Mae’r tywydd bob tro’n well yn Llandudno a Phenrhyn y Creuddyn nag ydi o adra yn yr ucheldir dri-chwarter awr i lawr yr A470, ac wrth barcio ger mynedfa gwarchodfa Bryn Pydew mae’r drain duon eisoes yn blodeuo ganol y mis bach.
Tu draw i’r giât mae’n fyd cwbl wahanol hefyd. Yn fy milltir sgwâr, mae asgwrn y graig sy’n freichled i dref Stiniog (i arall-eirio’r bardd Gwyn Thomas) yn folcanig a chaled a’r pridd yn sur a di-faeth. Ar y cyfan mae’r botaneg yn anniddorol yno. Ym Mryn Pydew ar y llaw arall, ar y garreg galch, mae’r planhigion yn amrywiol iawn a llawer ohonyn nhw’n ddiarth iawn i mi.
A dwi yn fy elfen yn chwilota a thynnu lluniau, wrth i’r haul g’nesu ‘nghefn ar ddiwrnod i’r brenin. Yn wybebu’r ymwelydd ar ddechrau llwybrau’r safle mae llwyni meryw (juniper) a chrafanc yr arth ddrewllyd (stinking hellebore) fan hyn-fan draw. Wedyn daw’r coed yw (yew) a rhedyn tafod yr hydd (hart’s tongue) yn eu cysgod. Y cwbl, a mwy wedyn, yn blanhigion sy’n ffynnu mewn pridd calchog.
Palmentydd calch ydi prif atyniad y safle i mi, a’i gasgliad arbennig o blanhigion, er bod canol Chwefror wrth reswm yn rhy fuan i weld gwir gyfoeth y lle. Dyma gynefin prin iawn yng Nghymru, lle mae calchfaen yn brigo i’r wyneb, a miloedd o flynyddoedd o law -yn enwedig y glaw asid ers y chwyldro diwydiannol- wedi ei dreulio a’i erydu i greu cyfuniad o holltau, tyllau, a blociau yn batrwm cymleth di-drefn o graig a gofod, a phlanhigion yn brwydro am le mewn pridd tenau rhwng y cerrig.
Ymweliad â Pharc Cenedlaethol Bhoirne (y Burren) yng ngorllewin Iwerddon wyth mlynedd yn ôl oedd y tro dwytha i mi fwynhau rhyfeddodau palmentydd calch a gallwn fod wedi treulio wythnos gyfan yn gwerthfawrogi’r tegeiriannau a blodau gwyllt anghyfarwydd, a glöynod byw, gwenyn a phryfetach y lle hudol hwnnw. Dwi’n cywilyddio braidd fy mod i wedi anwybyddu’r cynefin yma adra yng Nghymru, ond mi af eto i Fryn Pydew yn y gwanwyn a’r haf eleni, er mwyn gwylio’r graig a’r glaswelltir calchog yn dod yn fyw efo bywyd a lliw.
O gymharu efo ehangder mawr palmentydd Swydd Clare, bychan iawn ydi maint y cynefin ym Mryn Pydew, ac mae llawer o dystiolaeth yma o’r gwaith parhaol sydd ei angen i’w warchod rhag crebachu ymhellach. Bu chwarel yma ryw dro, ond daeth cloddio’r gorffennol i ben; rhywbeth arall sy’n bygwth erbyn heddiw. Yma ac acw mi welwch olion torri coed a chlirio prysgwydd er mwyn datgelu mwy o’r graig ac agor y glaswelltir. Ardaloedd a gollwyd dan dyfiant trwchus oherwydd diffyg pori: mae bob man heblaw’r mynyddoedd uchaf yn ysu i droi’n goedwig petai ond yn cael hanner cyfle. Da o beth mewn rhai amgylchiadau, ond nid ymhob un!
Mae rheoli coed cynhenid fel y gollen a’r onnen yn un peth, ond mae yma elyn didrugaredd arall i gyfoeth y safle hefyd, sef planhigion anfrodol, sy’n lledaenu i bob twll a chornel gan arwain at ddirywiad ym maint ac ansawdd y cynefinoedd prinach yr ydym yn eu gwerthfawrogi. Planhigion fel y derw bythwyrdd (holly oak), a’r cotoneaster a’i frigau’n ymestyn fel esgyrn pysgod noeth yr adeg hyn o’r flwyddyn, eu hâd wedi’u gwasgaru o erddi’r cyffiniau gan adar. Braf oedd gweld olion rheoli ar y rhain hefyd wrth grwydro llwybrau’r ardal.
Mae titw penddu’n (coal tit) canu nerth ei ben am gymar wrth i mi adael y safle, ac wrth ochr y ffordd dafliad carreg i ffwrdd, mae’r haul a blodau llachar melyn mahonia -llwyn gardd arall- wedi denu brenhines cacynen gynffon lwydfelyn (buff-tailed bumblebee) allan yn gynnar.
Arwydd nid yn unig o hin fwynach yr iseldir o’i gymharu ag adra, ond hefyd o’r newid hinsawdd sy’n bygwth mwy na dim ond cynefinoedd lleol. Mae’r gacynen hon, yn ne Prydain o leiaf, yn parhau’n effro a gweithgar trwy’r gaeaf erbyn hyn. Gwnawn y pethau bychain ar Ddydd Gŵyl Dewi, ond rhaid hefyd wrth ymdrech sylweddol a hir-dymor i warchod ein byd.
- - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn Yr Herald Cymraeg ar Ddydd Gŵyl Dewi 2023 (dan y bennawd 'Bywyd Tir Calchog')
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau