Fel llawer un arall, dwi heb deithio prin dim ers misoedd, ond dwi wedi llwyddo i ymweld ag ardaloedd newydd o Gymru, a hen rannau o Gymru hefyd, heb adael y tŷ.
Dechrau’r ‘daith’ oedd cael benthyg llyfr gan gyfaill: ‘Yn ôl i’r Dref Wen’ (Barddas 2015) lle mae Myrddin ap Dafydd yn crwydro’r Hen Bowys yn chwilio am y llefydd hynny sy’n ymddangos yng Nghanu Heledd a Llywarch Hen, pan oedd ffinau ein hiaith a’n traddodiadau ymhell i’r dwyrain o ffin bresenol ein gwlad. Dyma gerddi a gyfansoddwyd tua chanol y nawfed ganrif, am ddigwyddiadau dau ganrif a mwy cyn hynny: 1,400 o flynyddoedd yn ôl. Nid y farddoniaeth sydd o ddiddordeb i mi, ond yr hanes: Lle oedd y Dref Wen? Lle oedd Pengwern? Pan ddaw’r normal newydd bondigrybwyll, mae gen’ i restr hir o lefydd i ymweld â nhw!
Mae colli yr Hen Ogledd, ac wedyn yr Hen Bowys yn dal yng nghof ein cenedl, ac wedi ysbrydoli gwaith creadigol modern fel caneuon Tecwyn Ifan, ac at albym eiconig Y Dref Wen es i nesa, i ail-wrando ar ganeuon sy’n gampweithiau. Trwy gytgan anthemig y brif gân-
"Awn i ail-adfer bro
Awn i ail-godi’r to
Ail-oleuwn y tŷ
Pwy a saif gyda ni?"
-mi gafodd fy nychymyg ddychwelyd at nosweithiau cofiadwy yn y Pengwern (Llan, nid Amwythig!), Gŵyl Werin y Cnapan, a chyd-ganu mewn tafarn a thŷ a thân gwersyll sawl eisteddfod yn yr ‘hen normal’ bondigrybwyll.
Aros yn yr Hen Bowys wnes i ar gymal nesa’r daith trwy ail-ddarllen nofel ‘Eryr Pengwern’ (Gomer 1981) ac ymgolli yn rhyddiaith hyfryd Rhiannon Davies Jones. Wrth chwilio am fwy, mi ddois ar draws teyrnged Meic Stephens i Rhiannon DJ ar wefan papur yr Independent, ac fel ei deyrngedau eraill, mae’n ysgrif difyr iawn.
Son am golli tiroedd a symud ffiniau, Epynt dynnodd sylw nesa. Mae’n 80 mlynedd ers i gymuned Gymraeg ei hiaith gael eu gwthio o’u cartrefi a’u gwasgaru i bob cyfeiriad i wneud lle ar gyfer peiriant rhyfel Prydain. Cam erchyll a symudodd ffin yr iaith filltiroedd i’r gorllewin dros nos. Mewn blwyddyn lle’r oedd y cyfyngiadau’n rhwystro nodi’r penblwydd efo protest neu rali ar y mynydd, rhaid oedd bodloni ar y sylw gafwyd ar y cyfryngau.
Mae podlediad Desolation Radio* yn cynnwys sgyrsiau a thrafod difyr a deallus, ar faterion gwladgarol a sosialaidd, ac ymysg y difyrraf ohonyn nhw yn 2020 oedd sgwrs am Epynt efo Euros Lewis. Dyma hanes sy’n ddigon i dorri calon a chodi gwrychyn yr un pryd. Mae hanes Capel Celyn yn weddol hysbys i bawb erbyn hyn, ond ychydig ydan ni wedi glywed am Epynt ar y cyfan. Mae ‘Y Mynydd a Ddiflanwyd’ ymysg nifer o ddarnau sy’n werth gwrando arnynt, gan Radio Beca*.
Er fy mod i wedi moderneiddio rhywfaint trwy wrando ar gerddoriaeth yn ddigidol erbyn hyn, dwi’n dal i fwynhau cael record neu gryno ddisg yn fy llaw; mae’r gwaith celf a’r nodiadau clawr yn ychwanegu cymaint at y profiad. Enghraifft dda o hyn ydi albym Dilyn Afon, gan Cynefin*, sef 'prosiect mapio cerddorol sy’n tynnu llinell o’r gorffennol i’r presennol' gan y cerddor gwerin Owen Shiers. Trwy’r caneuon gwerin hyfryd cawn grwydro de Ceredigion, dilyn taith y bu T.Llew Jones arni ym 1973 yn cofnodi straeon, penillion a chaneuon y trigolion. Hawdd uniaethu efo pryderon Owen am y newidiadau diwyllianol sydd wedi digwydd yno ers hynny, fel ein bröydd i gyd. Cyfrannod at bennod o gyfres The Essay -Folk at Home- ar Radio 3, lle oedd deg o ganwyr gwerin yn trafod cân oedd wedi taro tant yn ystod y clo mawr. Mae honno dal ar gael ar BBC Sounds.
Mae ‘na wledd o lyfrau eraill wedi cael sylw oherwydd y cyfyngiadau teithio, ac mi ‘fues’ i yn Llanrwst, Aberteifi a Threforys efo cyfres ‘Atgofion Drwy Ganeuon’ Carreg Gwalch; i safleoedd archeoleg y Deheubarth efo Rhys Mwyn; ac ar hyd a lled Cymru efo bywgraffiad John Jenkins, arweinydd Mudiad Amddiffyn Cymru, sydd wedi marw’n ddiweddar. Mae’n chwith nad oedd modd i neb fynd i’w angladd; ac mae'n gywilydd cyn lleied o sylw a fu yn y cyfryngau i’w gofio’n iawn.
Heb os, uchafbwynt y flwyddyn oedd Panto* BroCast Ffestiniog. Mi ddangosodd y cynhyrchiad proffesiynol-ei-naws yma bod modd cyflawni llawer iawn pan mae’r gymuned yn tynnu at ei gilydd, a dwi’n mawr obeithio y bydd rhywbeth tebyg bob Nadolig, ac efallai ambell anterliwt yn yr haf hefyd!!
Dyma edrych ymlaen at flwyddyn well yn gymdeithasol a blwyddyn gyfoethog o ran digwyddiadau cymunedol a chyfryngau’n llawn trysorau. Llond y tŷ o ffa i chi gyd.
-----------------------------------
Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2021 Llafar Bro, papur misol cylch Stiniog
* DOLENNI:
Y Mynydd a Ddiflanwyd, Radio Beca
Y Dewin o Zoom -Panto BroCast Ffestiniog
-Yn amlwg, dwi ddim yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau yma felly os aeth rhywbeth o'i le, nid fi wnaeth!
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau