurtina), ac mi ddaliwyd un o’r rheiny ymhen hir a hwyr. Tynnu llun, astudio, trafod; ac yna rhyddhau’r creadur i fwrw ymlaen efo’i fywyd heb fwy o ymyrraeth. A ninnau yn ôl at ein gwaith a’n paneidiau aballu. Gobeithio cawn fynd eto!

Does gen i fawr o ddiddordeb mewn tennis. Ond dwi’n mwynhau bythefnos Wimbledon am fy mod yn cael darllen gyda’r nos heb deimlo’n anghymdeithasol, gan fod aelodau eraill y teulu’n dilyn y gemau yn ddyddiol. Un o’r llyfrau gafodd sylw oedd ‘Silent Earth’ gan Dave Goulson, sy’n gofnod brawychus iawn o’r dirywiad a fu yn amrywiaeth a niferoedd pryfetach o bob math, a’r cynefinoedd y maen nhw’n ddibynnu arnynt. Mae’r ystadegau yn wirioneddol ddychrynllyd, ond fel mae is-deitl y llyfr ‘Averting the insect apocalypse’ yn awgrymu, nid newyddion drwg yn unig sydd ganddo, gan fod chwarter ola’r llyfr yn rhannu syniadau ymarferol ar sut fedr llywodraethau ac asiantaethau ac unigolion fel chi a fi newid trywydd y byd ac anelu am ddyfodol gwyrddach, glanach a gwell! 

Hyd yma, bu’n flwyddyn sobor o sâl am löynnod byw, ac mae tywydd Meirionnydd yn parhau’n siomedig wrth i’r ysgrif yma fynd i’r wasg, ninnau bellach ynghanol Cyfrifiad Mawr y Glöynnod, neu’r ‘Big Butterfly Count’ blynyddol. Mae gennym ni hyd at ddydd Sul, 4ydd Awst i gymryd rhan yn yr arolwg pwysig yma.

Ewch i wefan butterfly-conservation.org i lawrlwytho taflen adnabod -yn Gymraeg, Saesneg, neu Gaeleg, a’r cwbl sydd angen ei wneud wedyn ydi gobeithio am diwrnod digon braf a dewis lleoliad i eistedd am chwarter awr yn nodi pa löynnod welwch chi, a’u niferoedd. Gallwch wneud hyn yn eich gardd, mewn parc, mewn cae, neu ar ben mynydd os hoffech. Yn wir, mae croeso i bawb wneud mwy nag un safle. Rhoi’r wybodaeth i’r wefan (neu ap ar y ffôn) a dyna ni, byddech chi wedi cyfrannu at ymchwil hir-dymor gwerthfawr iawn. Croeswn ein bysedd am haul rwan!
- - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),18fed Gorffennaf 2024